Mae’n bosib eich bod yn ymwybodol o rai o ffeithiau mwyaf hysbys y byd cerddoriaeth glasurol, fel ei buddion iechyd ac mai ond pump oed oedd Mozart pan ysgrifennodd ei gyfansoddiad cyntaf, ond dyma rai ffeithiau anhygoel ac anarferol i chi. Mae’r ffeithiau hyn yn bendant o ennyn trafodaeth ddiddorol yn eich cinio gwadd nesaf a gallent ddod yn ddefnyddiol i chi mewn cwis tafarn...
1. Dim meicroffonau i ni...
Mae cantorion opera yn canu ar seinamledd gwahanol i’r gerddorfa ac felly nid oes angen meicroffonau arnynt i chi eu clywed dros yr offerynnau.
2. Diweddglo dramatig
Pan fu farw’r bariton Leonard Warren ar y llwyfan y Met yn 1960 roedd newydd orffen canu ‘Morir! Tremenda cosa’, o La forza del destino gan Verdi, sy’n cyfieithu fel – ‘Marw! Peth dirfawr’ – a oedd yn addas iawn ar y pryd.
3. Pavarotti yn yr Eisteddfod?!
Coeliwch neu beidio ond profodd Pavarotti ei lwyddiant cyntaf yn canu fel rhan o gôr meibion (Corale Rossini), lle roed ei dad hefyd yn aelod, yn 1955. Ar ôl i’r côr ennill y wobr gyntaf yn Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol Llangollen ysbrydolwyd y tenor enwocaf erioed i ddilyn gyrfa gerddorol broffesiynol.
4. Melltith Wagner…
Mae dau arweinydd wedi marw wrth arwain ail act Tristan und Isolde, Wagner. Cafodd y ddau trawiad ar y galon ar union yr un pwynt yn y gerddoriaeth, a gallai hyn fod oherwydd elfennau technegol y darn.
5. Cymeradwyaeth aruthrol
Ar ôl perfformiad o Othello yn Fienna ar 30 Mehefin 1991, derbyniodd y canwr opera Placido Domingo gymeradwyaeth a barodd 80 munud yn ogystal â 101 llen-alwad – dyna arwydd o ddiwrnod da o waith...
6. Ffrog ddrudfawr…
A ydych erioed wedi meddwl beth yw’r wisg opera mwyaf drud erioed? Fe’i gwisgwyd gan Adelina Patti (o gastell Craig-y-Nos yma yn Ne Cymru) yn Covent Garden ym 1895 ac roedd werth swm anhygoel o £15 miliwn!
7. Iâr yn croesi’r ffordd i dŷ opera…
Yn ystod perfformiad o Boris Godunov yn y Sydney Opera House yn yr 1980au, disgynnodd iâr oddi ar y llwyfan gan lanio ar sielydd. Ers hynny maent wedi gosod rhwyd uwchben pwll y gerddorfa i osgoi hyn yn y dyfodol.
8. Penglogau di-rif
A oeddech chi’n gwybod bod gan fedd Haydn ddau benglog? Cafodd ei benglog go iawn ei ddwyn gan ddau ddyn â diddordeb mewn ffrenoleg. Llwyddasant i gadw’r penglog o ddwylo’r awdurdodau a’u twyllo gyda phenglog gwahanol. Ym 1954 rhoddwyd penglog go iawn Haydn yn y bedd ond ni wnaethant erioed gael gwared ar y penglog ffug.
9. Canu bale
Yn y 18fed ganrif perfformiai’r holl gantorion opera yn nhrydydd safle bale, felly byddai pob un ohonynt yn sefyll ag un ffêr o flaen y llall gyda’u coesau wedi’u plygu fymryn. Felly bryd hynny roedd rhaid i chi allu dawnsio bale yn ogystal â gallu canu bel canto.
10. Y cwbl er mwyn opera
Yn y 1700au roedd castrati yn grŵp lleisiol poblogaidd iawn ac ar ei anterth amcangyfrifwyd bod oddeutu 4,000 o fechgyn yn cael eu disbaddu bob blwyddyn. Mewn operâu, byddai’r castrati yn chwarae is-rannau ac o bryd i’w gilydd yn chwarae rhannau merched, ond erbyn 1680 chwaraeai’r lleisiau hyn brif rannau’r dynion.