Newyddion

Cymru: Gwlad y Gân

1 Mawrth 2021

Yr olygfa agoriadol o The Sound of Music yw, heb os, un o’r golygfeydd mwyaf adnabyddus yn hanes ffilm. Y lleoliad ffilmio eiconig lle mae’r Maria ifanc, wedi’i pherfformio gan Julie Andrews, yn canu 'The hills are alive with the sound of music'yw’r Alpau Almaenig ger ffin Awstria. Fodd bynnag, gall fod wedi’i ffilmio yma, yng nghanol bryniau Cymru.

Mae ein gwlad Geltaidd fechan, sy’n gartref i 3.1 miliwn o bobl, yn llawn tirweddau naturiol hardd. Mae tua chwarter y wlad yn gorwedd un ai o fewn un o’i tri Pharc Cenedlaethol - Eryri, Bannau Brycheiniog ac Arfordir Penfro - neu un o’i phum Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol: Penrhyn Llŷn, Bryniau Clwyd, Dyffryn Dyfrdwy, Penrhyn Gŵyr, Ynys Môn a Dyffryn Gwy.

Dros y misoedd diwethaf, nid yw llawer ohonom wedi gallu cael mynediad i'r lleoliadau hyn a'u mwynhau, gan ein gadael yn hel atgofion o’r gorffennol. Yma yng Nghymru, mae gennym derm am y teimlad hwnnw - hiraeth - cyfuniad o golli adref, nostalgia a dyheu. Mae’n derm sy’n cwmpasu ein teimlad o golled o le, amser a phobl yn ystod y pandemig coronafeirws yn berffaith.

Er ein bod ni yma yn Opera Cenedlaethol Cymru wedi gallu cadw’r gerddoriaeth yn fyw, arlein, rydym yn ysu am dychwelyd yn ôl i’n llwyfannau, ein mamwlad a rhannu ein cerddoriaeth gyda chi, ein cynulleidfaoedd, yn fyw.

Gyda’r llys enw ‘Gwlad y Gân’, mae gan Gymru draddodiad canu hanesyddol. Fel cenedl, rydym yn tyfu i fyny’n canu yn yr ysgol, mewn partïon, yn y capel. Rydym yn cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yr ŵyl lenyddol gystadleuol a cherddoriaeth fwyaf yn Ewrop. Mae canu a chanu corawl yn benodol yn rhan o hunaniaeth a thraddodiad Cymru, a gallwch weld corau Cymru ledled y byd, o Sydney i Boston. I ddyfynnu addasiad 1941 o nofel Richard Llewellyn How Green Was My Valley, 'Mae fy mhobl yn canu fel mae llygaid yn gweld'.

Angerdd y genedl dros ganu yw'r hyn a arweiniodd at ffurfio Opera Cenedlaethol Cymru, flynyddoedd yn ôl. Roedd ein Cyfarwyddwr Cerddoriaeth cyntaf, Idloes Owen, yn gôr-feistr ar Lyrian Singers - Côr Meibion o Gaerdydd - a dan ei arweiniad fe enillon nhw enw da iawn yng Nghymru a thu hwnt. O'r hyn a ddeilliodd o grŵp o gantorion a cherddorion gwirfoddol, ein dau ensemble llawn amser - Corws WNO a Cherddorfa WNO - sydd wrth wraidd WNO.

Efallai bod coronafeirws wedi tawelu ein llwyfannau ond fel y dywed Dafydd Iwan 'Er gwaetha pawb a phopeth, ry’n ni yma o hyd’ ac rydym yn edrych ymlaen at ddychwelyd at yr hyn a wnawn orau - perfformio i chi - pan fydd yn ddiogel gwneud hynny. Yn y cyfamser, mwynhewch Hiraeth, un o glasuron repertoire Côr Meibion Cymru, a berfformiwyd gan ddynion Corws WNO.