Newyddion

Creu Yma o Hyd WNO

18 Tachwedd 2022

Mae o yma o'r diwedd. Fel pawb arall, mae WNO wedi cael eu hamsugno i'r dathliadau a'r cyffro o gamp Cymru yn cyrraedd Cwpan y Byd FIFA 2022, gan arddangos talent, gwerthoedd a natur benderfynol Cymru i'r biliynau o bobl fydd yn tiwnio i mewn i wylio drwy gydol y bencampwriaeth. Roeddem eisiau dathlu'r digwyddiad yr unig ffordd y gwyddom amdani - gyda pherfformiad arbennig o ffefryn oesol Dafydd Iwan ac anthem swyddogol Cwpan y Byd 2022, Yma o Hyd , gan gorws aruchel WNO ac Artist Cyswllt WNO, Dafydd Allen.

Wedi ei lunio gyntaf ym Mai 2022, cyn i Gymru sicrhau eu lle, roeddem yn gwybod ein bod eisiau perfformio darn oedd yn arbennig i bêl-droed Cymru, ac roedd Yma o Hyd yn ddewis naturiol. Daeth ein Corws gwych i fod yn Wal Goch i ni, gan berfformio cân Dafydd Iwan am gryfder a gwytnwch sydd wedi dod yn gyfystyr â thaith tîm Cymru i'w Cwpan y Byd cyntaf ers 1958. Ymunodd ein tîm yma o'n swyddfa yn y cyfan, gan ddathlu o flaen camerâu, yn ogystal ag aelodau o'ch chwaer gwmni, Gwasanaethau Theatrig Caerdydd a gwesteion arbennig o'r Frenhines Drag o Gymru, Wilma Ballsdrop i Opera ieuenctid WNO - y cyfan yn cefnogi'r tîm yn eu gemau yn ystod y bencampwriaeth.

Roeddem eisiau amlygu'r amrywiaeth, unigolrwydd, cyffro, cymuned ac ysbryd y tîm sy'n ein gwneud yn falch o gynrychioli Cymru fel Opera Cenedlaethol Cymru, ac felly aethom â'n camerâu a theithio ledled y wlad. O'n cartref ym Mae Caerdydd i Gorinthiaid Casnewydd gyda'n Hopera Ieuenctid De Cymru, i Orllewin Cymru gyda Chlwb Pêl-droed Merched Tref Aberystwyth, ac i Ogledd Cymru i ymweld â Chlwb Pêl-droed Amaturiaid Blaenau Ffestiniog a'n Hopera Ieuenctid Gogledd Cymru yn Llandudno.

Wrth deithio ar hyd y wlad, cofnodwyd y cyffro a'r angerdd mae'r bencampwriaeth sydd ar droed wedi ei hysbrydoli, gan weld pa mor bwysig y bu tîm pêl-droed Cymru i bobl ym mhob rhan o Gymru.



Ffilmiwyd Dafydd Allen, Artist Cyswllt WNO, yn perfformio ym mhencadlys Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn The Vale ac yn Stadiwm Dinas Caerdydd, yr union gae lle sicrhaodd Cymru eu lle ar gyfer Cwpan y Byd wedi 64 mlynedd hir. Yn olaf, ffilmiwyd ein Corws gwych ym Mhortland House ym Mae Caerdydd ar ddiwrnod yn llawn bwrlwm a ddaeth i ben mewn dathliad o'r hyn sydd wedi'i gyflawni, nid yn unig fel Cwmni ond hefyd fel cenedl yn y byd chwaraeon.

Gobeithio y byddwch yn mwynhau ein dehongliad o anthem hynod herfeiddiol Dafydd Iwan Yma o Hyd, ac yn ymuno â ni i ddymuno'n dda i'n bechgyn wrth iddyn nhw, a'r Wal Goch, fynd â balchder ac angerdd Cymru i'r byd, a dangos i bawb ein bod ni yma o hyd.