Newyddion

Ymateb Cynulleidfa - The Makropulos Affair

21 Medi 2022

Dechreuodd Tymor Hydref Opera Cenedlaethol Cymru ddydd Gwener diwethaf gyda noson agoriadol o’n cynhyrchiad newydd oThe Makropulos Affairgan Janáček. Derbyniodd y stori ddirgel o drosedd a marwolaeth adolygiadau 5 seren, ac rydym wedi casglu ychydig o ymatebion gan ein cynulleidfaoedd cyn i’r sioe fynd ar daith tan fis Rhagfyr. Dyma beth oedd ganddynt i'w ddweud. 

llwyddiant bythgofiadwy gan Opera Cenedlaethol Cymru

The Daily Telegraph

Mae’n amlwg fod gan Tomáš Hanus y gerddoriaeth hon yn ei enaid, a llwyddodd i ysbrydoli’r gerddorfa i chwarae gyda thinc main, brys enbyd a thynerwch llewyrchol

The Times

Cymeradwywyd opera Janáček gan ein dilynwyr Twitter:

Facebook:

Mae Makropulos Affair newydd WNO yn llwyddiant ysgubol i bawb dan sylw. Mae cynhyrchiad Olivia Fuch yn du hwnt o ddwys a gwefreiddiol, ymatebodd y cast cyfan (yn cynnwys Nicky Spence fel Albert gwych, ac Angeles Blancas Gulin fel Emilia Marty hynod gyfareddol) yn arbennig

Nigel Simeone

Arweiniodd Tomáš Hanus y gwaith yn wych gyda cherddorion rhyfeddol WNO. Cawsom ganu eithriadol ar y llwyfan mewn cynhyrchiad a swynodd o’r dechrau i’r diwedd

Patrick Abrams

Trwy e-bost:

Cynhyrchiad newydd rhagorol o The Makropulos Affair. Dyluniad swrrealaidd trawiadol, cyfarwyddiad gwych, cerddorfa dan arweiniad Tomáš Hanus - gwych

Mwynheais y noson yn fawr iawn. Yn amlwg roedd opera Janáček yn waith heriol iawn gyda stori anarferol. Perfformiodd cast a cherddorfa WNO yn fendigedig.

Am opera anhygoel yw The Makropulos Affair! Roedd yr act olaf mor rymus. Gadewais gyda sawl myfyrdod ar farwolaeth a’r hyn rydym yn byw amdano. Roedd y sgwrs a fynychais cyn y perfformiad yn addysgiadol a defnyddiol, yn enwedig gan fy mod yn anghyfarwydd â’r opera

Dewch i weld The Makropulos Affairgwych Janáček yng Nghaerdydd tan 28 Medi, neu ar daith yn Llandudno, Plymouth, Birmingham, Southampton, a Rhydychen yr hydref hwn.