Newyddion

Cofio Andrew Greenwood

18 Ionawr 2021

Gyda thristwch enbyd y dymunwn gwsg mewn hedd ac y ffarweliwn â chyfaill a chydweithiwr annwyl - Andrew Greenwood, ar ôl salwch byr. Ers mwy na phedwar degawd mae Andrew wedi bod yn rhan hanfodol o sîn opera y Deyrnas Unedig, o gefnogi ac arwain cerddorion ifanc, arwain artistiaid a cherddorfeydd blaenllaw i drefnu perfformiadau i rai o brif gwmnïau a gwyliau y DU. Teimlwn yn hynod ffodus y treuliwyd cymaint o'r blynyddoedd hyn yn creu cerddoriaeth gyda'n gilydd yn Opera Cenedlaethol Cymru.

Ganwyd Andrew yn Todmorden, Gorllewin Swydd Efrog, ac esgynnodd i'r llwyfan am y tro cyntaf yn Manchester Grammar School, gan arwain Rhapsody in Blue. Aeth yn ei flaen i astudio cerddoriaeth yn Clare College, Caergrawnt yn 1972 ac yna treuliodd beth amser yn gweithio yn London Opera Centre ac Opera For All cyn ymuno â Staff Cerdd y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden o 1977 hyd at 1984.

Roedd Andrew yn gerddor arbennig iawn a oedd ynghlwm ag Opera Cenedlaethol Cymru am nifer o flynyddoedd. Yn 1984, ymunodd â'r Cwmni fel Meistr y Corws, swydd y bu ynddi tan 1990. Cynorthwyodd i siapio nifer o dymhorau pwysig gyda WNO yn rolau megis Meistr y Corws, Arweinydd ac Arweinydd Cynorthwyol, Pianydd a Hyfforddwr Llais. Yn y blynyddoedd wedi hynny, arweiniodd o leiaf 125 o berfformiadau i'r Cwmni mewn ystod eang o repertoire, a oedd yn dangos ei ystod fel cerddor.


Cyfunodd Andrew ddifrifoldeb ei ddawn gerddorol gyda chymeriad cynnes a synnwyr digrifwch coeglyd, a oedd yn ei wneud yn gydweithiwr perffaith. Wrth i ni'n dau adael WNO, gwnaethom gwrdd eto pan wnaethom gydweithio ar dri chynhyrchiad yng Ngŵyl Buxton, ac roeddwn wrth fy modd pan gafodd ei ddewis fel Cyfarwyddwr Artistig ar fy ôl. Bydd ei golled yn fawr ymhlith pawb ym maes opera'r DU

Aidan Lang, Cyfarwyddwr Cyffredinol


Pleser o'r mwyaf i ni oedd gweithio gydag Andrew a nabod y gŵr yn ogystal â'r cydweithiwr. Ac yntau'n arweinydd hynod ddibynadwy i nifer o gynyrchiadau a chyngherddau dros y 40 mlynedd diwethaf, roedd dylanwad artistig Andrew ar y Cwmni, boed hynny'n arwain a chyfarwyddo neu'n cefnogi eraill, bob amser yn amlwg.

Yn ddiweddar bu iddo ein cynorthwyo'n fawr yn ystod cyfnod dros dro fel Meistr y Corws, y swydd y bu'n ei gwneud yn rhagorol yn y 1980au; ac yntau'n ŵr ifanc â chymaint o'i flaen. O ddod yn ôl ar sawl achlysur, a bod yn rhan o gynorthwyo pawb i wneud eu gorau glas, roedd yn fentor naturiol, bob amser mor hael, awdurdodol a doniol! Bydd ei golled yn amlwg ymhlith ei gydweithiwr yn y rhan hon o'r Cwmni; ei gyfeillion pennaf yn y Staff Cerddoriaeth, y Corws, y Gerddorfa, y Llyfrgell Gerddoriaeth a'r holl Reolwyr Adrannol. Yn sicr bydd nifer yn ei ystyried yn gyfaill annwyl iawn.

Peter Harrap, Cyfarwyddwr y Corws a Cherddorfa


Ar wahân i Opera Cenedlaethol Cymru, gweithiodd gyda Chelsea Opera Group, Oper Köln, New National Theatre, Tokyo, Wexford Opera a chafodd gyfnod hynod lwyddiannus â Royal Danish Opera. O 1996 hyd at 2002, bu'n Gyfarwyddwr Cerddoriaeth English Touring Opera ac yn 2006 ymunodd â Gŵyl Buxton fel Cyfarwyddwr Artistig. Yn ystod ei chwe blynedd wrth y llyw, arweiniodd Maria di Rohan, Mignon, Luisa Miller a chynhyrchiad hynod lwyddiannus o Roberto Devereux.

Bydd colled Andrew yn fawr ymhlith nifer o'i gyfeillion a chydweithwyr agos yma yn Opera Cenedlaethol Cymru a chaiff ei gofio'n annwyl gan bawb a gafodd y fraint o'i adnabod a gweithio gydag ef. Cofiwn am ei deulu ac estynnwn ein cydymdeimladau tuag atynt.