Newyddion

Ein 5 hoff Clasuron Corawl

31 Ionawr 2023

Mae cynhyrchiad newydd Opera Cenedlaethol Cymru o Blaze of Glory!yn seiliedig ar ffawd cymuned lofaol Gymreig leol sy’n dod ynghyd i ailffurfio eu Côr Meibion. Cyn ei berfformiad agoriadol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ddydd Iau 23 Chwefror, beth am i ni gael golwg ar ffefrynnau corawl Cymraeg, yn cynnwys un sy’n cael ei chynnwys yn yr opera.

1. Cwm Rhondda

Cwm Rhondda, a adnabyddir hefyd fel Bread of Heaven, yw un o emynau enwocaf Cymru, ac mae’n gymaint o ffefryn nes y caiff ei chanu ledled y byd a’i defnyddio’n aml yn ystod achlysuron swyddogol, megis y gwasanaeth o ddiolch diweddar i’r Frenhines Elizabeth II yng Nghadeirlan Llandaf ym mis Medi 2022. Gosodwyd geiriau 1762 y bardd William Williams Pantycelyn i gerddoriaeth gan John Hughes ym 1905-07, bron ganrif a hanner wedi i’r geiriau gael eu cyhoeddi am y tro cyntaf.  Mae’n un o ffefrynnau mwyaf corau Cymru, mae’n ddarn sy’n greiddiol i’w repertoire cerddorol ac a glywir yn aml ar recordiadau o gerddoriaeth gorawl Gymraeg yn ogystal ag mewn gemau rygbi cenedlaethol.

2. Tydi a Roddaist

Ysgrifennodd y bardd Cymreig enwog T Rowlands Hughes sgript drama radio i’w ddarlledu ar Ddydd Gŵyl Dewi ym 1938. Y bwriad ar gyfer uchafbwynt y ddrama oedd chwarae emyn Gymraeg wedi’i recordio gan Gôr Meibion Cymreig; y canlyniad oedd cerdd Tydi a Roddaist gan T Rowlands Hughes wedi’i gosod i gerddoriaeth gan Arwel Hughes, a oedd yn gweithio yn adran gerdd y BBC ar y pryd. Mae alaw gyfnerthol a diweddglo pŵerus yr Ameniau yn arddangos grym canu er cariad eich gwlad eich hun. 

3. Tangnefeddwyr

Ysgrifennodd y bardd Waldo Williams y gerdd Y Tangnefeddwyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd mewn ymateb i fomiau Blitz Abertawe ym 1941. Mae gosodiad cerddorol cerdd Eric Jones yn erfyniad am heddwch yn ystod cyfnod o ryfel ac mae i’w chael ar recordiadau gan gorau megis Côr Meibion Fron, CF1, Côr Meibion Cymry Llundain a Chôr Meibion Duvant.

4. Myfanwy

Myfanwy yw un o'r caneuon enwocaf yn y repertoire corawl Cymraeg. Mae geiriau tyner y gân serch a ysgrifennwyd gan Richard Davies (a adnabyddir wrth ei enw barddol ‘Mynyddog’) yn mynd law yn llaw â cherddoriaeth gan Joseph Parry (1841-1903), un o gyfansoddwyr enwocaf Cymru a adnabyddir am gyfansoddi’r opera Gymraeg gyntaf, Blodwen. Perfformiwyd Myfanwy am y tro cyntaf ym 1875 gan Gymdeithas Gerddorol Aberystwyth a’r Brifysgol.

5. Gwahoddiad

Efallai bydd y rhai sy’n credu bod Gwahoddiad yn emyn Gymraeg yn synnu i glywed ei bod wedi’i hysgrifennu a’i chyfansoddi ym 1872 gan y gweinidog a chyfansoddwr caneuon gospel o America, Lewis Hartsough. Cyfieithwyd y geiriau Saesneg i’r Gymraeg yn ddiweddarach gan Ieuan Gwyllt ac ers hynny bu’n hynod boblogaidd ymysg corau Cymraeg. Mae’r darn hyd yn oed yn ymddangos yn opera newydd WNO, Blaze of Glory!, sy’n seiliedig ar gôr meibion sy’n ailffurfio mewn cyfnod o drasiedi.

Dewch i glywed peth o’r gerddoriaeth gorawl Gymraeg orau yn fyw yn ystod Tymor Gwanwyn 2023 WNO mewn perfformiad o Blaze of Glory!sy’n agor yng Nghanolfan Mileniwm Cymru Caerdydd ar 23 Chwefror 2023 cyn teithio i Landudno, Milton Keynes, Bryste, Birmingham a Southampton tan 20 Mai 2023.