Newyddion

Cyfansoddwyr Prâg

6 Ebrill 2021

Caiff Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Opera Cenedlaethol Cymru, Tomáš Hanus, ei gydnabod fel un o arweinwyr pwysicaf a mwyaf cyffrous y Weriniaeth Tsiec. Y llynedd aethom ati i archwilio ei dref enedigol, sef Brno, ond y tro hwn cymerwn edrychiad agosach ar brifddinas Czechia - Prâg.

Ganwyd Antonín Leopold Dvořák yn Nelahozeves, Bohemia yn 1841. Yn fuan wedi iddo ddysgu i chwarae'r ffidil a'r fiola, daeth ei ddoniau cerddorol i’r amlwg, a symudodd i Brâg yn 16 oed. Aflwyddiannus oedd ymdrechion cyfansoddi cyntaf Dvořák ond cafodd ei Slavonic Dances (1878) ganmoliaeth yn syth. Datblygodd berthynas agos â chymdeithasau cerddorol yn Llundain ar ôl perfformiad o’i Stabat Mater yno yn 1884.

Ac yntau'n 51 oed, symudodd Dvořák i Efrog Newydd i ddod yn gyfarwyddwr y National Conservatory of Music of America. Yn ystod y cyfnod hwn, ysgrifennodd ei New World Symphony, cyn dychwelyd i Brâg i addysgu cyfansoddi yn y Conservatoire. Mae ei opera orau Rusalka (1901) yn cyfuno blasau cenedlaethol amlwg yn ei cherddoriaeth a dawnsfeydd gwerin. Bu farw 1 Mai 1904 yn ei fflat ar Stryd Zitna ym Mhrâg. Gosodwyd baneri duon ar ffasâd y Theatr Genedlaethol cyn y perfformiad nos.

Y Theatr Genedlaethol yw un o adeiladau mwyaf trawiadol Prâg ac mae'n rhoi llwyfan i opera, drama a bale traddodiadol. Yn rhan o'r Theatr Genedlaethol ers 1920, yr Estates Theatre yw theatr hynaf Prâg, ac mae'n enwog fel y lle y cyfansoddodd Mozart sioe agoriadol Don Giovanni ar 29 Hydref 1787. Ymhlith lleoliadau celfyddydol sylweddol eraill mae Prague State Opera a Neuadd Dvořák, yn gartref i’r Czech Philharmonic Orchestra fyd-enwog.

Neuadd Smetana yw neuadd gyngerdd fwyaf Prâg, gyda 1200 o seddi dan gromen wydr art-nouveau, ac yma mae cartref Prague Symphony Orchestra. Mae’r ŵyl gerddoriaeth ryngwladol Gwanwyn Prâg (Pražské jaro) bob tro yn dechrau ar 12 Mai, sef y dyddiad y bu farw Smetana, gyda gorymdaith o Vyšehrad i Neuadd y Dref ac yna perfformiad gala o'i gylchred symffonig Má vlast (Fy Ngwlad) yn Neuadd Smetana. Yr enwocaf ymhlith y chwe cherdd symffonig cenedlaetholgar yw'r hyfryd ac atgofus Vltava (The Moldau) sy'n dilyn yr afon o'i tharddiad ym mynyddoedd y Goedwig Bohemaidd, drwy gefn gwlad y Weriniaeth Tsiec, i ddinas Prâg.

Ganwyd Bedřich Smetana ar 2 Mawrth 1824 yn Litomyšl, Bohemia, a pherfformiodd yn gyhoeddus am y tro cyntaf pan oedd yn 6 oed. Ysgrifennodd ei gerddoriaeth genedlaetholgar gyntaf yn ystod gwrthryfel Prâg yn 1848 y cymerodd ran fer ynddo. Yn ogystal, sefydlodd ysgol biano ym Mhrâg yn 1848 a phriododd y bianyddes Kateřina Kolářová yn 1849. Ar ôl methu â datblygu ei yrfa ym Mhrâg, bu iddynt adael i fynd i Sweden, lle cafodd lwyddiant fel pianydd a chyfansoddwr.

Sefydlodd Smetana ei hun yn ei famwlad gyda The Bartered Bride (1866) a daeth yn gyfarwyddwr Prague Provisional Theatre. Yn 1874, collodd ei glyw yn un glust ond llwyddodd i gwblhau Má vlast (1872-9) a'i bedwarawd llinynnau hunangofiannol Z mého života – O fy mywyd (1876) a oedd yn darlunio ei frwydr â byddardod a tinnitus. Llwyddodd hefyd i ysgrifennu tair opera arall - The Kiss (1876), The Secret (1878) a The Devil’s Wall (1882). Cydnabyddir Smetana fel y grym hanfodol yn sefydlu cerddoriaeth Fohemaidd a datblygu arddull opera genedlaethol. Bu i'w lwyddiannau gynorthwyo Dvořák i ddod y cyfansoddwr Bohemaidd cyntaf i gyflawni cydnabyddiaeth fyd-eang.