Newyddion

‘Hits Mawr’ Opera

11 Rhagfyr 2018

Dywedir yn aml wrth bobl sy’n dweud nad ydynt yn ‘gyfarwydd ag opera’ cymaint o opera y maent wedi'i chlywed heb sylweddoli. Mae rhannau eraill o’r diwydiant adloniant yn hoffi opera ac yn cydnabod grym emosiynol a theimladrwydd dramatig aria i bwysleisio hwyl benodol neu i ychwanegu tensiwn. Mae cerddoriaeth neu ariâu o operâu i’w clywed mewn nifer di-ri o hysbysebion, ffilmiau a digwyddiadau chwaraeon. Fel mae’n digwydd, mae’r rhain yn fwy aml na pheidio hefyd yn cyd-fynd â ‘hits mawr’ y byd opera. Opera a’r diwylliant pop mewn harmoni annisgwyl.

Mae’n ddadl y gellir ei hategu yn rhwydd – dyma restr o ariâu adnabyddus sy’n cael eu hadnabod yn fwy aml am eu cysylltiad â diwylliant poblogaidd na’r operâu y maent yn perthyn iddynt:

Aria Brenhines y Nos o’r opera The Magic Flute gan Mozart

Petai rywun yn gofyn i chi enwi rhaglenni teledu neu ffilmiau sy’n cynnwys yr aria hon, byddwch yn gallu ei wneud heb amheuaeth. Mae aria Brenhines y Nos wedi’i gynnwys mewn amryw enghreifftiau gan gynnwys y gyfres deledu Gossip Girl, lle mae’r aria yn cael ei thrafod mewn pennod lle mae’r bobl ifanc yn mynd i’r Metropolitan Opera i weld cynhyrchiad o The Magic Flute. Gellir ei chlywed hefyd yn y ffilm Eat Pray Love sy’n cynnwys y seren, Julia Roberts. Heb anghofio fersiwn Meryl Streep yn y ffilm Florence Foster Jenkins – fe wnawn adael i chi ddarganfod y perl hwnnw eich hunain: (o 0:24)

‘O mio babbino caro’ o’r opera Gianni Schicchi gan Puccini

Yn fwyaf adnabyddus o’r ddrama glasurol A Room with a View, byddai gynulleidfa arall wedi clywed yr aria hon yn y ffilm gomedi Mr Bean’s Holiday.

‘Dido's Lament’ (‘When I am laid in earth’) o’r opera Dido and Aeneas gan Purcell

Mae ‘Dido's Lament’ yn cael ei chwarae bob blwyddyn yn ystod yr Orymdaith Cofio flynyddol yn y Senotaff yn Whitehall ar Ddydd y Cadoediad, ac felly mae'n bosib mai hon yw un o'r ariâu mwyaf adnabyddus ym Mhrydain.

‘Casta Diva’ o’r opera Norma gan Bellini

Byddwch wedi clywyd yr aria hon yn y gyfres deledu Mildred Pierce, ble mae Kate Winslet yn serennu, mewn golygfa yn cynnwys triongl emosiynol blêr a oedd yn adlewyrchu’r geiriau. (Yn y llyfr a oedd y gyfres yn seiliedig arno, roedd opera gwbl wahanol wedi’i chynnwys, sef Andrea Chenier a’r aria ‘La mamma morta’.) Ymddangosodd yr aria hon hefyd yn y gyfres gyntaf o Mr Robot.

Agorawd La forza del destino gan Verdi

Mae’r aria ‘Si un jour’ yn seiliedig ar agorawd La forza, a ffurfiodd ran o dymor Gwanwyn 2018. Mae hefyd i’w chlywed yn y ffilm Jean de Florette neu’r hysbyseb Stella Artois.

Habanera (‘L’amour est un oiseau rebelle’) o’r opera Carmen gan Bizet

Bydd y gynulleidfa ifanc, neu rieni sydd â phlant bach, yn adnabod yr aria o’r ffilm Up gan Pixar, ond mae hi hefyd wedi ymddangos ar y sgrin yn y ffilmiau Girl 6, Magnolia a Bad Santa.

