Newyddion

Waltsio i Fienna

31 Ionawr 2022

Mae Opera Cenedlaethol Cymru wrth ein bodd i ddychwelyd i’r llwyfan cyngherddau, gyda chyngerdd trawiadol a’i phenodir gan Gerddorfa odidog WNO ynghyd â chyn Artist Cyswllt WNO Harriet Eyley, ac o dan arweiniad y cyngerdd feistr David Adams. Oherwydd y cyfyngiadau bu’n rhaid i’r cyngerdd gwreiddiol gael i’w gohirio ar ddechrau mis Ionawr, felly rydym yn hynod o falch ein bod yn medru ail-drefnu rhan o’r daith hyn.


Bydd y cyngerdd Dychwelyd i Fienna yn cynnwys campweithiau adnabyddus gan gyfansoddwyr fel Johann Strauss II, Josef Strauss, Lehár a Korngold, gan gynnwys y darn eiconig, The Blue Danube sef un o’r waltsiau mwyaf clodfawr erioed. Mae'r darn hwn yn adnabyddus am ei ymdeimlad Fiennaidd sy'n gysylltiedig â melodi Strauss ac mae wedi dod yn anthem answyddogol Awstria i Fienna, ac wedi helpu i godi proffil dawns nodedig y Walts Fiennaidd yn ail hanner y 19eg ganrif. Diolch i Strauss a'i fab, daeth y Walts Fiennaidd, gyda'i churiad penodol i amser 3/4, yn ffefryn mewn dawnsfeydd ledled Ewrop. Mae’r math hwn o ddawns yn parhau i ddiddanu cynulleidfaoedd, ac mae’r rhaglen adloniant hynod boblogaidd, Strictly Come Dancing, wedi hyrwyddo’r arddull gain hon o ddawns mewn gosodiad mwy cyfoes.

Mae’r cyngerdd hwn hefyd yn cynnwys Polka Mazurka Waltz gan Korngold, campwaith arall a fydd yn peri i chi dapio’ch troed drwy gydol y cyngerdd. Mae’r Polka yn genre dawns sy’n tarddu o’r Weriniaeth Tsiec, ac mae'n parhau i fod yn ffurf ddawns werin boblogaidd yn Ewrop hyd heddiw. Bydd y darn hudolus hwn yn bendant yn cael gwared ar y felan ôl-Nadolig, a byddwch yn sicr o fod yn dawnsio’r holl ffordd adref.

Campwaith arall gan Strauss sy’n rhan o repertoire'r cyngerdd hwn yw Radetzky March, sy’n ddarn sy’n cael ei chwarae ar ddiwedd y cyngerdd Dydd Calan yn Fienna, ac mae'r gynulleidfa’n cael eu hannog i guro’u dwylo mewn canmoliaeth i groesawu blwyddyn arall. Yn draddodiadol, cynhelir cyngerdd blwyddyn newydd yn Fienna yn flynyddol ers 1838, sy'n cynnwys cerddoriaeth gan gyfansoddwyr blaenllaw fel Strauss, ac mae wedi parhau’n boblogaidd byth ers hynny. Yn ogystal â bod yn boblogaidd yn ei famwlad, mae’r cyngerdd Blwyddyn Newydd Fiennaidd rhagorol hwn mor boblogaidd, mae hefyd yn cael ei ddarlledu i 90 o wledydd ledled y byd.
Bu’n draddodiad perfformio cyngerdd Dydd Calan ym mhrif ddinas Awstria ers sawl degawd, yn hyrwyddo cerddoriaeth Strauss, ‘brenin y walts’ a’i gyfoeswyr gyda’r un repertoire hiraethus wedi’i gynnwys bob blwyddyn i ddathlu eu dylanwad cerddorol helaeth.

Mae ein cyngerdd Dychwelyd i Fienna yn cymryd lle ar Chwefror 5ed yn Turner Sims, Southampton gyda repertoire llawn hwyl a llawenydd sy’n apelio i’r rheiny sy’n diddori mewn cerddoriaeth glasurol. Bydd y gwledd yma o gerddoriaeth yn eich gadael i waltsio drwy’r noson felly ymunwch â ni am noson hwyliog o gerddoriaeth gan Strauss, Lehár a Korngold.