Newyddion

Tomáš yn cyflwyno cyngerdd i arweinydd penigamp

16 Ionawr 2018

Mwynhaodd y gynulleidfa niferus gyngerdd WNO yn Neuadd Dewi Sant (14 Ionawr 2018). Roedd yn foment arbennig i’n Cyfarwyddwr Cerdd Tomáš Hanus a gyflwynodd y cyngerdd i’r arweinydd penigamp Jiří Bělohlávek a fu farw rhai misoedd cyn. Roedd hi’n anrhydedd cael ei weddw Anna gyda ni yn y cyngerdd.

Roedd Tomáš wedi paratoi cyflwyniad arbennig ar gyfer y rhaglen: 

'Cwrddais â Jiří Bělohlávek am y tro cyntaf yn 1988 pan oeddwn ar wyliau yn Krkonoše, ardal fynyddig hardd yn Bohemia. Roeddem yn aros mewn gwesty mynydd lle’r oedd llawer o gerddorion o bob cwr o’r wlad yn aml yn dewis aros. Yn digwydd bod roedd fy nheulu i a theulu Bělohlávek ar ein gwyliau yno ar yr un pryd. Roeddwn i’n 18 oed ac yn gobeithio dilyn gyrfa fel arweinydd. Roedd Jiří Bělohlávek yn gymaint o eicon i mi nad oeddwn i’n gallu mentro siarad ag ef, yn enwedig gan ei fod ar ei wyliau gyda’i deulu ifanc.

Drwy gydol y gwyliau byddwn yn cerdded heibio ef yn llawn rhyfeddod. Dim ond ar ddiwrnod olaf ein harhosiad, y gwnes i o’r diwedd fagu’r hyder i siarad ag ef. Eisteddodd y ddau ohonom wrth y tân yn rhostio selsig, ac yn siarad.

Yn digwydd bod, bu’r noson honno’n un o nosweithiau pwysicaf fy mywyd. Gwrandawodd Maestro Bělohlávek arnaf gyda chymaint o gynhesrwydd a dealltwriaeth, a gwnaeth fy annog i rannu fy mhrofiadau o ddod yn arweinydd. Ar ôl ychydig, dywedodd, ‘Rwy’n gweld dy fod ti o ddifrif am hyn, tyrd awn ni am dro!’ Ac felly fe wnaethom barhau i siarad wrth i ni gerdded drwy’r coed.

Erbyn i mi ddod yn 18 oed, roeddwn wedi dod i ddisgwyl nad oedd pobl yn aml yn barod i helpu pobl ifanc talentog. Roedd Jiří yn gallu ysgogi nid yn unig fy ffydd yn y celfyddydau (roedd hynny gennyf i eisoes), ond hefyd fy ffydd yn natur dynoliaeth. Ni wnaeth i mi deimlo’n fach trwy wthio ei wychder arnaf i; i’r gwrthwyneb, fe wnaeth i mi deimlo fy mod yn cael fy mharchu. Fel y darganfyddais yn ddiweddarach, roedd hyn yn nodweddiadol ohono fel athro. Roedd yn parchu pob myfyriwr unigol yn llawn ac yn eu helpu i ddod o hyd i’w gwir hunaniaeth, yn hytrach na dim ond efelychu’r Maestro.

Yn ystod ein taith gerdded yn y goedwig, gofynnais i Bělohlávek a fyddai’n rhoi gwers arwain i mi. Drannoeth, cyn i ni adael, fe wnaethom gyfarfod o dan binwydden gerllaw gwesty ‘Hromovka’ ar gyfer ein gwers gyntaf. Yn anffodus, ni allaf ddod o hyd i’r goeden arbennig honno bellach, gan fod coed newydd wedi cael eu plannu ar y llechwedd ac mae’n edrych mor wahanol. Ond rwy’n gwybod nad yw wedi diflannu ac mae wedi bod yno bob amser, yn rhan o’r llechwedd – yn ddi-lol, bob amser yn ei lle, yn barod I wasanaethu. Yn debyg iawn i fywyd Jiří!

Rwyf yn aml wedi cael y cyfle i brofi ei arweinyddiaeth ddiymhongar. Efallai mai’r gyffelybiaeth fwyaf addas oedd cerdyn post a anfonodd ataf ychydig flynyddoedd yn ôl. Roedd yn cynnwys llun o ffynnon gyda dwˆ r pur, clir yn llifo ohoni. Roedd Jiří wedi ysgrifennu, ‘Dyma beth hoffwn i fod!’

Diolch, Jiří!

Tomáš

Mi oedd Opera Cenedlaethol Cymru yn falch i cyflwyno’r cyngerdd er cof am Jiří Bělohlávek (1946 – 2017)