Mae Cymru, 'Gwlad y Gân’, yn un o'r gwledydd mwyaf cerddorol yn y byd, ac mae'r brifddinas yn sicr yn cyfleu’r enw da hwnnw.
Ar ddydd Llun 15 Ebrill 1946, rhoddodd Opera Cenedlaethol Cymru ei berfformiad opera llawn cyntaf yn Theatr Tywysog Cymru yng Nghaerdydd - Cavalleria rusticana a Pagliacci dan arweiniad Idloes Owen. Ym 1954, symudodd y Cwmni i'r New Theatre a pherfformiwyd yr opera terfynol yno bron i 50 mlynedd yn ddiweddarach, cyn sefydlu ei ganolfan newydd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Perfformiad cyntaf WNO ym Mae Caerdydd oedd La traviata ddydd Gwener 18 Chwefror 2005.
Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn gartref i nifer o gwmnïau celfyddydau gwych gan gynnwys Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, sydd wedi'i lleoli yn Neuadd Hoddinott y BBC. Mae BBC NOW wedi chwarae rhan annatod yn nhirlun diwylliannol Cymru ers dros 90 mlynedd ac mae'n un o gerddorfeydd trac sain mwyaf blaenllaw'r DU. Mae'r gerddorfa hefyd yn llysgennad cerddoriaeth Gymraeg, gan hyrwyddo cyfansoddwyr a cherddorion cyfoes. Mae Cerddorfa WNO a’r BBC NOW yn cymryd rhan yn un o ddigwyddiadau cerddoriaeth glasurol mwyaf adnabyddus Caerdydd - Cystadleuaeth Canwr y Byd BBC Caerdydd. Fe'i sefydlwyd ym 1983 ac mae'r gystadleuaeth bob dwy flynedd yn cael ei hadnabod fel llwyfan i gantorion opera a chyngerdd ar ddechrau eu gyrfaoedd ac mae wedi lansio sêr mawr, gan gynnwys Dmitri Hvorostovsky, Jamie Barton a Bryn Terfel wrth gwrs.
Agorodd Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru, Neuadd Dewi Sant, hefyd ym 1983. Yn ogystal â chynnal Cystadleuaeth Canwr y Byd BBC Caerdydd, mae Neuadd Dewi Sant yn neuadd gyngerdd ryngwladol sy'n cynnal Proms Cymru ac ystod eang o ddigwyddiadau cerddoriaeth fyw. Mae Prifddinas Cymru hefyd yn gartref i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Sefydlwyd y conservatoire am y tro cyntaf yn 1949 fel Coleg Cerdd Caerdydd yng Nghastell Caerdydd cyn symud i adeilad addas ar dir Parc Bute. Newidiodd ei enw i Goleg Cerdd a Drama Cymru ym 1970 a dyfarnwyd ei deitl Brenhinol iddo yn Jiwbilî Aur y Frenhines yn 2002. Agorwyd estyniad newydd y Coleg yn 2011, gan gynnwys Neuadd Gyngerdd Dora Stouzker a Theatr Richard Burton.
Fel prif gwmni opera cyfoes y DU, mae Music Theatre Wales wedi bod yn creu opera a theatr gerddoriaeth newydd yng Nghaerdydd ers 1988. Yn 2020 lansiodd MTW Cyfeiriadau Newydd a'i gynhyrchiad byw nesaf, Violet, gan Tom Coult ac Alice Birch (cyd-gomisiwn wedi ei gyd-gynhyrchu gyda Britten Pears Arts a'i gynnal ar y cyd â London Sinfonietta), fydd un a drefnwyd i’w berfformio gyntaf ym mis Mehefin 2022. Cwmni opera arall o Gaerdydd sydd wedi bod yn brysur yn ystod y cyfyngiadau symud yw Opera'r Ddraig a pherfformiodd Bhekizizwe gan Robert Fokkens a Mkhululi Matyalana Ka Mabija am y tro cyntaf fel rhan o Ŵyl 2021.
Mae sîn gerddoriaeth Caerdydd yn destun cenfigen i lawer o ddinasoedd mwy ac mae ei hamgueddfeydd, orielau a theatrau fel arfer yn cynnal ystod eang o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn. O Theatr Donald Gordon yn llawn i’r ymylon, i gigiau ar Womanby Street a'r anthem genedlaethol yn cael ei chanu gyda balchder yn Stadiwm y Principality, disgwyliwn yn eiddgar i strydoedd Caerdydd fod yn llawn cerddoriaeth fyw unwaith eto.