Mae operâu yn dod mewn amrywiol siâp a maint, ac yn cael eu perfformio mewn llu o wahanol ieithoedd, o'r iaith Tsieceg ac Eidaleg i Almaeneg, Rwsieg, Cymraeg a mwy. Heddiw, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Famiaith, rydym yn siarad â'r soprano ac aelod o Gorws Opera Cenedlaethol Cymru, Angharad Morgan, sy'n dweud wrthym sut y mae hi a'i chydweithwyr yn paratoi a pherffeithio eu hieithoedd.
Bydd nifer yn tybio bod cantorion opera yn rhugl yn yr ieithoedd maent yn canu ynddynt, ond fel mae Angharad yn egluro, nid dyma'r achos bob tro. 'Dim perygl. Byddwn wrth fy modd bod yn rhugl; byddai'n gwneud cofio a dysgu gymaint haws. Mae gen i Ffrangeg sylfaenol iawn felly rwy'n iawn os af i Ffrainc; rwy'n credu y gallwn ddilyn sgwrs yn ddigon da yno. Wrth i chi ganu mewn gwahanol ieithoedd rydych yn dysgu ystyr y geiriau a'r cymalau, felly er nad wyf yn gallu cynnal sgwrs, rwy'n credu y gallwn godi ambell i air.'
Mae hyfforddwyr iaith yn gweithio gyda'n cantorion yn gyson yn ystod y broses ymarfer er mwyn perffeithio ynganiad. Fel mae Angharad yn egluro, 'Mae'r hyfforddwr yn dod i'n sesiynau a chywiro unrhyw gamynganiad fel grŵp. Pan rydym yn perfformio rolau neu'n dirprwyo (yn hytrach na chanu yn y Corws), weithiau fe gawn sesiynau un i un lle gallwn ganu drwy bethau, gan addasu a chywiro ein hynganiad wrth fynd yn ein blaen. Yna, unwaith yr ydym yn yr elfen gynhyrchu o'r ymarferion (lle'r ydym yn cyfuno canu gyda symudiad a gwisg), bydd yr hyfforddwr hwnnw'n rhoi nodiadau i ni os ydynt yn teimlo bod rhywbeth yn anghywir. Mae'n wych cael rhywun wrth law fel y gallwch newid unrhyw beth sydd angen ei wneud yn syth. Fel yna, does dim arferion drwg yn cael eu dysgu.
Ond mae rhai ieithoedd yn anoddach na'i gilydd i siaradwyr Cymraeg a Saesneg. Yn gyffredinol, os yw'r iaith yn wahanol iawn i'ch iaith gyntaf, yna mae'r ynganiad yn anoddach i'r siaradwyr anfrodorol. I Angharad, Rwsieg yw'r iaith anoddaf i ganu ynddi.
Er gwaetha'r trafferthion hyn, mae yna fanteision aruthrol i ganu mewn ieithoedd heblaw Saesneg. 'Mae'r manteision o ganu opera yn yr iaith wreiddiol yn aruthrol. Bydd y cyfansoddwr yn ysgrifennu pethau mewn ffyrdd penodol i ffitio'r iaith a bydd y gerddoriaeth yn cael ei lliwio mewn ffyrdd penodol i weddu i hynny. Fel yna mae gennym fewnwelediad, fel perfformwyr, i'r hyn mae'r cyfansoddwyr ei eisiau gennym.
Yn ystod Tymor y Gwanwyn 2023, byddwch yn clywed Cymraeg yn ein hopera newydd sbon, Blaze of Glory!Wedi ei gosod yng nghymuned Cymoedd De Cymru yn y 1950au, bydd y rhan fwyaf o'r opera yn Saesneg, ond bydd elfennau o iaith Gwlad y Gân yn ymddangos. Profwch y stori dwymgalon hon yng Nghaerdydd, Llandudno, Milton Keynes, Bryste, Birmingham a Southampton rhwng 23 Chwefror – 20 Mai.