Newyddion

Ymateb ein cynulleidfa i Blaze of Glory!

27 Chwefror 2023

Dechreuodd ein Tymor y Gwanwyn 2023 yr wythnos ddiwethaf gydag agoriad ein hopera newydd sbon, Blaze of Glory!. Gwnaeth y stori galonogol am Gymru, glo a chanu corawl, gyda chymorth Côr Meibion Dowlais, argraff dda ar ein cynulleidfaoedd a’n beirniaid fel ei gilydd. Dyma beth o’u barn: 

Heb os, sêr y sioe yw Corws enwog Opera Cenedlaethol Cymru... sy’n cynnig gwefr emosiynol nodedig

The Stage

doniol hyd nes chwerthin allan yn uchel

The Times

chwarae’r holl nodau cywir

The Guardian
The Telegraph

 Rhoddodd ein dilynwyr ar Twitter wybod i ni beth yw eu barn gan ddefnyddio #WNOblaze:

Ar ein Facebook:

Jo Vos
…wrth fy modd, gwahanol, doniol, procio’r meddwl ac wirioneddol werth ei weld 👏👏

Liz Perkins
Llond trol o hwyl a chanu bendigedig.

Laura Requena
Perfformiad gwych, a roddodd adloniant i ddal fy sylw i a fy merch (sy’n dal yn blentyn) drwyddo draw. Cast mor dalentog a pherfformiad rhagorol 🎭 Rwy’n meddwl bod fy merch eisiau cyfarch ei holl athrawon yn yr un ffordd â’r olygfa agoriadol ddydd Llun!

Jen Batters
"It's not over till the bearded alto sings!" Arbennig, diolch WNO 💙

Mary Horton
Noson hyfryd, da iawn, roedd yn berfformiad gwych a gwnaeth y cyfeiriad at dafarn y Red Cow i mi chwerthin.

Nazan Fikret Queenan
Roedd yn drawiadol iawn ac yn codi calon. Roedd yn dangos yr hyn y gall cerddoriaeth a chymuned ei wneud i bobl, yn ystod cyfnodau anodd. Da iawn i bawb a fu’n rhan ohono.

Vanessa Bassett
Noson mor wych! Canmoliaeth i bawb a fu’n rhan ohono. Llongyfarchiadau i chi gyd x

Joy Pinnow
Perfformiad teimladwy ac arbennig iawn. Gwych!

Gallwch fwynhau ein hopera newydd, Blaze of Glory!, yng Nghaerdydd tan ddydd Sadwrn 18 Mawrth, ac yna ar daith yn Llandudno, Milton Keynes, Bryste, Brimingham a Southampton y Gwanwyn hwn.