Newyddion

Lles gyda WNO: Y canlyniadau hyd yn hyn

28 Gorffennaf 2022

Lansiodd Opera Cenedlaethol Cymru ei rhaglen beilot, Lles gyda WNO ym mis Tachwedd 2021. Gan ddefnyddio canu operatig a thechnegau anadlu i fodloni anghenion cleifion COVID Hir ar draws Cymru, nod y rhaglen oedd cynorthwyo adferiad corfforol, adfer llesiant emosiynol, a lleihau gorbryder mewn amgylchedd hamddenol, anffurfiol, anfeddygol a chymdeithasol. Cymerodd tri deg un o bobl 30+ oed ran mewn pedwar cwrs unigol a oedd yn para chwe wythnos yr un rhwng mis Tachwedd 2021 a mis Chwefror 2022. Yn dilyn atgyfeiriadau gan fyrddau iechyd partner ar draws Cymru - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg - cafodd cyfranogwyr wahoddiad i ymuno â sesiynau wythnosol ar Zoom a oedd yn cael eu harwain gan arbenigwr llais profiadol WNO.

Rwyf wedi teimlo’n agos at ddagrau mewn ffordd dda. Rwyf yn rhywle lle mae pobl yn gofalu amdanaf ac yn cadarnhau fy mhrofiad. Mae'n ddull gwych. Nid yw’n teimlo’n feddygol, mae’n teimlo fel eich bod yn twyllo pobl i wneud rhywbeth sy’n gwneud daioni trwy gael hwyl. Dyna’r ffordd orau i ddysgu unrhyw beth

Cyfranogwr Lles gyda WNO

Y canlyniadau iechyd corfforol mwyaf amlwg oedd anadlu’n well, a dywedodd 94% o’r cyfranogwyr bod y technegau anadlu’n effeithiol neu’n effeithiol iawn.

Heb Lles gyda WNO, mi fyddwn i wedi bod yn yr ysbyty. Rhoddais gynnig ar yr ymarferion anadlu pan oedd fy ocsigen wedi mynd yn berygl o isel. O fewn hanner awr o roi cynnig ar y dechneg hymian roeddwn wedi dod allan o'r parth perygl ac wedi osgoi gorfod mynd i’r ysbyty. Roedd gwybod y gallwn wneud hynny a chynorthwyo fy hun yn brofiad rhyfeddol.

Cyfranogwr Lles gyda WNO

Bu Lles gyda WNO o gymorth i wella rhannu profiadau a chysylltiadau ag eraill, gyda chyfranogwyr yn gwerthfawrogi cymorth rhwng cyfoedion â’i gilydd.

Thema bwysig oedd yn cael ei hamlygu yn y data oedd y gwelliant mewn lles emosiynol. Adroddodd y cyfranogwyr bod y sesiynau wythnosol hyn wedi rhoi amser i’w hunain iddynt, a wnaeth eu caniatáu i gael ychydig o bleser o fewn eu hamgylchiadau heriol o ddydd i ddydd. Roedd newid i iechyd meddwl yn cynnwys emosiynau cadarnhaol cynyddol a hyder a llai o orbryder, iselder, gorfeddwl a phanig. Roedd sawl cyfranogwr wedi penderfynu ymuno â chôr ac ail-ddechrau canu karaoke ar ôl eu hamser ar y rhaglen. Mae’r rhaglen arbennig hon, sy’n seiliedig ar brosiect Breathegan English National Opera, yn derbyn cymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru: Cronfa y Loteri Genedlaethol ym maes y Celfyddydau, Iechyd a Lles, er lles pobl Cymru yn benodol. Bydd y rhaglen yn cael ei hehangu i gyrraedd nifer ehangach o bobl ar draws byrddau iechyd eraill yng Nghymru yn 2022/2023.

Mae’r canlyniadau hyn yn dangos i ni, y byrddau iechyd a gweithwyr iechyd proffesiynol, fudd enfawr y rhaglen ac rydym yn gobeithio, gyda’r cyllid angenrheidiol, y gallwn barhau i ddefnyddio’r technegau hyn i wella bywydau ac iechyd pobl heb yr angen am ymyrraeth feddygol neu fel rhan o’u triniaeth gyffredinol

Emma Flatley, Cyfarwyddwr Prosiectau ac Ymgysylltu WNO

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â wellness@wno.org.uk