Newyddion

Uchafbwyntiau Calan Gaeaf Staff

31 Hydref 2020

Calan Gaeaf; amser i roi harddwch o'r neilltu a gwneud y mwyaf o'r pethau arswydus mewn bywyd. Dyma unig adeg y flwyddyn y mae'n dderbyniol i chi wisgo ffrog briodas a gorchuddio eich hun mewn gwaed ffug. Er, nid pawb sy'n mwynhau'r adeg hon o'r flwyddyn ac mae'n bosibl bod eleni eisoes yn teimlo fel hunllef sy'n ein hatal rhag dathlu i'r eithaf, ond rydym yn dal i fod yn awyddus i gofio am Galan Gaeaf. Gofynasom i rai o staff Opera Cenedlaethol Cymru beth yw eu hoff fomentau Calan Gaeaf.

Mae gan opera a Chalan Gaeaf gryn dipyn yn gyffredin: gwisgoedd, colur ac wrth gwrs, y gerddoriaeth. Dywedodd Sian Price, Pennaeth Gwisgoedd WNO, am ei gwisg fwyaf cofiadwy hyd yn hyn:

Felly daw fy ffefryn uwchlaw pob un arall o fersiwn taith fer o Hansel & Gretel. Artistiaid gwadd yn unig oeddynt - cast dwbl (roedd yn fersiwn gynnar o'r teithiau bychain yr ydym yn eu gwneud nawr). Gwisg y Wrach oedd y gorau - yn goch a du - gyda chlogyn anhygoel a oedd gydag wynebau'r holl blant wedi'i baentio ynddo. Roedd yn edrych yn wych ac am syniad clyfar. Cafodd y gwisgoedd eu dylunio gan y Pennaeth Gwisgoedd bryd hynny, Terry Parr ac Ian Jones - Pennaeth Trydan oedd yn gyfrifol am y goleuo. Cafodd ei chreu yn 1990 a'i chyfarwyddo gan ein Cyfarwyddwr Cyffredinol cyfredol, Aidan Lang.

Os wnaethoch chi wirioni gyda'n colur WNO Pride gan Bethan ac yn chwilio am ysbrydoliaeth ar gyfer Calan Gaeaf eleni, dyma Siân McCabe, Pennaeth Colur a Wigiau, yn rhannu ei momentau mwyaf cofiadwy:

Mae fy ffefryn yn dod o From The House of The Dead sydd wedi'i leoli mewn carchar lle nad oeddynt wedi gweld golau dydd. Roedd llawer o bennau moel (wedi'u gwneud gyda chapiau moel), dannedd duon, cornwydydd a chlustiau bob siâp! Cymerodd 2.5 awr i ni wneud colur pawb ar gyfer y sioe.

Rydym yn cyfaddef efallai nad dyma'r ffordd brydferthaf ymlaen ac yn sicr nid ydym yn argymell i chi wneud hwn gartref.

Mae peth o'r gerddoriaeth fwyaf arswydus ac iasol a ysgrifennwyd erioed yn digwydd bod yn rhai o weithiau mwyaf poblogaidd yr opera. Er enghraifft, yn Don Giovanni pan mae The Commendatore yn ailymddangos ar ddiwedd yr opera i lusgo Don i uffern. Felly, trefnwch restr gerddoriaeth gyda chymysgedd o gerddoriaeth operâu a chalan gaeaf, rhowch ddannedd fampir yn eich ceg ac ewch amdani gyda melysion cast ynteu geiniog. Nid bleidd-ddynion yn unig fydd yn udo ar y lleuad eleni.