Fel popeth arall yn y byd, ceir ariâu o bob lliw a llun. Rhain yw’r ‘caneuon’ mewn opera, yr alawon enwog yr ydym yn eu hadnabod ac wrth ein boddau’n eu clywed, ac a ddefnyddir gan y cyfansoddwr i gyfathrebu’r hyn y mae’r cymeriadau’n ei feddwl a’i deimlo. Dyma rai o’r ffurfiau unigryw sy’n ymddangos o fewn rhai o’n hoff operâu.
Arioso
Mae Che puro ciel (Am awyr bur) o Orfeo ed Euridice gan Gluck yn arioso - sef aria fer a chanddi strwythur mwy rhydd, sy’n cael ei hystyried yn rhywbeth rhwng adroddgan (deialog ar gân) ac aria da capo draddodiadol.
Roeddynt yn ddefnyddiol i gyfansoddwyr operâu fel dewis melodig yn lle adroddgan, a ddefnyddiwyd gan Mozart ar gyfer Sobald dich führt dêr Freundschaft(Unwaith caiff eich harwain gan law ffrind) y Llefarydd yn The Magic Flute, a Comfort ye yn Oratorio bythol Handel, Messiah.
Gatalog Aria
Roedd yr aria gatalog yn fath aruthrol o boblogaidd o aria mewn opera buffa (opera gomig) ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. A’r rheiny’n cael eu canu ran amlaf gan brif gymeriad comig yr opera, byddent yn cyflwyno rhestrau cyflym o wybodaeth i gymeriadau eraill, boed yn fwyd, lleoedd neu gariadon.
Yr aria gatalog fwyaf adnabyddus ohonynt i gyd yw honno o Don Giovanni Mozart: Madamina, il catalogo è questo (F’annwyl boneddiges, dyma’r rhestr) a genir gan was a chydymaith Don Giovanni, sef y cymeriad digywilydd Leporello, sy’n adrodd i Donna Elvira holl hanesion rhamantus y merched yr aethpwyd â’u bryd gan ei feistr.
Aria Da Capo
Yr aria Da Capo oedd y math mwyaf poblogaidd o aria o bell ffordd a ganwyd mewn operâu Eidalaidd ar ddechrau’r 18fed ganrif. Mae’n cynnwys tair rhan: prif alaw sy’n cyflwyno testun ac awyrgylch yr aria, adran gyferbyniol gyda thestun gwahanol (yn aml yn y cywair lleiaf), cyn dychweliad yr adran gyntaf. Pan fydd y brif alaw yn dychwelyd, mae’r cantor yn addurno ac yn cyfoethogi ei linell leisiol i arddangos ei ystwythder a’i hyfedredd lleisiol.
Mae Tornami a vagheggiar (Dychwelaf fi i ddioddefaint) o Alcina, sef opera gyfareddol Handel, yn enghraifft wych o aria Da Capo Baróc.
Aria Ddwbl: Cantabile and Cabaletta
Aria hynod yn ystod cyfnod bel canto yr 19eg ganrif oedd yr aria ddwbl, sef dwy aria gyferbyniol a oedd yn dwyn ynghyd rhan cantabile araf, llawn mynegiant, gyda’r cabaletta cyflymach a rhwysgfawr, sydd yn aml yn dangos nodweddion penigamp. O ran arddull, cantabile-cabaletta È strano (Mor ryfedd) - Sempre libera (Yn rhydd o hyd) bythol boblogaidd Verdi o’i opera La traviata oedd uchafbwynt y math hwn o aria.
Rondò
Aria mewn dwy ran yw’r rondò operatig, sy’n agor gyda rhan araf, cyn dod bob yn ail â phrif ran gyflymach o gerddoriaeth. Dyma’r cyfle mawr i’r prif ganwr mewn opera arddangos ei ddoniau cerddorol, a byddai’n cael ei gadw ar gyfer rhan deimladwy a sentimental yn yr opera, tuag at uchafbwynt y plot.
Mae rondò bendigedig Fiordiligi yn Per pietà, ben mio, perdona (Gofynnaf am dosturi, f’anwylyd) Così fan tutte Mozart yn mynegi ei chynnwrf seicolegol mewnol, pryd y mae’n gofyn am faddeuant am dwyllo ei chariad, Guglielmo.
Mae cynhyrchiad newydd Opera Cenedlaethol Cymru o Così fan tutte yn llawn i’r ymylon o ariâu teimladwy, atgofus, a dramatig, felly peidiwch â cholli eich cyfle i weld rhai o gantorion opera gorau’r byd yn eu perfformio yng Nghaerdydd, ac ar daith yn Llandudno, Southampton, Rhydychen, Bryste a Birmingham tan 10 Mai 2024.