Newyddion

Poblogrwydd La donna ѐ mobile

24 Gorffennaf 2024

Yr Hydref yma, bydd Opera Cenedlaethol Cymru yn eich tywys i lys aflafar, dirywiedig a chreulon Dug Mantua, lle mae Rigoletto, digrifwas y llys, yn defnyddio ffraethineb mileinig i gelu ei galon ingol. Rigoletto oedd ffefryn Verdi o blith ei holl weithiau, ac mae'r campwaith yn cynnwys enghreifftiau o gerddoriaeth orau'r cyfansoddwr, gydag un o'r alawon mwyaf adnabyddus o fyd opera yn eu plith: La donna ѐ mobile.

Mae'r darn yn ymddangos yn Act 3 Rigoletto, a'r Dug sy'n ei ganu, rôl a berfformiwyd yn wreiddiol gan y tenor Raffaele Mirate. Pan gyfansoddodd Verdi La donna ѐ mobile yn wreiddiol, cadwodd y gerddoriaeth yn gyfrinach, hyd yn oed gan Mirate, gan nad oedd am i neb hymian yr alaw yn gyhoeddus a difetha'r darn cyn y noson agoriadol. Roedd yr aria mor boblogaidd fel bod aelodau o'r gynulleidfa wedi'u clywed yn ei chanu drannoeth.

Mae La donna è mobile wedi cael ei defnyddio mewn hysbysebion di-rif, gan gynnwys dwy hysbyseb Super Bowl. Mae'r aria hyd yn oed wedi cael ei chynnwys ar draciau sain ffilmiau, rhaglenni teledu a gemau fideo, fel The Sopranos, Rocky Balboa, a Grand Theft Auto.

Mae Doritos wedi defnyddio'r aria enwog yn nwy o'u hysbysebion Super Bowl; mae'r naill yn digwydd mewn theatr lle mae'r canwr ar y llwyfan yn amlwg mewn dyfroedd dyfnion a'r gynulleidfa'n ei wylio wrth fwyta'r creision. Yn yr hysbyseb arall mae plentyn a'i Nain yn mynd ben-ben.

Defnyddir darn Verdi hefyd mewn hysbyseb ar gyfer past tomato Leggo; mae'r gerddoriaeth yn cyd-fynd â'r weithred fynegiannol ac artistig o goginio a rhannu bwyd. Caiff y geiriau eu haddasu'n greadigol yn yr hysbyseb honno i ‘Good sauce is hard to find, don’t just use any kind…’

Perfformioddpencampwr y Super Bowl, Donald Drivera'ibartnerPetaMergatroyd Walts Fiennaidd i La donna è mobileyngnghyfres 14 o'rgystadleuaethddawnsDancingwith the Stars.   

Un o'rperfformiadaumwyafcofiadwyo'r darn yw'r perfformiad ganLucianoPavarotti; mae'r aria wedidodyngyfystyrâ'ienw, ac maecarwyr opera ar draws y byd y gwirioniarni. Mae dehongliademosiynolPavarottiyndod â chymeriad y Dug ynfyw, ganychwanegudyfnder a chymhlethdodi'r aria.  

Perfformiad arallcofiadwyyw'r perfformiad gan y canwr opera o'r Eidal, MaurizioMarchini I; pan oeddyr Eidal dan gyfyngiadausymudoherwyddpandemig COVID-19, ymledoddfideoo'rcanwrynperfformioLa donna è mobile,ynghyd ag arias a chaneuoneraillo'ifalconiynFflorens, feltânar y we.

Mae’r alaw enwog hefyd wedi cael ei mabwysiadu gan gefnogwyr pêl-droed i greu siantiaufelYourground’stoo big foryou pan fyddstadiwm y tîmcartrefynllawnseddaugwag. Foddbynnag, mae'ndebygmai'rsiantpêldroedenwocafsy'ndefnyddio'ralawyw 'Paolo Di Canio'. Mewngêmrhwng West Ham a Bradford City, anwybyddoddy dyfarnwrsawlapêlynerbyncicgosb. Roedd Di Canio o dîm West Ham ynteimlo mor rhwystredigynghylchhynfelyreisteddoddyngnghanol y caewrthi'rgêmbarhauo'iamgylch. Dim ondarôl i 25,000 o gefnogwyr West Ham ddechraucanu 'Paolo Di Canio' aralawLa donna è mobiley cododd i fynyo'rdiwedd i sgoriotrydeddgôlynyr ail hanner. Dilynodd y siantyrymosodwro'r Eidal drwygydoleiyrfaglybiaua'iyrfagenedlaethol. 

Gallwchglywed y darn anhygoelhwndrosochchi'chhun pan fyddeincynhyrchiadnewyddsbon o RigolettoynagoryngNghaerdyddym mis Medi, cynmyndar daith i Landudno, Plymouth, Rhydychen a Southampton.