Yn y celfyddydau, mae’n gyffredin iawn i ddarn o waith fod yn seiliedig ar ddarn arall (ac un arall ac efallai un arall). Mae’r byd opera yn enghraifft gwych o hyn a’r adnoddau mwyaf cyffredin ar gyfer eu haddasu’n operâu yw llyfrau. Gadewch i ni ystyried Madam Butterfly gan Puccini, sy’n seiliedig ar y stori fer Madame Butterfly gan John Luther Long, a gafodd ei dylanwadu gan y nofel Madame Chrysanthème gan Pierre Loti, a dylanwadodd y ddau waith ar y ddrama, Madame Butterfly: A Tragedy of Japan gan David Belasco, a wnaeth yn ei dro ysbrydoli Puccini i ysgrifennu’r opera. Yn ystod ei yrfa roedd Puccini hefyd wedi ystyried addasu nofelau eraill yn operâu, gan gynnwys Lorna Doone gan RD Blackmore a Les Misérables gan Victor Hugo, ac nid ef oedd yr unig un.
Ein perfformiadau byw cyntaf ar ôl y pandemig oedd Alice’s Adventures in Wonderland, addasiad gan Will Todd o glasur i blant Lewis Carroll; gyda chymeriadau hoffus Cath Chesire, y Mad Hatter a hyd yn oed Brenhines y Calonnau, yn trawsnewid yn wych i rolau operatig. Llyfr arall i blant sydd wedi’i addasu’n llwyddiannus yw Where the Wild Things Are – nid yw opera Oliver Knussen yn seiliedig ar lyfr lluniau Maurice Sendak yn unig, mae ganddi libreto gan yr awdur hefyd.
Nid y llyfrau byrrach yn unig sy’n gwneud operâu gwych ychwaith – mae nifer o gyfansoddwyr wedi’u hysbrydoli gan straeon epig fel War and Peace gan Tolstoy (Prokofiev), neu weithiau eraill o Rwsia fel Eugene Onegin (Tchaikovsky), neu From the House of the Dead – opera Janáček sy’n seiliedig ar atgofion lled-hunangofiannol Dostoyevsky o fywyd mewn carchar yn Siberia.
Mae gweithiau gan awduron Prydeinig hefyd wedi’u datblygu’n operâu, ac roedd Salome gan Oscar Wilde – sydd ei hun yn seiliedig ar straeon o’r Beibl – yn sail i opera Richard Strauss o’r un enw. Roedd Lucia di Lammermoor gan Donizetti yn addasiad o The Bride of Lammermoor gan Syr Walter Scott. I goffau canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf ac i ddathlu 70 blwyddyn o WNO cyfansoddodd Iain Bell In Parenthesis – lle defnyddiodd gerdd epig David Jones am ei brofiadau ei hun yn y Somme. Mae Bell hefyd wedi addasu A Christmas Carol gan Charles Dickens yn opera un dyn a berfformiwyd gan WNO yn 2015.
Mae rhai o operâu mwyaf poblogaidd heddiw hefyd yn seiliedig ar lyfrau, hyd yn oed os yw’r operâu bellach yn cael eu cydnabod yn ehangach na’r deunydd ffynhonnell gwreiddiol. O Carmen – seiliodd Bizet ei opera enwog ar nofela Prosper Mérimée; i La traviata gan Verdi, fersiwn o’r stori La Dame aux Camélias gan Alexandre Dumas fils'; roedd Albert Herring gan Benjamin Britten yn seiliedig ar stori fer gan Guy de Maupassant: Le Rosier de Madame Husson ac addasiad arall gan Puccini, Manon Lescaut - un o ddwy opera boblogaidd yn seiliedig ar nofel fer Prévost, y llall yw Manon Massenent. Fel Puccini, roedd Benjamin Britten yn ddarllenwr brwd, ynghyd ag Albert Herring fe addasodd hefyd Billy Budd o'r nofel o'r un enw gan Herman Melville.
Mae addasiadau mwy diweddar yn cynnwys The Great Gatsby – trowyd llyfr F Scott Fitzgerald yn opera gan y cyfansoddwr Americanaidd John Harbison yn 1999; neu lyfr Margaret Atwood The Handmaid's Tale gan y cyfansoddwr o Ddenmarc Poul Ruders a'r libretydd Paul Bentley yn 2000.