Bill ShanklyMae rhai pobl o’r farn bod pêl-droed yn fater o fyw neu farw. Dydw i ddim yn hoff o’r agwedd honno. Gallaf eu sicrhau ei fod yn llawer mwy difrifol na hynny
Mae pêl-droed a chanu’n mynd law yn llaw yn bell mewn hanes, a bydd stadiwm heb y cefnogwyr cartref ac oddi cartref yn canu eu cefnogaeth neu eu dirmyg wastad yn teimlo’n rhyfedd o wag. Gydag ymgyrch Cwpan y Byd Cymru ar y gweill, rydym yn edrych yn ôl mewn hanes i weld sut mae pêl-droed ac opera wedi dod ynghyd dros y blynyddoedd ac wedi cyflawni adegau hynod deimladwy yn y gêm brydferth.
Rydym yn dechrau yn yr Eidal, ar noswyl cystadleuaeth Cwpan y Byd yr Eidal ym 1990. Perfformiodd Y Tri Thenor, a oedd yn cynnwys Plácido Domingo, José Carreras and Luciano Pavarotti ym Maddonau Carcarella hynafol yn Rhufain. Aeth y tri chanwr talentog i’r afael â chyfansoddiad llwyddiannus Puccini, Nessun Dorma, mewn perfformiad a fyddai’n cael ei gofio a’i ddathlu am flynyddoedd i ddod.
Yn 2016, synnwyd y byd pan enillodd tîm pêl-droed Leicester City (Caerlŷ) yr Uwch Gynghrair, sef cystadleuaeth pêl-droed fwyaf Lloegr. Yn ystod y dathliadau, cafodd Andrea Bocelli y tenor enwog ei dywys i ganol Stadium King Power gan reolwr y tîm, Claudio Ranieri, lle perfformiodd Nessun Dorma o flaen 32,000 o gefnogwyr Caerlŷr yn dathlu buddugoliaeth y clwb fel pencampwyr. Mae Bocelli, sy’n gefnogwr brwd dros bêl-droed a thîm Inter Milan yr Eidal, wedi mynegi ei edmygedd am y gêm brydferth yn aml, gan ddweud:
Andrea BocelliGall pêl-droed ddeffro teimladau cyffelyb i’r rhai sy’n eich tanio mewn theatr agored, mewn rhai ffyrdd. Ar y llwyfan opera, yn union fel sydd ar y cae pêl-droed, mae gennym arena o arwyr.
Nid Leicester City yw’r unig dîm o Loegr sydd â chysylltiad â’r byd opera, fodd bynnag; cyn dod yn ffefryn yr Arglwydd Alan Sugar, seiniodd The Montagues and Capulets gan Prokofiev allan o’r Stadium of Light ar ôl iddi gael ei chwblhau yn 1997. Arweiniwyd y timau a oedd yn cystadlu allan o’r twnnel i’r cae yn stadiwm Sunderland gan y gerddoriaeth fygythiol o opera Romeo and Juliet Prokofiev ym 1935, sy’n cael ei hadnabod hefyd fel Dance of the Knights.
Mae pob cefnogwr pêl-droed yn gwybod bod anthem enwog Cynghrair y Pencampwyr, sy’n cael ei chanu cyn bob gêm yn y gystadleuaeth ac yn ystod y darllediad teledu, yn rhan annatod o bêl-droed Ewropeaidd. Efallai bod tarddiad yr anthem hon yn llai adnabyddus. Cafodd ei hysgrifennu gan Tony Britten ym 1992, a’i hysbrydoli gan The Priest of Zadok gan Handel, a chafodd ei defnyddio yn ystod digwyddiadau coroni’r frenhiniaeth Brydeinig. Mae themâu cynhyrfus a chyrn anterthol addasiad Britten yn ffurfio’r cefndir perffaith ar gyfer y fuddugoliaeth a’r digalondid sy’n gwneud pêl-droed yn gêm brydferth.
Wrth i ni ddilyn tîm Pêl-droed Cymru ar eu taith drwy Gwpan y Byd yn Qatar, mwynhewch berfformiad Artist Cyswllt WNO Dafydd Allen a Chorws WNO o Yma o Hyd.