Newyddion

Sêr Cymru ar y Llwyfan a'r Sgrin

3 Mawrth 2023

Gan barhau â'n cyfres, Sêr Opera Cymru, daw hud y sgrin â sglein seliwloid ychwanegol i'r menywod a ddaeth i fri ar fwy nag un llwyfan byd-eang.

Cynigiwyd cytundeb MGM i Patricia Kern a aned yn Abertawe yn 1927 pan oedd hi’n dal yn blentyn, ond gwrthododd ei rhieni. Perfformiodd dros Gymru a Lloegr yn blentyn cyn astudio yn y Guildhall School of Music & Drama. Dechreuodd ar ei gyrfa operatig gydag English National Opera (neu Sadler's Wells Opera Company fel y'i gelwid bryd hynny) ac yna Opera Cenedlaethol Cymru. Wedi hynny daeth yn gantores reolaidd gyda Dublin Grand Opera, Scottish Opera a’r Royal Opera House. Ymddangosodd am y tro cyntaf gyda WNO fel Martha yn Mefistofele Boito yn 1957. Ym 1963 fel Rosina yn cynhyrchiad WNO o The Barber of Seville, cafodd ddychwelyd i'w thref enedigol a pherfformio unwaith eto ar lwyfan Theatr y Grand Abertawe, a chael adolygiad godidog yn y Daily Express: 'rhagorol... rhoddodd berfformiad o safon ryngwladol o ran ysblander y canu a'r ymdeimlad o gymeriad.'

Ganed Elizabeth Vaughan yn Sir Drefaldwyn ym 1937 a dechreuodd ei gyrfa fel soprano, gan ddod yn mezzo-soprano yn ddiweddarach. Ar ôl astudio yn y Royal Academy of Music ymddangosodd am y tro cyntaf gyda WNO fel Abigaille yn nghynhyrchiad Nabucco yn 1960, cynhyrchiad a aeth ar daith i Sadler's Wells y flwyddyn ganlynol. Disgrifir ei hymddangosiad cyntaf yn llyfr Richard Fawkes (Welsh National Opera, 1986) fel: 'Debutante rhagorol y Tymor…'. Ymhlith y dyfyniadau disglair am ei pherfformiad yn Llundain roedd y Daily Mail yn awgrymu y gallai fod yn 'Welsh Callas in the making?'. Aeth ei gyrfa ddilynol â hi i'r Royal Opera House yn ogystal â'r Metropolitan Opera yn Efrog Newydd. Yn 1982 cyrhaeddodd ei chynulleidfa ehangaf gydag ymddangosiad yn y ffilm Victor/Victoria – fel cantores opera, wrth gwrs. Yn y flwyddyn honno y perfformiodd gyda WNO am y tro olaf fel Maddalena yn Andrea Chénier, ar ôl canu llawer o brif rannau gyda’r cwmni, o Mimì a Butterfly i Tosca.

Efallai nad oes cysylltiad rhwng Hollywood a’n seren opera nesaf, ond mae hi wedi gwneud ei marc ar y sgrin fach gyda’i chyfres deledu ei hun ar sianel Gymraeg, S4C, ac ymddangosiadau ar Diva, Diva, Diva BBC2. Mae Leah-Marian Jones, a aned yng Nghilgerran, hefyd yn un o ddim ond llond llaw o sêr opera a all ddweud eu bod wedi canu yng Ngŵyl Glastonbury. Perfformiodd ar lwyfan byd-enwog y Pyramid fel Rossweisse yn Die Walküre – yr opera gyntaf i gael ei pherfformio yno yn hanes yr ŵyl, gydag English National Opera yn 2004. Ar ôl astudio yn y Royal Northern College of Music a'r National Opera Studio, mae’r mezzo-soprano Leah-Marian wedi bod yn ymddangos yn rheolaidd ar lwyfannau’r Royal Opera House, ENO, Opera North, Scottish Opera ac wrth gwrs, Opera Cenedlaethol Cymru. Mae ei gyrfa wedi mynd â hi i Efrog Newydd, San Francisco ac ar draws Ewrop, yn ogystal â pherfformiadau yn Hong Kong gyda'n Pelléas et Mélisande yn 2018. Yn ddiweddar, mae ei gwaith gyda WNO wedi cynnwys War and Peace, The Consul a The Marriage of Figaro.

Felly, mae’n ymddangos y gall lleisiau Cymreig gwych godi uwchlaw llwyfannau yn ogystal â gwledydd. Mwynhewch leisiau Cymru wrth i Blaze of Glory! fynd ar daith yn ystod tymor y gwanwyn hwn, yn perfformio yng Nghaerdydd, Llandudno, Milton Keynes, Bryste, Birmingham a Southampton.