Newyddion

Efelychiadau o La bohѐme

19 Gorffennaf 2022

La bohѐme yw un o'r operâu clasurol mwyaf poblogaidd ac mae'n rhan annatod o repertoire sawl tŷ opera o amgylch y byd. Cyn i'r stori glasurol hon am gariadon trychinebus ddychwelyd i WNO yr Hydref hwn, penderfynwyd cymryd cip ar yr effaith barhaus mae Mimì a Rodolfo wedi ei gael ar ddiwylliant poblogaidd.

Efallai bod yr addasiad mwyaf adnabyddus, sioe gerdd Jonathan Larson, Rent, yn dilyn stori drasig ddigon tebyg, ond yn hytrach na strydoedd Parisienne, rydym yn dyst i stori garu Mimi Márquez a Roger Davis o fewn East Village ym Manhattan. Tra bod gan sawl un o'r cymeriadau enwau tebyg i'w cymheiriaid o'r 19eg ganrif, nid dyna'r unig debygrwydd. Gan gyfnewid twberciwlosis am AIDS, daeth Larson â'r stori i ran olaf yr 20fed ganrif, gan ei moderneiddio i chwarae ar y panig ynghylch HIV yn y 1980au a'r 1990au.

Mae'r gân ‘Light My Candle’, a ddaw hefyd o gyfansoddiad Puccini ac a genir gan Roger wrth iddo betruso ynghylch cyfarfod â Mimi, yn defnyddio cynnwys melodig uniongyrchol o ‘Che gelida manina’ (‘Your Tiny Hand is Frozen'). Yn fwy adnabyddus fyth, cyfeirir at, ‘Quando me’n vo’, a elwir hefyd yn ‘Musetta’s Waltz’ yn rheolaidd o fewn cerddoriaeth Rent, yn ogystal â'r sgript. Mae'r cymeriad Maureen, sydd wedi ei seilio ar Musetta, yn canu paralel o'r walts wrth iddi ddisgrifio sut mae pobl yn ei gwylio wrth iddi gerdded drwy'r strydoedd. Mae cyfansoddi caneuon y cymeriad Roger yn cael ei ddiystyru gan Mark, sy'n rhannu ystafell ag o, ac sy'n dweud nad yw ei gân yn 'ein hatgoffa o 'Walts Musetta'.'

Mae The Simpsons yn adnabyddus am ragweld y dyfodol yn anfwriadol, ond rydym yn ansicr a welwn ganwr opera sy'n gallu perfformio tra'n gorwedd, fel mae Homer yn ei wneud yn y bennod The Homer of Seville. Yn y bennod, yn dilyn dod o hyd i'w dalent operatig anhygoel, ond dim ond tra'n gorwedd ar ei gefn, mae Homer yn perfformio rôl Rodolfo yn La bohѐme, yn yr hynod gyfarwydd Tŷ Opera Springfield.

Gan ddefnyddio cip Puccini ar fywyd bohemaidd fel ysbrydoliaeth, mae Moulin Rouge gwasgarog Baz Luhrmann yn adrodd stori garu drychinebus ym Mharis yn nechrau'r 20fed ganrif. Y paralel amlwg yw ffawd drychinebus seren y sioe, Satine dan ddwylo'r ddarfodedigaeth, er i Mimì ildio i'r afiechyd. Defnyddiodd Luhrmann ystod o straeon clasurol ar gyfer creu'r ffilm 2001, gan gynnwys myth ofer Orpheus ac Eurydice, ac mae tebygrwydd rhwng y plot â'r opera La traviata.

Tra ein bod wrth ein bodd gyda'r sioeau cerdd, ffilmiau a theledu y soniwyd amdanynt uchod, nid ydynt yn cymharu â champwaith gwreiddiol Puccini. Os hoffech ei weld drosoch eich hun yn ystod Tymor yr Hydref, archebwch nawr yng Nghaerdydd, Llandudno, Plymouth, Birmingham, Southampton a Rhydychen. 

#WNOboheme