Newyddion

Cast neu Geiniog: O’r Opera From the House of the Dead

27 Hydref 2017

Mae pethau arswydus wedi bod yn digwydd tu ôl i’r llenni yn WNO gyda’n tîm colur yn trawsnewid cast From the House of the Dead ar gyfer eu perfformiadau yn Hydref 2017. Mi oedd Galan Gaeaf yn agosáu ac fe oeddwn eisiau cynnig edrychiad newydd i rai, sef edrychiad yn seiliedig ar un o’n carcharorion o Siberia, sêr yr opera wych a dderbyniodd canmoliaeth uchel.

Er mwyn eich helpu i wneud hynny dyma ganllawiau cam wrth gam ar sut i berffeithio’r edrychiad o’r opera House of the Dead. Byddwch yn barod i wneud castiau a chasglu ceiniogau mewn dim o dro...

1.    Dechreuwch gyda sylfaen golau; gallwch wneud hynny gan ddefnyddio colur sylfaen golau neu baent wyneb gwyn er mwyn cael lliw sylfaen llwydaidd fel bod golwg flinedig a  gwelw arnoch, fel petaech yn garcharor sydd ar lwgu.

2.    Dechreuwch drwy ddefnyddio lliwiau tywyll megis brown tywyll a du, o gwmpas ac oddi tan eich llygaid. Gallwch ddefnyddio colur llygaid tywyll i wneud hyn gan ddefnyddio brwsh ac yna eich bysedd i feddalu’r lliw.

Y peth pwysig yw defnyddio digon o golur llygaid er mwyn gwneud i’ch llygaid edrych fel petaent dan gwfl.

3.    Nawr mae angen amlinellu. Defnyddiwch bowdwr llygaid i greu rhychau ar ochr eich llygaid ac ar eich talcen. Gallwch ei ddefnyddio hefyd i greu pantiau yn yr wyneb drwy roi lliw tywyll o dan esgyrn eich bochau.

4.    Os ydych chi eisiau edrychiad gwaedlyd, beth am greu cornwyd neu ddau? I greu’r edrychiad byddwch angen ychydig o latecs i greu lwmp ac yna defnyddio powdwr coch (gallwch ddefnyddio powdwr gwrido neu golur llygaid ar gyfer hyn) o gwmpas y lwmp i greu’r dyfnder.

5.    Eisiau profi eich sgiliau? Gallwch geisio ychwanegu cap moel i’ch edrychiad a rhoi cysgodion tywyll arno. (Yn WNO rydym yn creu ein latecs ein hunain felly mae’r holl gapiau moel y byddwch yn eu gweld wedi eu creu gennym ni.) Gyda’ch gwallt, yn dibynnu ar ei hyd, rydym yn awgrymu eich bod yn ei wneud yn flêr drwy ei gribo am yn ôl neu ddefnyddio gel effaith gwlyb, er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i edrych yn flêr.

6.    Er mwyn ychwanegu ychydig o gysgod blew ar yr wyneb, defnyddiwch ddarn o sbwng i roi ychydig o liw ysgafn ar hyd yr ên ac o dan y trwyn.

7.    Yn yr opera ac yng ngharchardai Rwsia yn eu dydd, byddai carcharorion yn cael tatŵ gyda llythrennau i gynrychioli eu henw. I ail-greu’r edrychiad hon, defnyddiwch baent wyneb du a brws bach, neu hyd yn oed ffyn cotwm, gan lunio dotiau bychan i greu llythyren.

8.    Peidiwch ag anghofio cwblhau’r edrychiad drwy wneud i’ch dwylo, breichiau a brest edych yn fudur gan ddefnyddio sbwng neu frwsh i greu ardaloedd tywyll.

9.    Er mwyn coroni’r cyfan, y cam olaf yw ychwanegu ychydig o ddannedd melyn a du. Rydym yn defnyddio nicotin ac enamel dannedd du, y ddau gan Kryolan. Os na fedrwch chi gael gafael ar y rhain defnyddiwch bensil llygaid du.


Beth am adael i’n hartistiaid colur gwych eich ysbrydoli drwy edrych ar y fideos treigl amser o’r Corws yn cael eu trawsnewid. 

Fe lwyddon nhw i drawsnewid aelod o dîm yr adran farchnata hyd yn oed.

Gobeithio fe wnaeth hyn eich hysbrydoli i wisgo’ch gwisgoedd ac i ymuno yn hwyl Calan 

Colour wedi ei ddarpary gan M.A.C.