Yn ystod y mis diwethaf, mae ABC o Opera wedi darparu gweithdai trawsnewidiol i dros 1,000 o blant ar draws Cymru mewn partneriaeth ag Opera Cenedlaethol Cymru. Gyda’n gilydd, rydym yn profi bod cerddoriaeth ac adrodd straeon gyda’r pŵer i ysbrydoli, grymuso, a thrawsnewid bywydau.
Mae’r bartneriaeth hon yn hynod o bersonol ar gyfer Prif Swyddog Gweithredol ABC, Mark Llewelyn Evans. Rôl ganu broffesiynol cyntaf Mark oedd fel Marcello yn La bohème gydag Opera Cenedlaethol Cymru, profiad a wnaeth sbarduno ei angerdd am opera ac adrodd straeon. Mae’r cydweithrediad yn teimlo fel esblygiad naturiol, yn cyfuno arbenigedd artistig WNO gydag agwedd arloesol ABC at addysg.
Hyd yn hyn, mae ABC o Opera wedi ysbrydoli dros 31,000 o blant ar draws 300 o ysgolion, yn profi bod opera ac adrodd straeon yn adnoddau pwerus ar gyfer addysg. Nid addysgu yn unig mae gweithdai arloesol ABC, maen nhw’n tanio dychymyg, magu hyder, ac yn grymuso plant i gael ffydd yn eu hunain.
Mae cenhadaeth ABC o Opera, Gall Unrhyw Un, yn unol ag ymrwymiad WNO i wneud opera yn hygyrch i bawb. Gyda'n gilydd, rydym yn darparu:
- Adrodd straeon pwerus: Cyflwyno plant i gerddoriaeth glasurol a bywydau arbennig cyfansoddwyr fel Beethoven a Mozart.
- Integreiddio i’r cwricwlwm: Yn cysylltu’n uniongyrchol i chwe ardal o ddysgu a phrofiad yng Nghwricwlwm Cymru, meithrin creadigrwydd, hyder a gwaith tîm.
- Dysgu cynaledig: Cyfarparu ysgolion gyda 150 o adnoddau ar-lein fesul gweithdy, yn galluogi athrawon i barhau i ddarparu addysg gelfyddydau mynegol.
- Profiadau cynhwysol: Sicrhau bod plant o bob gallu yn teimlo’n rhan o’r hud a’r llawenydd o opera ac adrodd straeon.
Mae athrawon wedi canmol y gweithdai fel rhai trawsnewidiol, yn amlygu eu gallu i gyfoethogi addysg ac yn eu gwneud yn hwyliog ac yn hygyrch i bawb ar yr un pryd.
"Diolch o galon i chi am heddiw! Mwynhaodd ein plant weithio gyda chi a Rob. Gadawsant yn teimlo’n gyffrous, yn hapus ac yn frwdfrydig i barhau i ddysgu.”
“Rydych chi wedi bywiogi dros 500 o ddisgyblion a staff ar draws Powys mewn dau ddiwrnod Rydych chi wedi agor eu llygaid i’r hud o adrodd straeon drwy opera. Diolch yn fawr!”
“Rydych chi wedi codi ysbryd pawb sydd yma”
“Diwrnod gwych o’r dechrau i’r diwedd, diolch!”
“Y CPD gorau erioed! Roedd y gemau rhythm, caneuon, a llyfrau cysylltiedig yn llawn hwyl ac yn ymarferol ar ein cyfer ni fel athrawon hefyd.”
“Hynod o ddifyr a chynhwysol, mae’r staff a disgyblion yn dal i siarad amdano.”
Ni fyddai’r bartneriaeth hon wedi bod yn bosib heb gefnogaeth Gwasanaethau Cerdd Powys a Sir Benfro a Chastell Howell, sy’n rhannu’r gred y dylai cerddoriaeth fod yn hygyrch i bawb. Gyda’i gilydd, mae ABC ac WNO yn profi bod gan gerddoriaeth y pŵer i drawsnewid bywydau, o lwyfannau mawr y byd i ddosbarthiadau Cymru.
Dyma edrych ymlaen at fwy o flynyddoedd o ddod â’r hud o opera i’r genhedlaeth nesaf o garwyr cerddoriaeth.