Newyddion

Mae'r syrcas yn dod i WNO

20 Tachwedd 2023

Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn falch iawn o gyhoeddi ei gydweithrediad â chwmni syrcas cyfoes o Gaerdydd, NoFit State, ar gyfer y cynhyrchiad newydd sbon o Death in Venice Benjamin Britten. Gan ddod ag ail-ddychmygiad pwerus newydd o’r opera i gynulleidfaoedd ledled Cymru a Lloegr, bydd y cynhyrchiad yn nodi perfformiadau cyntaf yr opera yng Nghymru.

Mae deunydd ffynhonnell yr opera, nofel fer 1911 Thomas Mann Death in Venice, yn dilyn hanes yr awdur Gustav von Aschenbach sy'n teithio i Fenis i geisio gwella ei ddiffyg awen. Mae'n dod ar draws y bachgen ifanc Tadzio, gan ffoli arno'n gyflym iawn. Yn y testun, fel gyda’r opera, nid yw Tadzio byth yn dweud dim wrth Aschenbach, ac felly mae’r berthynas rhyngddynt yn anghytbwys ac unochrog. I bortreadu hyn orau mewn opera, penderfynodd Benjamin Britten a’i libretydd Myfanwy Piper, gastio Tadzio ac aelodau o’i deulu fel dawnswyr, gan amlygu’r pellter rhyngddynt a’r awdur ac felly gallent fod yn dawel ar y llwyfan.

Yn ein cynhyrchiad newydd mae’r dawnswyr wedi eu castio fel perfformwyr syrcas. Bydd NoFit State yn arwain ar gyfeiriad a dyluniad y syrcas tra bydd y cyfarwyddwr uchel ei bri Firenza Guidi, yn dod â sidanau, strapiau, a rhaffau slac i wella ac ategu'r golygfeydd lle mae'r bachgen ifanc, Tadzio, yn rhyngweithio ag Aschenbach. Bydd Tadzio yn cael ei chwarae gan y perfformiwr syrcas ac amrywiaeth Antony César, enillydd y Golden Buzzer ar fersiwn Ffrainc o Britain’s Got Talent, La France Incroyable Talent. Bydd mam Tadzio, dysgodres, dwy chwaer a ffrind Jaschiu hefyd yn cael eu chwarae gan y perfformwyr syrcas Diana Salles, Hanna Vilhelmiina Sinervo, Selma Hellmann a Riccardo Federico Saggese.

Yn dilyn ei chynhyrchiad pum seren o The Makropulos Affair, mae’r Cyfarwyddwr Olivia Fuchs yn awyddus i ddychwelyd i'r Cwmni i gyfarwyddo Death in Venice:

‘Mor gyffrous i fod yn cyfarwyddo Death in Venice ac i fod yn gweithio gyda’r un tîm creadigol – Nicola Turner, Robbie Butler a Sam Sharples – ag ar The Makropulos Affair! Rwy'n falch iawn o fod yn dychwelyd i WNO. A braf yw cydweithio â NoFit State, yr arweinydd Leo Hussain a’r artistiaid Mark Le Brocq a Roderick Williams, dau berfformiwr mor ddeallus a chyfeillgar. Yn ymuno â nhw bydd yr artist awyr ifanc Antony César yn chwarae Tadzio ac ensemble cryf o artistiaid a chantorion syrcas, gan roi cyfle i Gorws bendigedig WNO ddisgleirio. Edrych ymlaen yn ofnadwy at ddechrau ymarferion.’

Mae ein cynhyrchiad newydd sbon o Death in Venice yn agor yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd ddydd Iau 7 Mawrth 2024, cyn teithio i Landudno, Southampton, Rhydychen, Bryste a Birmingham ar 11 Mai 2024.