Mae cyflwyno cerddoriaeth glasurol i genhedlaeth newydd o blant yn un o’n hoff bethau i’w wneud yma yn Opera Cenedlaethol Cymru. Os ydych yn chwilio am gerddoriaeth glasurol ddiddorol i blant, rydych chi yn y lle cywir. Dyma rai o'n ffefrynnau i chi eu hychwanegu i’ch rhestr chwarae.
Mussorgsky Ballet of the Unhatched Chicks o Pictures from an Exhibition (1874)
Tra bod Pictures from an Exhibition wedi ei ysgrifennu’n wreiddiol gan Modest Mussorgsky ar gyfer y piano, mae’n fwy adnabyddus heddiw fel darn ar gyfer y gerddorfa a drefnwyd gan Maurice Ravel. Yn y trefniant hwn gan John Langley ar gyfer WNO, mae cymysgedd o offerynnau llinynnol, offerynnau chwyth, trympedi a chyrn yn dod ag anhrefn camau cyntaf y cywion yn fyw wrth iddynt redeg a baglu dros y lle.
Grace Williams Fantasia on Welsh Nursery Tunes (1940)
Mae Fantasia on Welsh Nursey Tunes gan y cyfansoddwr Cymreig, Grace Williams, yn ddarn gwych ar gyfer plant, gan ei fod yn cyfuno nifer o hwiangerddi Cymreig gan gynnwys Migildi Magldi, Dacw Mam yn Dŵad, Si hei lwli mabi a Gee Geffyl Bach. Cafodd ei berfformio gyntaf yn 1941 gan y BBC Northern Orchestra (sydd bellach yn cael ei adnabod fel y BBC Philharmonic), ac yn fuan iawn, daeth yn un o ffefrynnau WNO a Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, â’i perfformiodd yn 1946.
Tchaikovsky Waltz of the Snowflakes o The Nutcracker (1892)
Mae The Nutcracker, ballet Tchaikovsky sy’n boblogaidd ymysg plant ac oedolion, yn stori hudolus o antur Nadoligaidd ac yn llawn cerddoriaeth cerddorfa anhygoel, a dawnsiau unigol ac ensemble. Mae’n dilyn hanes Clara a’i gefail gnau ar Noswyl Nadolig. Wedi iddynt drechu Brenin yr Elc, sydd â saith pen, mae’r ddau yn teithio i Deyrnas y Danteithion drwy goedwig binwydd, lle mae hi’n bwrw eira.
Saint-Saëns Aquarium o The Carnival of the Animals (1886)
Byddai unrhyw ran o The Carnival of the Animals gan Camille Saint-Saëns yn ychwanegiad anhygoel at restr chwarae eich plentyn, ond mae’n debyg mai Aquarium yw’r mwyaf atgofus ac arallfydol ohonynt. Mae'r ffliwt, yr harmonica, y ddau biano, y ddwy ffidl, fiola a’r soddgrwth yn cynrychioli’r dŵr godywynnol, a disgleirdeb y pysgod, o fewn acwariwm tawel.
Steve Pickett Alien Party on Planet Zum-Zee o Alien Dances from the Planet Zog (2019)
Yn olaf ar ein rhestr mae'r darn ysblennydd gofodol hwn ar gyfer cerddorfa ac adroddwr gan y cyfansoddwr cyfoes Steve Pickett. Mae’r darn yn seiliedig ar y llyfr Tea on Planet Zum-Zee gan Tony Mitton a Guy Parker-Rees, a bydd llong ofod yn tywys y gynulleidfa i’r alaeth i bartio ar y blaned Zum-Zee. Yn cynnwys caneuon gwasgaredig, bwystfilod mewn llongau lleuad, a chyfranogiad y gynulleidfa, mae'r darn hwn yn eich tywys o amgylch yr alaeth i brofi bywyd ymysg y sêr.
Er mwyn gwrando ar Alien Party on Planet Zum-Zee gan Steve Pickett, a llawer mwy o gerddoriaeth anhygoel i blant, wedi ei berfformio gan gerddorfa fyw, peidiwch â cholli perfformiadau Chwarae Opera YN FYW WNO yn Plymouth, Birmingham a Southampton ar 4, 11, a 25 Tachwedd 2023.