Newyddion

Cerddoriaeth The Marriage of Figaro mewn diwylliant poblogaidd

25 Ebrill 2025

The Marriage of Figaro yw un o operâu mwyaf poblogaidd Mozart, ac mae’n llawn pigion cerddorol adnabyddus a chofiadwy. O’r herwydd, mae’r gerddoriaeth o’r opera wedi ymddangos mewn ffilmiau, ar y teledu, a thraciau sain hysbysebu. Rydym wedi dewis tair alaw wych o’r opera, y gall aelodau o’r gynulleidfa eu hadnabod oherwydd iddynt ymddangos mewn diwylliant poblogaidd. 

Yr Agorawd o The Marriage of Figaro 

Yr agorawd rymus o The Marriage of Figaro yw un o’r agorawdau opera mwyaf adnabyddus erioed. Mae’r cyffro arbennig wedi dechrau ar gyfer opera gomig Mozart, ac ni allwn aros i glywed perfformiad Cerddorfa WNO. Os ydych yn meddwl sut ydych yn adnabod yr alaw hon, gallai fod o’i defnydd yn y ffilm The King’s Speech. Mae’r ffilm hon yn adrodd stori y Brenin George VI yn ymdrechu i gael gwared o’i atal dweud gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, ac un ohonynt yw siarad dros gerddoriaeth glasurol. Y tro cyntaf mae ei hyfforddwr lleferydd yn defnyddio’r dull yma, mae’n rhoi clustffonau iddo gyda’r agorawd yn chwarae, ac er gwaethaf ei amheuon, mae’n ei gynorthwyo i siarad yn rhugl am y tro cyntaf. 

Defnyddir rhan fechan o’r agorawd hefyd yn Willy Wonka & The Chocolate Factory. I gael mynediad i’r ffatri, mae Wonka yn pwyso ambell i nodyn ar biano fechan i agor y drws, ac o ganlyniad mae cychwyn yr agorawd yma yn dechrau chwarae. Yna, mae mam Mike Teevee yn dweud, yn anghywir, mai darn gan Rachmaninoff ydyw, cyn i ddrysau’r ffatri agor.  

Deuawd Llythyr Susanna a'r Iarlles  

Sull’aria...Che soave zeffiretto (Ar yr awel...Am Seffyr bychan ysgafn), a adnabyddir hefyd fel Deuawd y Llythyr, yw un o'r adegau cerddorol mwyaf ingol yn yr opera, ac mae’n adnabyddus hefyd ar ôl ei ddefnyddio yn ffilm fawr boblogaidd Hollywood The Shawshank Redemption. Mae’r prif gymeriad Andy yn cymryd record o opera Mozart ac mewn gweithred herfeiddiol yn dewis yr aria hon i'w chwarae ledled y carchar i'r carcharorion ei chlywed. Maent i gyd yn stopio’r hyn y maent yn ei wneud ac yn gwrando, a dywedodd cymeriad Morgan Freeman, Red, ei fod ef a’r carcharorion eraill i gyd yn teimlo’n rhydd pan glywsant y gerddoriaeth.  

Voi che sapete 

Aria o ddiniweidrwydd yr arddegau ac angerdd am fenyw hŷn, yr Iarlles, yw aria gyfareddol Cherubino. Cafodd y darn ei gynnwys yng nghynhyrchiad 1995 o Pride and Prejudice, lle gwelir Elizabeth Bennet yn canu ac yn chwarae’r darn ar yr harpsicord tra bod Mr. Darcy yn gwylio. Cafodd yr aria ei chynnwys yn Wonder Woman 1984 hefyd, ac fe’i clywir wrth i Diana ddangos Steve, sy’n wreiddiol o’r rhyfel byd cyntaf, o amgylch byd modern 1984. Yn y ddau achos, mae gan yr aria bwrpas tebyg i’r un yn opera Mozart, i ddangos diniweidrwydd a chariad ffres.   

Cewch glywed y darnau hyn wrth i’n cynhyrchiad disglair o The Marriage of Figaro ddychwelyd yn Nhymor y Gwanwyn 2025. Ymunwch â’n cast hynod mewn bwrlwm o gynlluniau clyfar, a gwychder melodaidd Mozart, wrth i ni archwilio rhai o’i felodïau gorau a’i alawon mwyaf cofiadwy.