Newyddion

The Makropulos Affair; perspectif y cyfarwyddwr

11 Awst 2022

Mae The Makropulos Affair gan Janáček yn ddrama drasig am anfarwoldeb, marwolaeth a phwrpas bywyd ac mae'n cynnwys peth o gerddoriaeth fwyaf eithafol a hudolus y cyfansoddwr. Yr opera hon, a berfformiwyd ddiwethaf gan Opera Cenedlaethol Cymru yn 1994 (cynhyrchiad gan Syr David Pountney), oedd opera olaf Janáček a, fel llawer o'i waith cynharach, cafodd ei hysbrydoli gan ei gariad ffôl at Kamila Stösslová, dynes briod yn fwy na hanner ei oed.

Yn nodi'r drydedd ran a'r rhan olaf ein Cyfres Janáček, mae ein Tymor yr Hydref 2022 yn gweld cynhyrchiad newydd sbon o’r opera yma. Cawsom sgwrs â'r cyfarwyddwr Olivia Fuchs (Der Rosenkavalier) i ddysgu mwy am y campwaith llai adnabyddus hwn a'r arwres sydd yn ganolbwynt iddo. 

‘Emilia Marty, Elina Makropulos yn wreiddiol neu E.M yw un o'r cymeriadau mwyaf enigmatig a gafaelgar a grëwyd ar gyfer y llwyfan. Mae hi'n ymgorfforiad o steil a soffistigedigrwydd. Ar ôl byw am dros dri chan mlynedd mae hi wedi datblygu pŵer a charisma eithriadol femme fatale sy'n gyrru'r rhan fwyaf o'r cymeriadau gwrywaidd yn wallgof ag angerdd. Mae ei gallu i daflu goleuni ar fywydau pobl eraill yn gweithio fel chwyddwydr neu ddrych camystumiol, yn goleuo namau a photensial fel ei gilydd.

Mae Emilia Marty yn afaelgar fel cymeriad ac fel symbol o'n cyfnod. Mae hi'n ymgorffori'r cwestiwn metaffisegol o sut yr ydym yn ymdrin â'r realiti a'r ofn o heneiddio a marwolaeth gyda'n gilydd. Mae hi'n ymgorffori'r tyndra rhwng ffaith a stori dylwyth teg, gwir a gau, steil a hanfod.

Wrth wraidd The Makropulos Affair mae yna awgrym o botensial gwyddoniaeth i ddad-ddyneiddio pan mae arbrofion yn ymyrryd â'r byd naturiol heb foeseg sylfaenol neu ddealltwriaeth ddyfnach am rhyng-gysylltiad mewn bywyd. Mae Janáček, sydd bob amser â diddordeb yn y syniad o natur yn adnewyddu, yn darlunio bodolaeth fregus Emilia Marty ar ddiwedd yr opera, a chyda'r diwedd trawsnewidiol hwn mae ei gynulleidfa'n trysori ac yn mwynhau pob eiliad o fywyd.

Mae'r cynhyrchiad yn adlewyrchu ysblander a gwead y 1920au, gan gyfuno elfennau o realaeth fanwl a swrrealaeth delynegol. Yn farddonol, yn weledol syfrdanol ac yn aml-haenog, mae'n symud yn llyfn o un olygfa i'r llall gan archwilio sut ydym yn profi hanes drwy haenau ein hatgofion unigol ac atgofion pobl eraill.  Mae hi bron yn 100 mlynedd ers i Vec Makropulos gael ei pherfformio gyntaf ac mae'n parhau i ysbrydoli bywyd ac yr un mor berthnasol heddiw.'

 Mae cynhyrchiad newydd Olivia Fuch yn agor yng Nghanolfan y Mileniwm ar 16 Medi gyda'r soprano Angeles Blancas Gulin yn chwarae'r brif ran. Bydd y cynhyrchiad ar daith tan 2 Rhagfyr, ac yn ymweld â Llandudno, Plymouth, Birmingham, Southampton a Rhydychen. Yn ogystal, bydd y cynhyrchiad hefyd yn cael ei berfformio fel rhan o Brno Festival i ddathlu Janáček a'i waith ym mis Tachwedd 2022.