Newyddion

Don Juan a'i sawl ffurf

11 Chwefror 2022

Mae cymeriad Don Giovanni, o opera o’r un enw gan Mozart, yn seiliedig ar arwr-ddihiryn o chwedlau gwerin Sbaen, Don Juan. Yn ymddangos ar ffurf ysgrifenedig am y tro cyntaf yn y ddrama El burlador de Sevilla yn 1630 (sydd wedi’i phriodoli i’r dramodydd Tirso de Molina o Sbaen), mae ganddo duedd o godi’i ben mewn dramâu, llyfrau, ffilmiau, ar y teledu, yn ogystal ag mewn operâu, byth ers hynny.

Enghraifft o’r nifer o fersiynau, nad ydynt yn Sbaeneg, o’r chwedl yw drama Don Juan; ou, Le Festin de pierre gan Molière (a berfformiwyd yn gyntaf yn 1665); caiff ei nodi’n aml fel y sail gwreiddiol ar gyfer y sawl addasiad dilynol wedyn. Mae stori fer Prosper Mérimée: Les Âmes du Purgatoire (1834) a drama Alexandre Dumas, Don Juan de Marana (1836) yn portreadu amrywiaethau o’r ffigwr chwedlonol. Yna mae drama José Zorrilla, Don Juan Tenorio (1844) yn parhau i gael ei pherfformio’n draddodiadol yn Sbaen yn ystod Gŵyl yr Hollsaint a Dygwyl y Meirw.

Un o’r cynrychioliadau llenyddol mwyaf enwog yw cerdd yr Arglwydd Byron, Don Juan (1819-24). Mae’r cymeriad hefyd wedi’i anfarwoli gan awdur hynod boblogaidd arall o’r 19eg ganrif: Cafodd drama George Bernard Shaw, Man and Superman (1903) ei pherfformio ar y llwyfan am y tro cyntaf yn 1905.

Nid obsesiwn Hollywodd yn unig mo ffurfiau ffilm Don Juan, mae fersiynau ohono i’w gweld mewn ffilmiau o’r rhan fwyaf o wledydd y Gorllewin, gan gynnwys ffefryn o’r oes euraidd yn y DU, sy’n serennu Douglas Fairbanks ac yn seiliedig ar y ddrama L’Homme à la Rose gan Henry Bataille – The Private Life of Don Juan (1934). Mae nifer o ffilmiau’n addasiadau o ddramâu neu straeon sy’n bodoli eisoes, y mae hwythau’n seiliedig ar y chwedl, ac mae bob un yn dilyn yr un patrwm sylfaenol i ymddygiad afreolus, hyd yn oed os yw'r lleoliad yn newid. Mae Don Jon (2013), sy’n serennu, ac wedi’i ysgrifennu a’i gyfarwyddo gan Joseph Gordon-Levitt (3rd Rock from the Sun), yn ogystal â Scarlett Johansson a Julianne Moore, yn ddehongliad modern o fywyd merchetwr fel Don Juan, yn hytrach na bod yn addasiad uniongyrchol.

Addasiad poblogaidd arall ar ffurf ffilm yw Don Juan DeMarco o 1994, yn serennu Johnny Depp, gyda Marlon Brando a Faye Dunaway. Ond yn yr achos hwn, dim ond meddwl mai ef yw’r Don Juan chwedlonol mae’r prif gymeriad – h.y. carwr gorau'r byd. Wedi'i leoli yn America heddiw, gyda Depp yn ymweld â seiciatrydd, sef Marlon Brando, i wella ei gamargraffiadau, mae ei ôl-fflachiadau'n ei osod yn y stori draddodiadol. Cafodd plot y ffilm ei seilio ar stori fer gan y cyfarwyddwr Jeremy Leven, Don Juan DeMarco and the Centerfold.

Serennodd Johnny Depp hefyd yn The Libertine, ffilm o 2004 a oedd yn adrodd hanes ail Iarll Rochester o'r 17eg ganrif, a oedd yn ffigwr tebyg iawn i Don Juan – h.y. merchetwr a bardd penrhydd. Y tro hwn gyda llu o dalent Brydeinig, gan gynnwys John Malkovich a Samantha Morton. Addasodd Stephen Jeffreys y ffilm o’i ddrama ei hun o’r un enw. Yn ôl yn 1676, ysgrifennodd Thomas Shadwell ddrama o'r enw The Libertine, sef, yn y bôn, addasiad Saesneg o El bulador de Sevilla (ac ysbrydoliaeth drama Stephen Jeffreys.)

Ma hyn yn ein tywys yn ôl at deitl llawn opera Mozart: Il dissolute punito; ossia, il Don Giovanni sef, wedi’i gyfieithu Cosb yr Oferwr, neu Don Giovanni. Dewch draw i weld yr oferwr di-baid hwn yn cael ei gosb haeddiannol ar lwyfan pan fydd WNO yn perfformio'r opera hon yn ein Tymor y Gwanwyn.