Newyddion

Rhwygodd Rhondda’r rheolau ar daith

5 Gorffennaf 2018

Mae’r Haf wedi bod yn siwrne a hanner hyd yn hyn, ond rydym yn ffarwelio â’n cynhyrchiad newydd Rhondda Rips It Up! am y tro.

Ar 7 Mehefin fe wnaethom berfformio’r premiere byd o’r cynhyrchiad a oedd yn boblogaidd iawn gyda’r gynulleidfa yng Nghasnewydd a oedd yn lleoliad priodol i ddathlu bywyd y swffragét o Gasnewydd. Yn ogystal â derbyn adolygiadau pedwar a phum seren, fe wnaeth Rhondda Rips It Up! ymddangos ar draws y cyfryngau wrth fod ar newyddion BBC ac fe wnaeth Lesley Garrett a Madeline Shaw cael eu cyfweld ar yr Woman’s Hour i Radio 4 BBC.

Fe oedd y gweithgareddau amgylchynol o gwmpas y sioe gerddorol ddoniol yma yn boblogaidd gyda mynychwyr a chynulleidfaoedd. Gyda Chorws Cymunedol o 44 menyw yn canu medli o ganeuon swffragetiaid mewn nifer o leoliadau yn ogystal ag elfen Dewch i Ganu yn y perfformiadau yna oedd yn cynhyrfu’r gynulleidfa cyn i’r llenni godi wrth iddynt chwifio’i fflagiau swffragét a WNO llawn ysbryd y darn.

Dyma ychydig o uchel bwyntiau o’n hamser ar daith Haf yma...



Hoffwn ddweud diolch mawr i bawb a gyfrannodd i’n helpu i rannu stori’r Arglwyddes Rhondda, o’r premiere bythgofiadwy yn Glanyrafon, Casnewydd i deithio ar draws Cymru a Lloegr. Fe welwn ni chi yn yr Hydref. Ewch i’n tudalen digwyddiad i weld ble a phryd allwch chi ddal hwyl a sbri yn y cynhyrchiad yma Hydref yma.