Gyda Diwrnod Rhyngwladol y Menywod a Dydd Gŵyl Dewi yn prysur agosáu, mae Opera Cenedlaethol Cymru yn dathlu mwy o'r difas sydd wedi arddangos Cymru i'r byd
Mae Janet Price yn soprano Gymreig a daeth yn adnabyddus yn benodol am ei chysylltiad gyda repertoire bel canto Eidalaidd yr 19eg ganrif. Wedi ei geni ym Mhont-y-pŵl, astudiodd y piano a chanu ym Mhrifysgol Caerdydd. Canodd Janet rolau amrywiol gydag Opera Cenedlaethol Cymru gan gynnwys 2 berfformiad yn Abertawe a Bryste fel Micaela yn Carmen yn 1968, ac yn ddiweddarach yn yr hyn a ddisgrifir gan Richard Fawkes yn ei lyfr Welsh National Opera fel 'ei rôl bwysig gyntaf gyda'r cwmni, fel yr Ilia fedrus' yn Idomeneo yn 1973.
Mae ganddi gysylltiad cryf ag Opera Rara, yn ymddangos mewn perfformiadau cyngherddol ac ar lwyfan o ddarnau nad ydynt yn cael eu perfformio’n aml gan gyfansoddwyr gan gynnwys Meyerbeer, Saverio Mercadante, Donizetti ac Auber. Yn 2017 lansiodd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Caerdydd Wobr Opera flynyddol Janet Price, sy'n cefnogi hyfforddiant uwch ar gyfer cantorion opera ifanc.
Dechreuodd Helen Watts CBE (1927 – 2009) a aned yn Aberdaugleddau, ei gyrfa gyda Chorws Glyndebourne, ac roedd yn ddarlledwraig reolaidd ar y radio.
Perfformiodd yn y Proms am y tro cyntaf yn 1955, yn canu ariâu Bach, ac yna aeth ar daith o amgylch yr Undeb Sofietaidd gyda’r English Opera Group, yn 1964, yn canu’r brif ran yn The Rape of Lucretia a arweinwyd gan Britten ei hun. Roedd hi hefyd yn adnabyddus am ei pherfformiadau fel Mistress Quickly yn Falstaff gan Verdi gydag Opera Cenedlaethol Cymru yn 1969 (a ddisgrifiodd fel 'cyfle o’r nefoedd i chwarae rhan gomedi') a chanodd gyda’r Cwmni hyd nes 1983.
O fyd opereta, ganwyd Eleanor Evans yn 1893 yn Henllan, Sir Ddinbych, ac aeth ymlaen i berfformio darnau Gilbert a Sullivan am dros 20 mlynedd gyda Chwmni Opera D'Oyly Carte. Yn 1949, cafodd ei phenodi fel Cyfarwyddwr Llwyfan y cwmni a Chyfarwyddwr Cynyrchiadau gan Bridget D’Oyly Carte ei hun, yn parhau yn y swyddi hynny hyd at 1953. Astudiodd Evans yn y Royal Academy of Music ynghyd â’i darpar ŵr, y bas-bariton Darrell Fancourt, a ymunodd â Chwmni Opera D’Oyly Carte fel prif ganwr yn 1920.
Dilynodd Eleanor ef i'r cwmni fel aelod o'r corws yn 1921 a chwaraeodd rôl y Plaintiff yn Trial by Jury yn ddiweddarach y flwyddyn honno. Parhaodd Evans i ganu yn y corws a chafodd hefyd rolau yn nhymor 1925 – 26. Roedd hi yn y corws o 1927 i 1937, ac ailymunodd yn ddiweddarach o 1941 i 1945.
Faint o ferched Cymreig ydych chi wedi eu gweld ar lwyfannau WNO dros y blynyddoedd? Rhannwch eich atgofion gyda ni ar ein cyfryngau cymdeithasol.