I gyflwyno’r cynyrchiadau terfynol yr ydych chi, y gynulleidfa, yn eu gweld ar y llwyfan pan fydd y llen yn codi, mae cwmni helaeth o bobl wedi bod yn gweithio’n galed ers sawl mis, neu flynyddoedd hyd yn oed o'r cam cynllunio cyntaf. Dyma amlinelliad byr o'r hyn sy'n gysylltiedig â llwyfannu opera newydd.
Mae ein cynyrchiadau yn ganlyniad gwaith ymroddedig llawer o adrannau o fewn WNO, gyda’r gwaith yn dechrau hyd at 5 mlynedd cyn i operâu gael eu llwyfannu pan fydd penderfyniadau'n cael eu gwneud ar ddewis operâu, cyngherddau a digwyddiadau eraill ar gyfer blwyddyn benodol. Ochr yn ochr â hyn mae penderfyniadau i’w gwneud ar yr amserlenni teithio ac, wrth gwrs, cynlluniau ariannol gan gynnwys codi arian.
Cyfrifoldeb y Llyfrgell Gerddoriaeth yw'r cam cyntaf gwirioneddol yn y broses gynhyrchu, mae angen i’r llyfrgell gael y sgoriau ar gyfer yr operâu er mwyn i’r adrannau Cynllunio Artistig (Castio) a Cherddoriaeth ddechrau gweithio gyda nhw – mae hyn i gyd yn gysylltiedig â dechrau’r broses greadigol – dewis y timau creadigol (h.y. y cyfarwyddwyr, dylunwyr set a dylunwyr gwisgoedd) a'r arweinwyr yn y lle cyntaf.
Y cam mawr nesaf yw contractio'r prif artistiaid a chadarnhau’r lleoliadau y bydd yr opera yn teithio iddynt. Mae gwaith ar y sgoriau wedi bod yn parhau hyd at y pwynt hwn, pan wneir penderfyniadau terfynol rhwng y cyfarwyddwr a'r arweinydd ynghylch unrhyw doriadau a/neu ychwanegiadau i'w defnyddio – ac mae'r Llyfrgell Gerddoriaeth nawr yn dechrau marcio'r addasiadau sydd eu hangen.
Mae model cerdyn gwyn cychwynnol yn cael ei ddangos i’r timau artistig a’r uwch dimau a chaiff gwybodaeth am raglen y flwyddyn ei rhannu gyda'r Cwmni ehangach; cyn bod dangosiad blwch model terfynol yn sicrhau bod pawb yn ymwybodol o’r datblygiadau diweddaraf – sy’n ennyn llawer iawn o frwdfrydedd!
Bellach mae yna bethau yn dechrau digwydd ar draws y Cwmni, o gynlluniau marchnata a chreu gwaith celf ar gyfer y tymor, i drefnu tocynnau ar draws y lleoliadau, trefnu dirprwy actorion ar gyfer y prif rannau a’r Corws Ychwanegol, ysgrifennu datganiadau i'r wasg a’r lansiad i’r wasg sy’n digwydd cyn i’r tocynnau ar gyfer y tymor fynd ar werth. Ar yr un pryd, mae ein tîm Ieuenctid a Chymuned yn datblygu'r holl ddigwyddiadau ategol ar gyfer ysgolion ac allan yn y gymuned, yn ogystal â phrosiectau digidol ar raddfa fawr. Nid yw dau dymor fyth yr un fath.
Rydym ni bellach tua chwe mis i ffwrdd o’r ymarfer cyntaf ac mae aelodau’r Corws yn cael eu copïau o'r sgoriau, gyda phob copi wedi’i farcio a'i ddiwygio'n unigol gan y Llyfrgell Gerddoriaeth. Ychydig yn ddiweddarach, mae aelodau’r Gerddorfa yn cael eu rhannau nhw – eto wedi’u paratoi gan y Llyfrgell Gerddoriaeth. Dyma pryd fydd y gwaith ar raglen y tymor i chi ei phrynu yn dechrau hefyd, ac, i lawr y ffordd yn ein gweithdy golygfeydd, bydd Gwasanaethau Theatrig Caerdydd, yn dechrau adeiladu'r setiau a bydd gwaith yn dechrau ar greu’r gwisgoedd a pharatoi'r wigiau. Mae yna tua 9 mis i fynd eto cyn i'r tymor agor.
Yn ystod y misoedd olaf mae digon i'w wneud eto ar draws yr adrannau yn WNO cyn bod ein cynhyrchiad opera newydd yn barod i gyrraedd y llwyfan – a chofiwch fod pob tymor yn cynnwys o leiaf tair opera prif lwyfan, ac efallai cynhyrchiad ar raddfa lai hefyd, ynghyd â chyngherddau ledled y wlad a myrdd o ddigwyddiadau eraill hefyd.
Bellach mae’r gwisgoedd yn cael eu ffitio, ar gyfer y prif artistiaid a Chorws WNO sy’n cynnwys 40 aelod, ar ôl iddynt gael gwybod ym mha gynhyrchiadau y maent yn ymddangos. Mae'r gwahanol fathau o ymarferion yn dechrau ar gyfer Cerddorfa WNO a'r cantorion (y Corws a’r unawdwyr) – y tu ôl i'r llwyfan ar yr hyn rydym ni’n alw’n ‘Stryd Golygfeydd’, yn un o'r tair ystafell ymarfer sydd yr un maint â Llwyfan Donald Gordon yn ein cartref yng Nghanolfan Mileniwm Cymru; yn Neuadd y Gerddorfa neu Ystafell y Corws; cyn iddynt, yn y diwedd, gamu ar y llwyfan ar gyfer yr Ymarferion Llwyfan ac, yn olaf, yr Ymarfer Gwisgoedd unwaith y bydd y tîm Technegol, a’r criw llwyfan, wedi gorffen eu gwaith ar y llwyfan. Diwrnodau yn unig sydd i fynd bellach cyn ein noson agoriadol ac rydym yn wirioneddol barod ar gyfer y tymor i ddod.
Pa gynhyrchiad newydd ydych chi'n gobeithio ei weld yn 2018/2019?