‘Un bel di vedremo’ o Madam Butterfly gan Puccini

Mae’r aria ingol hon yn cael ei defnyddio mewn ffilmiau yn cynnwys Fatal Attraction a Love Is a Many-Splendored Thing.

‘Flower Duet’ o’r opera Lakmé gan Léo Delibes

Gellir dadlau bod yr aria hon yn fwy adnabyddus am ei rhan flaenllaw mewn hysbysebion British Airways, y gyfres deledu Sex and the City a’r ffilmiau Lara Croft Tomb Raider, True Romance a The Hunger Games na’r opera y mae’n perthyn iddi.

Tybir bod y rhan fwyaf o ariâu’r mwyaf enwog ar gyfer y llais benywaidd (y brif soprano fel arfer), ond mewn gwirionedd mae yna nifer o ariâu bendigedig ar gyfer y llais gwrywaidd, tenoriaid fel arfer, ond weithiau i’r baritoniaid hefyd. Mae’r rhain yn cynnwys:

‘Che gelida manina’ (‘Your tiny hand is frozen’) o’r opera La bohème gan Puccini

Mae Commander Data, cymeriad yn Star Trek: The Next Generation, yn canu’r aria yn y bennod gyntaf erioed i gael ei chyfarwyddo gan Patrick Stewart (a wnaeth hefyd serennu yn y gyfres deledu fel Captain Picard).

‘Nessun dorma’ o Turandot gan Puccini

Efallai mai hon yw’r aria enwocaf. Yn dilyn perfformiad Luciano Pavarotti o’r aria yng Nghwpan y Byd 1990, mae’r aria hon yn adnabyddus ym mhob cwr o’r byd. Mae’r Tri Tenor hefyd wedi’i pherfformio. Mae hi wedi ymddangos hefyd mewn sawl ffilm o Mission Impossible: Rogue Nation i The Witches of Eastwick.

‘Largo al Factotum’ o The Barber of Seville gan Rossini

Mae’r aria hon yn dod â Bugs Bunny a ‘The Rabbit of Seville’ yn syth i’r cof. Does dim enghraifft well o bontio rhwng diwylliant pop ac opera. Oni bai eich bod yn ffan o Woody Woodpecker, a wnaeth ganu’r aria yn ei gartŵn ef bum mlynedd yn gynharach. Ond, nid y rhain yw’r unig enghreifftiau comig: mae’r aria hefyd wedi ymddangos yn The Simpsons, Family Guy, Tom and Jerry, Mrs Doubtfire, a hyd yn oed Seinfeld.

Ac, wrth gwrs, o La traviatagan Verdi, yr aria Brindisi (‘Libiamo ne’ lieti calici’) – er mae’n cael ei chanu gan Violetta yn ogystal ag Alfredo. Mae hon yn un aria sydd yn bendant yn adnabyddadwy, hyd yn oed os na allwch ddweud yn bendant ymhle yr ydych wedi’i chlywed o’r blaen. Efallai eich bod wedi’i chlywed mewn hysbyseb lager: defnyddiodd Heineken, the Drinking Song, yn addas iawn, mewn hysbyseb yn llawn yfwyr mewn tafarn gyda’r ‘arwr’ yn ceisio ymlwybro trwy’r dorf heb golli diferyn. Mae hefyd wedi cael ei defnyddio mewn hysbyseb cewynnau… Ond un o’r defnyddiau gorau – mwyaf gwefreiddiol – oedd yn y ffilm o 1945, The Lost Weekend, gan Billy Wilder, a oedd yn bortread gonest iawn o alcoholiaeth.

Rydym wedi cynnwys dwy o’r ariâu uchod yn ein Tymor 2018/2019: the Drinking Song, neu Brindisi, ac aria Brenhines y Nos (un o’r anoddaf i’w canu). Mewn tymhorau diweddar, rydym wedi perfformio pump arall – faint ohonynt ydych chi wedi’u gweld?