Newyddion

Paratoi at rôl Emilia

14 Hydref 2022

Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno cynhyrchiad newydd sbon o opera gomig gyffrous llai adnabyddus Janáček, The Makropulos Affair, y Tymor hwn. Holwyd Ángeles Blancas Gulin, sy'n perfformio rhan y difa Emilia Marty, ynghylch sut aeth hi ati i baratoi ar gyfer y rôl.

'Deuthum ar draws yr opera hon gyntaf oddeutu deng mlynedd yn ôl pan ddywedodd cyfaill agos imi, sy'n fariton gwych, amdani ac argymell imi ei hastudio gan ei bod yn rôl berffaith i mi. Felly, prynais y sgôr gerddoriaeth a dechrau ei astudio, er mwynhad.

Yn rhyfedd, dri mis yn ddiweddarach cynigiodd Teatro La Fenice yn Venice rôl Emilia Mary imi ar gyfer cynhyrchiad gyda Robert Carsen flwyddyn yn ddiweddarach. Sylweddolais fod popeth ynghylch Elina Makropulos yn llawn hud. Dyna'r tro cyntaf imi glywed cerddoriaeth Janáček, a bu imi syrthio mewn cariad ag o. Mae yna synergedd rhwng deallusrwydd cerddorol ac angerdd ynddo. Yr iaith yw'r rhan anodd ohono. Yn TheMakropulos Affair, mae Janáček yn addasu'r gerddoriaeth i destun gwreiddiol Chapek yn dda iawn. Mae'r ddwy act gyntaf fel araith - nid yw'n ffordd gyffredin, leisiol, operatig o ganu. Dim ond yn yr aria olaf yn y drydedd act mae Janáček yn datgelu telynegiaeth a harddwch heb ei ail, yn llawn o egni ysbrydol. Ar ôl derbyn y rôl i La Fenice, treuliais y chwe mis canlynol yn astudio, cyfieithu, a gweithio ar ynganiad. A gwneud yr iaith Tsiec yn iaith i mi; yn iaith sydd hefyd â chefndir hudol a thelwrig.

Mae'r blynyddoedd wedi mynd heibio a nawr mod i ychydig yn hŷn, mae Elina wedi datgelu llawer mwy o gyfrinachau i mi: ar lefel gerddorol ac ar lefel ddeongliadol. Wrth weithio gyda Olivia Fuchs yma yn WNO, rwyf wedi cael y cyfle i ddatblygu'r rôl yn llwyr a mynegi fy hun ar bob lefel. Yma rwyf wedi cymryd rhan yn y prosiect o'r dechrau, tra bod y ddau dro cynt rwyf wedi chwarae'r rôl roedd yn adfywiad o gynhyrchiad blaenorol ac felly roedd rhaid imi ailadrodd symudiadau'r sopranos gwreiddiol.

Yma rwyf wedi dod o hyd i Maestro gwych: Mae Tomáš Hanus (Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO), nid yn unig yn adnabod yr opera tu chwith allan, ond wedi bod yn arweinydd a chynghorwr gwych drwy'r broses gyfan. A beth am fy nghydweithwyr? Hebddyn nhw ni fydda'r stori'n gweithio. Hebddyn nhw ni fyddai yna The Makropulos Affair. Hebddyn nhw ni fyddai Emilia Marty yn gallu datgelu ei chyfrinach fawr. Mae wedi bod yn waith anodd, ond maen nhw i gyd yn gantorion gwych, pobl broffesiynol wych gyda sgiliau deongliadol sylweddol, sydd wedi sicrhau lefel wych o ddealltwriaeth yn ein mysg, gan greu sioe fyw ac organig bob nos.

Mae pob noson ar y llwyfan, o flaen y cyhoedd, yn wahanol, oherwydd yn y diwedd, mae'r proffesiwn hwn - canu - fel mandala mawr: creu ffurfiau a lliwiau fydd yn cael eu difrodi ac yn diflannu ar ddiwedd y noson. Dyna sut mae celf yn aros yn fyw yn eich calon. Hir oes i Elina Makropulos.’

Dewch i weld Ángeles fel Emilia yn ein cynhyrchiad o The Makropulos Affair tan 2 Rhagfyr, gyda dyddiadau yn Llandudno, Plymouth, Birmingham, Southampton a Rhydychen.