Newyddion

Tair Llythyren: Codi ymwybyddiaeth o HIV yng Nghaerdydd

1 Rhagfyr 2021

Yn 2020, cafodd Caerdydd ei henwi fel Fast Track City a chafodd ymuno â phartneriaeth fyd-eang o ddinasoedd sy’n ceisio cyflawni’r targed o sero o drosglwyddiadau HIV a dim stigma yn erbyn HIV erbyn 2030. Fel Cwmni yng Nghaerdydd, hoffai Opera Cenedlaethol Cymru ddefnyddio ei arbenigedd o ddefnyddio emosiynau a storiâu mewn cân a pherfformiadau i ddarparu llwyfan i brofiadau pobl sy’n byw gyda HIV, a rhannu’r storiâu hynny gyda chynulleidfaoedd ehangach. Yn sgil datblygiadau meddygol enfawr, mae HIV yn rhywbeth llawer llai trasig heddiw, ac mae’n cynnig safbwynt gobeithiol ar fywyd gyda’r feirws. Gall llawer o bobl sy’n byw gyda HIV ac sy’n cymryd triniaeth effeithiol fyw cyn hired â’u cyfoedion nad oes ganddynt y feirws, gan leihau eu llwyth feirysol sy’n golygu na allant drosglwyddo’r feirws yn ei flaen.

Mae Tair Llythyren wedi’i ysbrydoli gan brosiect AIDS Quilt Songbook a ddechreuodd yn America yn 1992, ac mae’n ceisio casglu lleisiau a storiâu pobl sy’n byw gyda HIV yng Nghaerdydd, Cymru a’r DU heddiw, a chodi ymwybyddiaeth mewn cymunedau ynghylch ymgyrch Caerdydd ar gyfer 2030.


Rwy’n gobeithio y bydd y prosiect yn helpu i gefnogi newid mewn agweddau tuag at HIV, ac ychwanegu at dapestri cyfoethog o ymatebion creadigol sy’n dangos y ffordd mae pethau’n newid dros amser.

Mercy Shibemba, ymgyrchydd

Dechreuwyd y prosiect fis Medi 2021, a chafodd ein hwyluswyr, y cyfansoddwr Michael Betteridge, y gantores Sian Cameron a’r ymgyrchydd Mercy Shibemba, weithio gyda 160 o ddisgyblion blwyddyn 10 o Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd. Datblygwyd dealltwriaeth y disgyblion o HIV drwy gyfres o weithdai, darlithoedd a sesiynau ysgrifennu caneuon, ac yn dilyn hyn, gwnaethant ysgrifennu’r geiriau a’r gerddoriaeth ar gyfer eu cân, ‘We learn, we know, we understand’.


Mae cerddoriaeth yn ychwanegu dyfnder a phwysigrwydd i’r hyn rydym yn ei gyfathrebu ac mae cynulleidfaoedd yn gwrando’n wahanol pan mae syniadau a storiâu yn cael eu lleisio drwy gân, ac mae’n ein caniatáu ni i gyffwrdd ar emosiynau a theimladau na fyddai’n bosibl gyda geiriau’n unig.

Michael Betteridge, cyfansoddwr

Mae gan y gân stori hyfryd o empathi ac undod sy’n codi’r galon. Gwrandewch ar y gân yma.

Dywedodd Michael Graham, Cydlynydd Prosiect WNO: ‘Mae’r un materion oedd yn bodoli yn yr 1980au, megis ofn, stigma, camwybodaeth a phrofi yn berthnasol iawn i’n bywydau heddiw. Roedd yn ddifyr gweld fod trafodaeth am deimladau a phrofiadau’r myfyrwyr gyda Covid yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yn benodol o effeithiol o ran eu helpu nhw i ddeall gorbryder, stigma a phwysigrwydd empathi a chyfeillgarwch. Mewn sawl ffordd, mae’r gân a ysgrifennwyd ganddynt - gyda geiriau megis ‘times have changed, acceptance is here’ a ‘you are not alone, society is changing’ – yn cyfeirio at fwy nag ymwybyddiaeth o HIV: mae’n ymwneud â dangos undod a chefnogaeth i unrhyw unigolyn neu grŵp sy’n wynebu stigma.’

Rydym wedi derbyn cefnogaeth arbennig gan ein tîm gweithdy canolog a Fast Track Cardiff. Cafodd ein tîm gymorth gan yr hanesydd Dr Daryl Leeworthy, a chafodd y disgyblion well dealltwriaeth o hanes HIV yng Nghaerdydd. Fe wnaeth yr actor a’r awdur Nathaniel J Hall (It’s a Sin) cynnig cyngor a chymorth arbennig, a chawsant ddefnyddio adnoddau o’i brosiect ‘ACTUP+Live’. Cyflwynodd weithdy ar y cyd â Mercy Shibemba hefyd, gan siarad am eu bywydau gyda’r myfyrwyr.