Newyddion

Cerddoriaeth ein prosiect Sea Interludes

17 Mehefin 2025

Yn 1945, ysgrifennodd Britten, ‘Wrth ysgrifennu Peter Grimes, roeddwn yn awyddus i fynegi fy ymwybyddiaeth o frwydr wastadol dynion a merched y mae eu bywoliaeth yn ddibynnol ar y môr’. Gan gydnabod bod y trafferthion hyn mor berthnasol heddiw ag yr oeddent yn 1945, gweithiodd Opera Cenedlaethol Cymru mewn partneriaeth â The Fisherman’s Mission, unig elusen y DU sy’n ymroddedig i ddarparu cefnogaeth i’r diwydiant pysgota, a'r canwr a’r cyfansoddwr o Gymru, Gareth Bonello (a elwir hefyd yn The Gentle Good) ar y prosiect ‘Sea Interludes’, oedd â’r nod o gyfleu profiadau pysgotwyr a oedd yn gweithio yn Aberdaugleddau, Caerdydd a Chernyw.  

Ffotograffydd: Rhodri Brooks

Y canlyniad yw’r tair cân newydd yma a ysbrydolwyd gan yr ansicrwydd, y perygl a’r caledi sy’n wynebu unigolion a theuluoedd sy’n ddibynnol ar y môr am eu bywoliaeth. Wedi’i ysgrifennu ar gyfer ensemble yn cynnwys pedwarawd llinynnol WNO ynghyd â thelynor a dau ganwr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, perfformiwyd y darnau cyn ein sioeau Peter Grimes yng Nghaerdydd, cyn cael eu recordio yn Stiwdios Tŷ Cerdd yng Nghanolfan y Mileniwm Cymru. Mae'n bleser gennym rannu’r caneuon hyn gyda chi nawr, ynghyd ag ychydig o wybodaeth am sut y cawsant eu creu. 

Mae Sunrise Again yn cyferbynnu harddwch a gobeithion natur gyda gwaith caled bywyd fel pysgotwr. Fe’i hysbrydolwyd yn rhannol gan sgwrs gyda physgotwr o Aberdaugleddau, Arturs, ac eglurodd pa mor flinderus ond eto, pa mor werth chweil y gall y swydd fod. Gall sifftiau eithriadol o hir a beichus yn gorfforol olygu bod y pysgotwyr yn colli eu hymwybyddiaeth o faint o'r gloch yw hi, gyda chriwiau’n sylweddoli eu bod wedi gweithio 24 awr lawn ar ôl gweld yr haul yn gwawrio am yr ail waith. 

Mae All At Sea | Ar Y Don yn defnyddio’r môr fel metaffor am iechyd meddwl ac yn archwilio sut y gall bywyd pysgotwr effeithio ar deulu cyfan, nid y person ar y môr yn unig. Mae'n cyfeirio’n benodol at brofiadau’r rheiny sydd yn gweld eu heisiau gartref, yn llawn poendod, a’r pwysau arnynt i ddarparu hafan ddiogel.

Mae’r gân olaf, Penlee Lifeboat, yn gydweithrediad rhwng Gareth a physgotwyr Newlyn a’r gwirfoddolwr RNLI, Freddie Bates. Mae’n cael ei hysbrydoli gan drychineb bad achub Penlee 1981, pan aeth y bad achub Solomon Browne i helpu’r cwch Union Star ar ôl i’w beiriannau fethu mewn moroedd geirwon oddi ar arfordir Cernyw. Ar ôl i’r bad achub lwyddo i achub pedwar o bobl, collwyd y ddau gwch a boddodd y rhai a aedd yn weddill arnynt. Bu farw un ar bymtheg o bobl, gan gynnwys wyth o wirfoddolwyr y bad achub.

‘Mae’r gân orffenedig mor ingol a theimladwy. Mae melodi Gareth wedi angori’r gân ac yn cyfleu’r teimlad y mae’r geiriau’n ei haeddu.'

Freddie Bates

Gallwch wrando ar y gerddoriaeth a grëwyd fel rhan o’r prosiect hwn ar ein SoundCloud. 

Ffrydiwch Opera Cenedlaethol Cymru | cerddoriaeth Opera Cenedlaethol Cymru music | Gwrandewch ar ganeuon, albymau, rhestrau chwarae am ddim ar SoundCloud

Hoffai WNO ddiolch i bawb a fu’n rhan o’r prosiect Sea Interludes. Gobeithiwn ddychwelyd at y prosiect yn ystod Gwanwyn 2026, pan fyddwn yn cyflwyno cynhyrchiad newydd sbon o The Flying Dutchman ar y llwyfan.