Newyddion

This is your life – David Pountney’s opera career

13 Medi 2017

Ddydd Sul 10 Medi 2017, fe ddathlodd ein Cyfarwyddwr Creadigol David Pountney ei ben-blwydd yn 70 mlwydd oed, a hynny flwyddyn ar ôl i ni ddathlu 70 mlynedd o Opera Cenedlaethol Cymru.

Rydym wedi bod yn ffodus iawn i gael David gyda ni wrth y llyw ers 2011, er nad oedd yn ddieithr i ni bryd hynny ac yntau wedi cyd gyfarwyddo perfformiadau mor bell yn ôl â 1975. Gyda gyrfa’n pontio dros 50 o flynyddoedd, mae wedi derbyn canmoliaeth ryngwladol am ei gynyrchiadau sydd wrth fodd pawb a’i sgiliau cyfarwyddo rhyfeddol.

Beth am fynd nôl mewn amser a chymryd golwg ar rhai o weithiau David ar hyd ei yrfa helaeth?

1969
Un o’r operâu cyntaf i David ei chyfarwyddo oedd y Seven Deadly Sins yng Nghlwb Opera Prifysgol Caergrawnt a welir isod. Pwy fyddai wedi gallu rhagweld mai’r cynhyrchiad hwn fyddai’r cyntaf o nifer ar ei lwybr i yrfa lwyddiannus?

1975
Dyma’r flwyddyn y cafodd David ei benodi yn Gyfarwyddwr Cynyrchiadau Opera’r Alban. Fe gyfarwyddodd Jenůfa, cynhyrchiad ar y cyd gyda WNO.

1980
Ym 1980 gadawodd David Opera’r Alban er mwyn dechrau ar ei rôl fel Cyfarwyddwr Cynyrchiadau Opera Cenedlaethol Lloegr. Yn ystod y cyfnod yma y câi David ochr yn ochr â Mark Elder (Arweinydd ENO) a Peter Jones (Pennaeth ENO) eu hadnabod fel ‘powerhouse’ ym myd opera oherwydd eu dull amgen o gyfarwyddo.

1982
Yn dilyn ei benodiad yn ENO, bu David yn allweddol yn rhoi syniadau newydd ar waith ac yn newid canfyddiadau o opera i gynulleidfa newydd, ifanc. Yn y llun canlynol mae’n cyfarwyddo Káťa Kabanová gydag Elisabeth Söderström, seren opera byd enwog o Sweden, sy’n adnabyddus am ei pherfformiadau yng ngwaith Janáček.

1984
Yn ystod cyfnod David yn gweithio gyda’r cwmni, ENO oedd y cwmni Prydeinig cyntaf i deithio’r Unol Daleithiau, ac fe berfformiwyd Gloriana, War and Peace, The Turn of the Screw, Rigoletto a Patience. Hefyd, a dyma’r cwmni opera Prydeinig cyntaf a gafodd wahoddiad i berfformio yn Opera Metropolitan Efrog Newydd.

1990
ENO hefyd oedd y cwmni opera tramor cyntaf i deithio’r Undeb Sofietaidd. Dyma lun y cawsom hyd iddo o’r triawd ‘Powerhouse’ ym Moscow. 

1992
O 1992 ymlaen fel cyfarwyddwr ar ei liwt ei hun, gweithiodd yn rheolaidd yn Zurich, yn Vienna State Opera, Bayerische Staatsoper, yn ogystal â thai opera yn America, Japan, ac yn y DU mae ganddo gysylltiad hirfaith gydag Opera North.

1996
Ar ôl gadael ENO ym 1993, canolbwyntiodd David ar gyfarwyddo. Ef oedd yn gyfrifol am ysgrifennu’r libreto ar gyfer Doctor of Myddfai ochr yn ochr â Syr Peter Maxwell Davies a gyfansoddodd y darn gwreiddiol yn seiliedig ar y chwedl Gymraeg ynghylch Llyn y Fan Fach. Gweithiodd fel cyfarwyddwr ar ei liwt ei hun mewn amryw o dai opera ar draws y byd.

1998 
Ym 1998 ymddangosodd David ar Desert Island Discs gan ddatgelu pethau diddorol iawn am y byd opera ac yntau ei hun, dywedodd mai ei eitem foethus fyddai set croquet. Pan ofynnwyd yr un peth iddo yn ddiweddar dywedodd y byddai yn dal i ddweud hynny heddiw. Gwrandewch ar y cyfweliad ar BBC iPlayer. 

2003
Rhoddwyd rôl Arolygwr Gŵyl Bregenz i David, a bu yn y swydd am 11 o flynyddoedd. Yn ystod y cyfnod hwn roedd yn rhan allweddol o dros ugain o premières byd eang a gynhaliwyd yn yr ŵyl.

2016      
Yn 2016 dathlodd WNO ei ben-blwydd yn 70 mlwydd oed, ac o’r herwydd roedd hi’n flwyddyn brysur i David. Ysgrifennodd y libreto a chyfarwyddo opera newydd Figaro Gets a Divorce gydag Elena Langer, yn ogystal â chyfarwyddo’r premiere byd eang o In Parenthesis, a oedd yn dynodi can mlynedd ers Brwydr y Somme. Yn ogystal cafwyd perfformiad cofiadwy gan Opera Ieuenctid WNO o Kommilitonen!, a ysgrifennodd David y libreto ar ei gyfer ochr yn ochr â Sir Peter Maxwell Davies a gyfansoddodd y gerddoriaeth. Ar ôl hir aros fe agorwyd y Ring, cynhyrchiad gan David ei hun yn Lyric Opera Chicago.

2017
Mi oedd 2017 yn flwyddyn brysur i David fel ag erioed. Beirniadodd Gystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd ym mis Mehefin, ac yn cyfarwyddo Khovanshchina yn ogystal a chyd gyfarwyddo From the House of the Dead, ei waith cyntaf ar y cyd gyda Chyfarwyddwr Cerdd WNO Tomas Hanus.

Felly, fel  y gwelwch mae David yn hoff o gadw ei hun yn brysur, ac mae ganddo eisoes gynlluniau ar gyfer y dyfodol, yn cynnwys Trioleg Verdi newydd, a chychwynodd gyda La forza del destino yng Ngwanwyn 2018. Fe gasglwyd cyfarchion pen-blwydd i David gan bawb yma yn WNO yn ogystal â gan ei ffrindiau a chydweithwyr ar draws y byd opera.