Newyddion

Portread o Fam: Kostelnička Buryjovka

27 Mawrth 2022

Does dim byd tebyg i gariad mam, ond pa mor bell fyddech chi'n mynd i amddiffyn eich plentyn? Mae ein rhaglen ar gyfer Tymor y Gwanwyn yn cynnwys opera ingol gan Janáček, sef Jenůfa, sy'n troi o gwmpas cariad mam at ei phlentyn a'r eithafion y mae'n fodlon mynd iddynt i'w chadw rhag niwed. Gyda Sul y Mamau ar y gorwel, mae'n adeg berffaith i edrych ar y ffordd y caiff Kostelnička Buryjovka ei phortreadu, o'i gweithredoedd diniwed o gariad mamol i'r rhai hollol ddychrynllyd.

Rhybudd: Difethwyr o'ch blaen

Ar ddechrau'r opera, caiff Kostelnička ei phortreadu fel mam gref a gofalgar sy'n cadw'r codwyr twrw oddi wrth ei merch. Daw Števa, tad plentyn Jenůfa sydd heb ei eni eto, i mewn i'r olygfa yn feddw, gan frolio'n uchel am ei lwyddiant gyda merched eraill. I geisio amddiffyn Jenůfa rhag ei ffyrdd anffodus, mae Kostelnička yn camu i mewn ac, yn llawn awdurdod, mae'n atal Števa rhag priodi Jenůfa nes ei fod yn gallu aros yn sobr am flwyddyn gyfan. Yn ddiweddarach, wedi i feichiogrwydd Jenůfa gael ei ddatgelu, caiff Kostelnička ei chymell gan ei chariad mamol unwaith eto, ac mae'n gwarchod Jenůfa rhag cywilydd drwy ganiatáu iddi fagu'r plentyn yn y dirgel. Mae hi hyd yn oed yn mynnu bod Števa yn cymryd cyfrifoldeb dros ei blentyn.

Yn hanner cyntaf yr opera, mae gweithredoedd Kostelnička yn rhai y byddai rhywun yn disgwyl eu gweld gan fam ofalgar a chefnogol, a dim mwy na hynny. Ond, mae rheswm da pam mae'r opera hon yn enwog am ddwyster y ddrama ynddi ac am ei throeon annisgwyl. Y ffordd y mae Janáček yn datblygu cymeriad Kostelnička sy'n gwneud yr elfen ddramatig yn yr opera yn debyg i'r hyn a geir mewn opera sebon, wrth iddo ddatblygu greddf ddiniwed a gwarcheidiol mam i fod yn weithred ddychrynllyd a sinistr.

Yn ail hanner yr opera, mae Kostelnička yn datgelu genedigaeth plentyn anghyfreithlon Jenůfa i Laca, dyn sydd wedi caru Jenůfa erioed. Yn anffodus, mae'r syniad o fagu plentyn Števa fel ei blentyn ei hun yn codi braw ofnadwy arno. Pan fo Kostelnička yn gweld ymateb Laca, mae'n dechrau pryderu na fydd neb eisiau priodi Jenůfa byth, ac mae'n penderfynu dweud celwydd wrth Laca drwy ddweud wrtho y bu'r plentyn farw. Gan nad yw'n gweld ffordd arall o guddio'r ffaith ei bod wedi dweud celwydd, mae'n penderfynu mai'r unig ddewis sydd ganddi yw troi'r celwydd yn wirionedd. Gan ddefnyddio ei chariad fel mam fel y grym sy'n ysgogi ei gweithredoedd, mae Kostelnička yn gadael y tŷ gyda'r bwriad o amddifadu Jenůfa o'i mamolaeth.

Yn eironig, cariad Kostelnička at ei phlentyn sy'n achosi ei chwymp anochel. Mae'r opera'n gorffen pan ddarganfyddir corff y baban o dan y rhew toddedig. Yn llawn dicter, mae'r pentrefwyr yn bwrw'r bai ar Jenůfa, sy'n cyfaddef mai ei phlentyn hi ydyw. Gweithred olaf Kostelnička o gariad ac amddiffyniad mamol yw cyfaddef i'r drosedd. A yw gweithredoedd Kostelnička yn rhai cyfiawn? A yw ei gweithredoedd yn deillio o'i chariad mamol? A yw hi wedi rhoi anghenion Jenůfa o flaen ei hanghenion ei hun? Beth am fynychu un o'n perfformiadau o Jenůfa gan Janáček y Tymor hwn a phenderfynu drosoch chi'ch hun?