Newyddion

Rhondda Rips It Up!

14 Mawrth 2018

Heddiw lansiodd Opera Cenedlaethol Cymru ei gynhyrchiad newydd sbon diweddaraf, Rhondda Rips It Up! - ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched yn addas iawn. Roedd Margaret Haig Thomas (Arglwyddes Rhondda) yn swffragét dra dylanwadol a chynorthwyodd ei gweithgareddau yn ardal Casnewydd i newid byd merched o safbwynt personol, gwleidyddol a phroffesiynol.

Yn 1908 ymunodd Margaret ag Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched (WSPU), a daeth yn ysgrifennydd ar gangen Casnewydd ac yn gefnogwr i’w hymgyrch filwriaethus. Ymunodd â chefnogwyr Pankhurst, neidiodd ar gar y Prif Weinidog HH Asquith a hwnnw’n symud, a cheisiodd ddinistrio blwch post yng Nghasnewydd gyda bomb gemegol gartref. Yn sgil y gweithgareddau hyn treuliodd gyfnod yn y carchar ym Mrynbuga. Cafodd ei rhyddhau ar ôl cyfnod o ymprydio.

Yn dilyn dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, a phenderfyniad arweinwyr yr WSPU i roi’r gorau i’r ymgyrch filwriaethus dros yr hawl i bleidleisio, ymunodd â’i thad, a anfonwyd gan David Lloyd George i’r Unol Daleithiau i drefnu cyflenwad o arfau ar gyfer lluoedd arfog Prydain. Ym mis Mai 1915, roedd Margaret, ei thad a’i ysgrifennydd yn teithio’n ôl i Brydain ar yr RMS Lusitania pan gafodd y llong ei tharo â torpedo a dannwyd gan long danfor Almaenig - a bu i’r tri oroesi. Wedi marwolaeth ei thad, ceisiodd Margaret gymryd ei sedd yn Nhŷ’r Arglwyddi gan ddyfynnu Deddf (Dileu) Anghymwysterau Rhyw 1919 a oedd yn caniatáu i fenywod ymgymryd ag ‘unrhyw swydd gyhoeddus’. Er gwaethaf ymateb cefnogol ar y dechrau, yn y pendraw pleidleisiodd y Pwyllgor Breiniau yn gryf yn erbyn ple'r Arglwyddes Rhondda. Fodd bynnag, lai na mis wedi ei marwolaeth yn 1958, ymunodd merched â Thŷ’r Arglwyddi am y tro cyntaf o ganlyniad i Ddeddf Arglwyddiaethau am Oes 1958; bum mlynedd yn ddiweddarach, yn sgil Deddf Arglwyddiaethau 1963, caniatawyd i arglwyddesau etifeddol eistedd yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Yn 1920, sefydlodd Margaret Time and Tide, cylchgrawn gwleidyddol ac adolygiad llenyddol, y bu hi’n ei olygu o 1926 hyd ei marwolaeth. Ym myd busnes roedd hi’n gyfarwyddwr ar 33 o gwmnïau, wedi iddi etifeddu 28 o gyfarwyddiaethau gan ei thad. Roedd y mwyafrif o’i diddordebau busnes yn y diwydiant glo, dur a llongau. Fel Arglwyddes Rhondda, etholwyd Margaret yn llywydd benywaidd cyntaf Sefydliad y Cyfarwyddwyr yn 1926, ac yn 2015 lansiodd y Sefydliad y ddarlith flynyddol, Darlith Mackworth, er anrhydedd iddi.

Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi dewis dathlu bywyd y fenyw anhygoel hon mewn sawl ffordd. Yn ogystal â chynhyrchiad llwyfan, cynhelir amrywiaeth o ddigwyddiadau ledled Cymru a Lloegr er mwyn annog cymunedau, sefydliadau ac ysgolion i gyfranogi. Mae’r digwyddiadau hyn yn cynnwys digwyddiad Dewch i Ganu, lle cewch ymuno ag aelodau o’r Cwmni mewn cân cyn y sioe; Corws Cymunedol o ferched fydd ynghlwm â’r perfformiadau theatr; gweithdai gwneud baneri ar gyfer disgyblion Blwyddyn 6 a 7 mewn nifer o ysgolion a phrofiad digidol realiti cymysg. Yn ogystal, byddwn yn cynnal symposiwm ‘Merched mewn Cerddoriaeth’ yng Nghasnewydd gyda’r bwriad o archwilio’r heriau y mae merched yn eu hwynebu yn y byd clasurol.

 Cadwch lygaid ar wno.org.uk/rhondda i gael y wybodaeth ddiweddaraf ac i weld sut y gallwch chi gymryd rhan.