Mae cerddoriaeth Tosca yn hynod adnabyddus, yn rhannol am ei gallu i greu amrywiaeth o emosiynau pwerus. Mae ei hariâu'n arbennig o bwerus, gan dynnu cynulleidfaoedd i grombil bydoedd mewnol y cymeriadau wrth iddynt fyfyrio ar gariad, bywyd a cholled. Dewch i ni nawr, heb oedi rhagor, eich tywys ar daith gerddorol, sy'n ymchwilio i dair aria drawiadol o Tosca.

Recondita armonia
Gan ddechrau yn Act Un, mae gennym Recondita armonia (Am harmoni hynod a hyfryd), a genir gan Cavaradossi. Yn yr aria denor hon, mae Cavaradossi yn synfyfyrio ar y gwahaniaethau rhwng ei baentiad o Mair Magdalen a'i gariad Tosca, gan ganu 'mae'th lygaid yn las tra bo rhai Tosca yn dywyll /Mae dirgelwch celf yn cyfuno'r ddwy ferch brydferth ynghyd'. Mae'n canu ag angerdd, gydag offeryniaeth ysgafn yn cynnwys soddgrythau a llinynnau tawel, yn ogystal â chlarinet sy'n chwarae cyfalaw hyfryd. Mae'r aria'n gorffen gyda'r datganiad rhamantus 'Ond wrth i mi ei phaentio, mae fy meddyliau i gyd amdanat ti', sy'n cyfleu serch Cavaradossi tuag at Tosca.
Vissi d’arte
Aria fendigedig arall yw'r eiconig Vissi d’arte (Rwyf wedi byw am gelf), a genir gan Tosca yn Act Dau. Yn ein cynhyrchiad ni, daw hyn ar ôl iddi weld Cavaradossi yn cael ei arteithio gan Scarpia, sydd wedyn yn ymosod arni hithau'n ddiweddarach. A hithau gaeth yn ei ystafell wely, mae'n cwestiynu pam y cafodd ei thrin mor greulon, gan erfyn nad yw hi erioed wedi gwneud dim drwg i neb a phob amser wedi bod yn hael a ffyddlon, ac yn gofyn 'Yn fy awr o angen, Arglwydd, / pam wyt ti'n fy ngwobrwyo i fel hyn?' Mae'r aria soprano yn hynod o heriol, ac mae gofyn i'r gantores reoli ei hanadl yn dda a mynegi emosiynau dwys. Pan gaiff ei pherfformio'n dda, mae'n deimladwy iawn, gan greu cysylltiad cryf rhwng y gynulleidfa a Tosca wrth iddi ddatgelu ei bregusrwydd a'i thorcalon.
E lucevan le stelle
Yr olaf ond yr un mor bwysig, yw aria E lucevan le stelle (Ac roedd y sêr yn disgleirio) Cavaradossi. Mae'r aria hon, a berfformir yn Act Tri, yn gweld Cavaradossi yn myfyrio ar ei fywyd wrth iddo baratoi i farw. Mae'n dechrau gydag unawd clarinet atgofus sy'n chwarae'r alaw; yn ein cynhyrchiad ni, mae'r gromen aur enfawr y tu ôl iddo hefyd yn troi'n awyr dywyll llawn sêr. Yna, mae Cavaradossi yn disgrifio ei gyfarfod olaf â Tosca, gan osod yr olygfa â manylder hyfryd: 'Gwichiodd gât yr ardd / a throediwyd y tywod. / Yn bersawrus, daeth i mewn / a disgynnodd i'm breichiau'. Mae'n hel atgofion am eu cariad, ac mae'r aria'n mynd yn uwch wrth iddo ganu'n ofidus 'Mae'r foment wedi mynd heibio ac rwy'n marw'n anobeithiol', gyda chefnogaeth llinynnau dramatig. Paratowch eich hun ar gyfer dagrau wrth i'r llinell olaf 'Nid wyf erioed wedi mwynhau bywyd cymaint â hyn' atseinio drwy'r awditoriwm.
Felly, i unrhyw un nad ydynt yn gyfarwydd â Tosca, byddem yn argymell gwrando ar yr ariâu celfydd hyn yn fawr. Cofiwch hefyd gadw llygad ar ein cyfryngau cymdeithasol, lle byddwn yn rhannu rhywfaint o'r gerddoriaeth o'r cynhyrchiad hwn, ynghyd â chlipiau difyr o du ôl i'r llen!