Newyddion

Buddion canu ar iechyd meddwl

10 Hydref 2023

Rydym yn nodi Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd heddiw, ac er bod straen bywyd bob dydd yn gallu bod yn fwrn, rydym yma i gynnig awgrym a all fod o gymorth i’ch llesiant; canu. 

Yma yn Opera Cenedlaethol Cymru, yn amlwg, rydym wrth ein bodd yn canu, ac rydym yn credu ei fod yn un o bleserau gorau bywyd, ond a wyddoch chi fod morio canu’n cynnig sawl budd i’ch iechyd? Mae mwy a mwy o ymchwil yn cael ei gynnal mewn perthynas â’r pwnc hwn, ac mae popeth yn cyfeirio at y llu o fuddion sy’n perthyn i ganu, fel lleddfu gorbryder, iselder a lleihau straen.

Mae ymchwilwyr wedi canfod bod cerddoriaeth a chanu’n rhyddhau dopamin ac endorffinau, y cemegau yn eich ymennydd sy’n gwneud ichi deimlo’n dda a’n hapus. Yn ogystal â hynny, mae’n helpu i dynnu eich sylw oddi ar boenau’r diwrnod, felly nid oes syndod ei fod yn cael ei ystyried i fod yn ffordd dda o godi’ch hwyliau. Mae canu hefyd yn rhyddhau tensiwn wedi'i storio yn eich cyhyrau, a’n lleihau lefelau o hormon straen o’r enw cortisol yn eich llif gwaed, sy’n ein galluogi i dawelu a lleddfu ein meddyliau eto. 

Un o'r ffyrdd gorau o fynd i’r afael â straen yw ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar. Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn gweithio gan ei fod yn eich helpu i ganolbwyntio ar un peth, yn hytrach na phoeni am fwy nag un peth ar yr un pryd. Mae canu ymysg llu o weithgareddau sydd wedi’u nodi fel ffyrdd o ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar, felly’r tro nesaf rydych yn teimlo dan straen, rhowch gynnig ar ganu eich hoff gân.

Mae canu’n rhyddhau endorffinau, sef hormonau sy’n gwneud ichi deimlo’n dda, a all helpu i leihau iselder. Mae organ fechan yn y glust, o’r enw’r codennyn, yn ymateb i’r amleddau sy’n cael eu creu wrth ganu, a all greu ymdeimlad uniongyrchol o bleser, waeth p’un a yw’r gwrandäwr yn meddwl bod y sain yn un braf ai peidio – felly nid oes rhaid ichi allu canu’n dda i fanteisio ar y buddion.Mae doctoriaid a gweithwyr iechyd proffesiynol yn aml yn argymell canu, ac mae hyd yn oed byd natur yn cydnabod pwysigrwydd cân – yn ôl bob sôn, mae adar yn codi calonnau ei gilydd drwy ganu i’w gilydd.

Gall canu hefyd gynorthwyo â gorbryder, gan mai’r cyngor cyntaf sy’n cael ei roi i bobl sy’n profi gorbryder yw anadlu’n ddwfn a’n araf. Mae’r broses o anadlu allan yn ysgogi’r system nerfol barasympathetig (y rhan o'r corff sy’n eich galluogi i orffwys), felly mae anadlu allan yn hir yn helpu i unioni hyn yn naturiol. Gan fod canu’n ffurf ar anadlu’n rheolaidd a than reolaeth, mae’n eich helpu i ymlacio.

Gall pawb fwynhau buddion canu a cherddoriaeth, waeth beth fo’ch oedran. Mae morio canu, p’un a yw hynny’n ganu swynol ai peidio, yn gwneud daioni i’ch corff, eich meddwl a’ch enaid, ac mae’n cynnig buddion sylweddol i'ch iechyd meddwl. Nid oes rhaid ichi allu cyrraedd nodau uchel Aria Brenhines y Nos na pherfformio Nessun Dorma fel Pavarotti er mwyn i ganu fod o fudd i’ch iechyd meddwl, felly, p’un a ydych yn y gawod, yn y car, neu mewn cyngerdd, ewch ati i ganu er mwyn rhoi hwb i’ch endorffinau ac i godi’ch hwyliau er mwyn ichi allu ymlacio