Newyddion

Lles gyda WNO yn ehangu ledled Cymru

30 Ionawr 2023

Cadarnhawyd yr achos coronafeirws cyntaf yng Nghymru ym mis Chwefror 2020. Tair blynedd yn ddiweddarach ac yn sgil gostyngiad yn y nifer o ganlyniadau positif, rydym bellach mewn cyfnod a ystyrir yn gyfnod ‘covid sefydlog’. Fodd bynnag, ym mis Rhagfyr 2022 adroddodd tua 114,000 o bobl yng Nghymru symptomau COVID Hir, gyda 20% yn datgan bod y symptomau wedi cael effaith sylweddol ar eu bywydau bob dydd.

Cafodd y rhaglen Lles gyda WNO, a ddatblygwyd ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol y GIG, ei lansio ym mis Tachwedd 2021 gan Opera Cenedlaethol Cymru er mwyn cefnogi pobl sy’n byw gydag effeithiau hirdymor y feirws, megis straen, gorbryder a’r rhai sy’n fyr eu gwynt.

Newidiodd pob agwedd ar fy mywyd ar ôl COVID. Roedd tasgau dydd i ddydd yn cymryd mwy o amser i’w cwblhau gan fod angen i mi orffwys yn rheolaidd. Yn gorfforol, cefais ymarferion anadlu ymarferol o’r rhaglen Lles gyda WNO i leddfu tyndra yn y cyhyrau o amgylch fy asennau. Yn emosiynol, roedd y cymorth a gefais yn gwneud i mi sylweddoli nad oeddwn ar ben fy hun. Yn ystod y sesiynau, roedd fy ngofidiau’n diflannu ohona i a chefais bleser pur o gymryd rhan mewn canu. Mae'n ffordd wych o godi’r galon.

Gabby Curly, Cyfranogwr Lles gydag WNO

Ar ôl blwyddyn o ganfyddiadau gwerthuso hynod gadarnhaol, rydym yn falch o gyhoeddi y bydd y rhaglen canu ac anadlu hon, yn cael ei hehangu i ragor o Fyrddau Iechyd GIG Cymru yn 2023, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru drwy’r Gronfa Loteri Genedlaethol ar gyfer y Celfyddydau, Iechyd a Lles.

Mae Lles gyda WNO wedi helpu i ymgorffori’r ymarferion anadlu a all leddfu symptomau COVID Hir, ac mae’r cymorth cyfoedion yn cyfrannu at y gwelliant cyffredinol mewn lles emosiynol. Mae’n wasanaeth hygyrch, ar gael i bobl yn rhithiol, sy’n helpu pobl sy’n methu mynychu sesiynau wyneb yn wyneb.

Dr Rachel Skippon, Arweinydd Seicoleg Gwasanaeth Covid Hir Gogledd Cymru

Hyd yma, mae dros 100 o gyfranogwyr wedi cwblhau’r rhaglen gyda 94% ohonynt yn adrodd bod y technegau anadlu’n effeithiol neu’n effeithiol iawn. Mae’r ymarferion anadlu a’r technegau lleisiol wedi hyrwyddo newidiadau cadarnhaol mewn patrymau anadlu, gan osgoi teimladau o banig drwy reoli’r anadl, cynyddu dealltwriaeth cyfranogwyr o’u system resbiradol ac annog gostyngiad yn y defnydd o feddyginiaeth ac oriau gwelyau mewn ysbytai. Mae’r rhaglen hefyd wedi cael effaith gymdeithasol, normaleiddio a seicolegol drwy’r teimladau o bleser pur a llawenydd sy’n cael eu creu yn ystod y sesiynau.

Rwyf wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o raglenni adsefydlu COVID ers mis Mawrth 2020. Lles gyda WNO oedd yr orau a’r fwyaf effeithiol o bell ffordd. Yn ogystal â’m helpu i reoli fy anadlu a gweithio tuag at gryfhau fy llais a diaffram, roedd hefyd yn codi’r galon. Does dim llawer i wenu a chwerthin yn ei gylch o ran Covid Hir ond byddwn yn edrych ymlaen at y cyfarfod Zoom bob wythnos.

Cyfranogwr Lles gyda WNO

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â wellness@wno.org.uk