Newyddion

Prokofiev, cyfansoddwr i bob oes

3 Hydref 2018

P’un a ydych yn ddilynwr cerddoriaeth glasurol ai peidio, rydym oll yn gyfarwydd â gweithiau’r cyfansoddwr Rwsiaidd, Sergei Prokofiev.

Wedi’i eni ym mhentref Sontsovka, roedd Prokofiev yn arloeswr mentrus a fyddai’n osgoi’r llwybr arferol mewn celfyddyd. Fel rheol byddai ei gyfansoddiadau yn ysgogi dryswch gwirioneddol neu feirniadaeth hallt pan fyddent yn cael eu perfformio am y tro cyntaf, ond erbyn heddiw ystyrir llawer ohonynt yn gampweithiau’r celfyddydau cerddorol.

Trigain mlynedd wedi’i farwolaeth ac mae ei weithiau’n parhau i fod yn berthnasol ac yn dal i gael eu defnyddio’n rheolaidd.


The Apprentice

Dwm-da-dwm-da-dwm-da…. ie, rydych wedi taro’r hoelen ar ei phen, cyfansoddwyd arwyddgan guriadol sioe gêm realiti poblogaidd y BBC, The Apprentice, gan Prokofiev. Mae’r thema, ‘Dance of the Knights’ o’r ballet Romeo and Juliet wedi dod yn waith eiconig, ers ei sioe agoriadol ym 1935. Mae’r ballet yn adrodd stori drasig cariadon anffortunus Shakespeare a’r rhyfel rhwng y ddau deulu. Felly, nid yw’n syndod bod yr uchafbwynt hwn yn y ballet yn un o’r darnau cerddorol mwyaf dramatig a ysgrifennwyd erioed. Nid yw’n syndod, ychwaith, bod cynhyrchwyr The Apprentice eisiau ychydig o’r ddrama honno ar gyfer eu harwyddgan. Gyda’i gyrn cryf, bas a llinynnau cyffrous, dyma un o weithiau mwyaf poblogaidd y cyfansoddwr Rwsiaidd o’r 20fed ganrif. 


Sting

‘Believe me when I say to you, I hope the Russians love their children too.’ Adnabod y geiriau hyn? Defnyddiodd cyn ddyn blaen The Police, Gordon Matthew Thomas Sumner, neu  Sting fel y mae hefyd yn cael ei adnabod, y symudiad ‘Romance’ o Lieutenant Kijé gan Prokofiev fel y brif thema yn ei gân wrth-ryfel ym 1985, ‘Russians’, a gafodd ei chynnwys ar ei albwm unigol gyntaf. Mae’r gân hon yn sylwebaeth sy’n beirniadu polisi tramor y Rhyfel Oer a oedd bryd hynny yn dominyddu, a’r athrawiaeth o gyd-ddinistr sicr gan yr Unol Daleithiau a’r Undeb Sofietaidd. Ysgrifennwyd Lieutenant Kijé yn wreiddiol i gyd-fynd â’r ffilm yn dwyn yr un un enw. Dyma oedd ei ymgais gyntaf ar gerddoriaeth ffilm a’i chomisiwn cyntaf ac fe’i hystyrir heddiw fel un o weithiau mwyaf adnabyddus Prokofiev. Ar ôl rhyddhad llwyddiannus y ffilm, daeth cyfres pum symudiad Kijé yn rhan o’r repertoire cyngerdd rhyngwladol. 


Peter and the Wolf

Rydym oll wedi mynd ar antur gyda Pedr i’r goedwig, naill ai fel plentyn neu fel rhiant. Ers ei sioe agoriadol yn Central Children’s Theatre ym Moscow ym 1936, mae’r swynol Peter and the Wolf gan Prokofiev wedi cyflwyno miliynau o blant i wahanol offerynnau’r gerddorfa.

Wedi’i recordio fwy na 400 o weithiau mewn 112 o wahanol ieithoedd, erbyn heddiw ystyrir y stori dylwyth teg symffonig hon yn un o ddarnau cerddoriaeth glasurol mwyaf poblogaidd y byd.

Mae’r adroddwyr adnabyddus hyd yma yn cynnwys David Bowie a Dame Edna.


Pam mae hyn yn berthnasol, tybed? Y tymor hwn, mae Opera Cenedlaethol Cymru yn llwyfannu cynhyrchiad epig newydd o War and Peace gan Prokofiev, a gyfarwyddir gan David Pountney ac a arweinir gan Tomáš Hanus. Ar ôl derbyn adolygiadau pum seren yn ein cartref yng Nghaerdydd, bydd y cynhyrchiad yn mynd ar daith i Rydychen, Llandudno, Birmingham a Southampton.