Newyddion

Sêr Opera Cymru – y dynion – rhan 2

25 Chwefror 2021

Wrth i ni agosáu at Ddydd Gŵyl Dewi, mae Opera Cenedlaethol Cymru yn edrych yn ddyfnach ar rai o'r dynion Cymreig sydd wedi gwneud argraff ar lwyfannau opera'r byd.

Wedi ei eni yng Nghaerfyrddin, astudiodd Wynne Evans, y dyn sydd nawr yn (ddrwg)enwog fel Gio yn yr hysbysebion yna, yn y Guildhall School of Music and Drama a’r National Opera Studio, cyn lansio ei yrfa yn y Royal Opera House yn 2011 yn eu cynhyrchiad newydd o Cherevichki. Roedd y flwyddyn honno’n un amrywiol iawn, yn ymddangos mewn darnau gan gynnwys Anna Nicole, yr opera newydd yn seiliedig ar fywyd Anna Nicole Smith, ac fel y canwr opera Ubaldo Piangi yn opera Andrew Lloyd Webber, The Phantom of Opera yn y Royal Albert Hall. Mae cysylltiad Evans gydag Opera Cenedlaethol Cymru yn cynnwys rolau yn L'elisir d'amore, Otello, Rigoletto (yn y llun) a La boheme ymysg eraill. Ar hyn o bryd gellir clywed Wynne yn cyflwyno ei sioe ei hun ar BBC Radio Wales.

Ganed y tenor operatig Stuart Burrows OBE ym mhentref Cilfynydd, ger Pontypridd, yn 1933, a dechreuodd ei fywyd gwaith fel athro cyn rhoi'r gorau i hynny i ddilyn gyrfa fel canwr. Perfformiodd Burrows, sy’n enwog o amgylch y byd am ei berfformiadau mewn oratorios, operâu (yn enwedig gwaith Puccini, Verdi, Donizetti a Mozart), am y tro cyntaf gydag WNO yn 1963 fel Ismael yn Nabucco gan Verdi.

Yn 1967, daeth ei berfformiad yn ystod Gwyl Athens â chanmoliaeth ryngwladol iddo. Gofynnodd Stravinsky ei hun iddo berfformio Oedipus rex ac wedi hynny, roedd yn cael ei ystyried fel un o denoriaid telynegol gorau'r byd, erioed. Yn ystod yr 1970au a 1980au, roedd ganddo ei gyfres ei hun a oedd yn hynod boblogaidd, Stuart Burrows Sings, a wnaed gan BBC Cymru a’i darlledu ar BBC Two. Dyfarnwyd OBE iddo yn rhestr Anrhydeddau Penblwydd y Frenhines yn 2007.

Roedd David Ffrangcon-Davies (1855 – 1918) yn fariton poblogaidd. Wedi ei eni ym Methesda fel David Thomas Davies, daeth ei enw llwyfan Ffrangcon o’r dyffryn cyfagos, Nant Ffrancon. Yn dilyn cyfnod ym Mhrifysgol Rhydychen, cafodd ei urddo’n offeiriad a daeth yn giwrad yn Llanaelhaearn ym Mhenrhyn Llŷn yn 1884 ac yna yng Nghonwy yn 1885. Tra yng Nghonwy astudiodd yr organ a phenderfynodd ganolbwyntio ar yrfa ganu.

Yn 1888, perfformiodd mewn cyngherddau yng Nghaerdydd cyn ymuno â Chwmni Opera Carl Rosa, lle perfformiodd mewn opera am y tro cyntaf fel yr herodr yn Lohengrin gan Wagner. Ei lwyddiant mwyaf oedd y brif rôl yn Elijah gan Felix Mendelssohn, a chanodd am y tro cyntaf yn 1890 yng ngŵyl gerddoriaeth Horringham yn Swydd Efrog. Yn yr 1890au hwyr, aeth Davies ar daith o amgylch yr UDA a’r Almaen cyn symud i Berlin i ganu ac addysgu canu. Yn 1904, cafodd ei benodi fel athro canu yn y Royal Academy of Music. Ei ferch oedd yr actores y Fonesig Gwen Ffrangcon-Davies (1891–1992).

Er ein bod yn dathlu talent Cymreig o'r gorffennol a'r presennol, rydym yn gwybod fod llawer o artistiaid newydd yn dod i'r amlwg. Dywedwch wrthym pwy ydych chi’n meddwl yw sêr Cymreig y dyfodol ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.