Newyddion

Cyrraedd cymunedau amrywiol trwy gerddoriaeth a chân

26 Gorffennaf 2021

Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn cyrraedd degau ar filoedd o bobl mewn cymunedau amrywiol drwy gerddoriaeth a chân gyda chymorth sefydliad blaenllaw. Mae gan WNO raglen ymgysylltu â'r gymuned helaeth o opera ieuenctid, cyfleoedd hyfforddi i bobl ifanc, corau i bobl gyda dementia a'u gofalwyr a gweithgareddau adrodd storiau i ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae'r prosiectau, sydd wedi’u lleoli yn Ne Cymru, Gogledd Cymru, Gorllewin Canolbarth Lloegr, ac Arfordir Deheuol Lloegr, wedi cael eu cefnogi drwy grant £300,000 gan Sefydliad Garfield Weston.

Yn 2019/2020, cyn COVID-19, cymerodd mwy na 55,000 o bobl ran yng ngweithgareddau ymgysylltu WNO. Ac mae'r timau wedi cynnal nifer o raglenni yn llwyddiannus yn ystod y cyfnodau clo drwy eu symud arlein.

Dywedodd Cyfarwyddwr Rhaglenni ac Ymgysylltu, Emma Flatley: ‘Mae ymgysylltu yn ymwneud â chreu cyfleoedd hygyrch i bawb ymgysylltu â'r gelfyddyd. Rydym yn cyrraedd grwpiau mawr o bobl wahanol gyda chefndiroedd gwahanol yn arbennig y rheiny sydd â phroblemau o ran mynediad neu a all fod wedi'u hallgáu'n gymdeithasol. Mae'n ymwneud â dod o hyd i ffyrdd fel bod gan bawb y cyfle i naill ai gymryd rhan yn ein gwaith neu ein profi.’

Wedi'i lansio yn 1958, mae Sefydliad Garfield Weston yn gorff rhoddi grantiau teuluol sy'n cefnogi cannoedd o sefydliadau ledled y wlad. Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae'r sefydliad wedi rhoddi grantiau gwerth mwy na £90 miliwn i grwpiau sy'n gweithio ym meysydd y celfyddydau, addysg, iechyd, llesiant a chynhwysiant cymdeithasol.

Dywedodd y Cyfarwyddwr, Philippa Charles: ‘Mae WNO yn gwneud llawer o waith cymunedol gyda grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ac ar y cyrion. Mae eu gwaith mor werthfawr, mae'n ymwneud ag ymgysylltu, cyflwyno pleser a phrydferthwch i fywydau pobl, ymgysylltu pobl na fyddai'n canfod eu hunain yn mynd i un o'u sioeau yn naturiol, efallai.’

Un o'r prosiectau a gefnogir gan Garfield Weston yw Côr Cysur WNO sydd wedi'i leoli yn Aberdaugleddau ers hydref 2019. Gan weithio gyda Theatr Torch, Canolfan Ddydd Havenhurst, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro a Chyngor Sir Benfro, roedd y grŵp i ddechrau yn cyfarfod wyneb yn wyneb bob wythnos, gan ddod â mwy na 40 o bobl ynghyd i ganu, bellach mae'n cyfarfod arlein. Mae hefyd wedi cynnal hyfforddiant sy'n ystyriol o ddementia gyda phlant ysgol lleol.

Mae grwpiau Opera Ieuenctid y Cwmni ar gyfer pobl ifanc 7-18 oed ac Opera Ieuenctid Cwmni Ifanc ar gyfer pobl 18-25 oed, hefyd wedi elwa o'r cyllid.