Newyddion

Gwreichion yn Tasgu

4 Tachwedd 2022

Ar noson tân gwyllt eleni, byddwn yn gweld gwreichion yn tasgu yn yr awyr, ond yn Opera Cenedlaethol Cymru, rydyn ni wedi hen arfer gweld gwreichion yn tasgu ar y llwyfan. O gariad ar yr olwg gyntaf i rwystrau rhwng cariadon, cawn olwg ar rai o gyplau mwyaf cariadus byd opera.

Ar Noswyl Nadolig oer ym Mharis, mae’r wniadwraig Mimi yn curo ar ddrws y bardd Rodolfo wrth iddi chwilio am olau cannwyll ac mae’r ddau yn syrthio mewn cariad ar unwaith. Mae eu perthynas yn datblygu, ond mae Mimi yn brwydro yn erbyn salwch ofnadwy. Mae Rodolfo a’i ffrindiau yn rhoi’r gofal gorau y gallant i Mimi, ond ofer yw’r cyfan. Er mwyn ceisio gwthio Mimi tuag at garwr cyfoethog a allai dalu am driniaeth iddi, mae Rodolfo yn ymwrthod â’i chariad. Fodd bynnag, mae eu cariad yn rhy gryf, ac mae’r cwpl yn dod yn ôl at ei gilydd, ond mae’n rhy hwyr. Mae Mimi yn marw ym mreichiau ei chariad.

Wrth iddi ganu ‘L’amour est un oiseau rebelle’, a dawnsio yn y Café de Lilias Pastas, all Don José ddim peidio â gwirioni ar Carmen brydferth, danllyd. Maent yn syrthio dros eu pennau a’u clustiau mewn cariad ac yn mynd i fyw gyda’i gilydd mewn ogof ar ochr mynydd. Yn raddol, mae Carmen yn diflasu ar Don José ac yn ailgyfeirio ei serch tuag at Escamillo. Er bod Don José gyda’r forwyn Micaela bellach, mae’n mynd yn genfigennus o gariad Carmen ac Escamillo ac yn ceisio adennill ei serch. Mae ei chyn-gariad yn cythruddo Carmen; mae hi’n taflu’r fodrwy a gafodd ganddo i’r llawr, ac mae hynny’n arwain at adwaith marwol.

Mae’r gantores opera a difa mwyaf Rhufain, Floria Tosca, mewn cariad â’r peintiwr Cavaradossi, ond mae’r Pennaeth Heddlu llwgr, y Barwn Scarpia, eisiau ei chael iddo’i hun. Mae Scarpia yn amau bod Cavaradossi wedi cynorthwyo carcharor a ddihangodd ac mae’n llunio cynllun i ddinistrio perthynas y ddau gariad. Mae’n llwyddo i gael Tosca i ddatgelu cuddfan y carcharor a rhan Cavaradossi yn y ddihangfa. Pan gaiff Cavaradossi ei ddal, mae Scarpia yn cynnig bargen arswydus i Tosca – rhaid iddi roi ei hun i Scarpia, neu bydd ei chariad yn cael ei ladd.

Nid yw’r butain llys, Violetta yn gallu deall sut y gallai Alfredo garu rhywun fel hi, yn enwedig gan fod ei dad yn anghymeradwyo’r berthynas. Nid yw Alfredo yn fodlon ildio’i gariad, ac mae’n perswadio Violetta i symud i’r wlad gydag ef i gael bywyd tawel. Mae tad Alfredo, Germont, yn parhau’n anhapus gyda’r ddau gariad ac mae’n darbwyllo Violetta i adael Alfredo, sy’n torri ei galon. Wrth i amser fynd yn ei flaen, aiff Violetta yn sâl, a dim ond wedi iddo glywed ei bod ar ei gwely angau y daw Germont i ddeall y cam a wnaed ganddo a chyfaddef y cyfan wrth Alfredo sy’n dychwelyd at ei wir gariad am y tro olaf.

Dan warchodaeth Tristan, nai y Brenin, mae’r Dywysoges Wyddelig, Isolde ar ei ffordd i briodi’r Brenin Marke o Gernyw. Mae’r ffordd y mae Tristan yn ei thrin yn cythruddo Isolde, ac mae hi’n gorchymyn i’w morwyn gymysgu gwenwyn. Ond mae’r forwyn, Brangäne, yn creu diod cariad, ac wedi iddynt ei yfed, mae Tristan ac Isolde yn cwympo mewn cariad. Pan ddaw’r Brenin i wybod am y garwriaeth, mae’n anfon un o’i farchogion i erlid Tristan, a chaiff yntau anaf marwol. Mae Tristan yn aros i Isolde ddychwelyd ato, ond wrth iddi ruthro tuag ato, mae hi’n sylweddoli ei bod yn rhy hwyr ac mae Tristan yn marw yn ei breichiau.