Newyddion

Opera Cenedlaethol Cymru - Ddoe

26 Ebrill 2021

Pan sefydlwyd Opera Cenedlaethol Cymru, roedd ymgyrchoedd bomio, colli bywydau ac anafiadau, prinder a dogni yn golygu ei bod yn gyfnod anodd i bobl. Ac eto, roedd grŵp bach o artistiaid gweledigaethol yn awyddus i ffurfio cwmni opera cenedlaethol a oedd yn gweddu i dreftadaeth gyfoethog Cymru fel ‘Gwlad y Gân’. Mae ffurfiant y Cwmni wedi'i wreiddio yn ysbryd Cymru yn y 1940au ac yn adlewyrchu'r delfryd o ddemocratiaeth a chydraddoldeb wedi'r rhyfel. Gadewch i ni edrych ar ei ddyddiau cynnar:

Yn 1943, sefydlwyd Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru gydag Idloes Owen yn Gyfarwyddwr Cerdd a blwyddyn yn ddiweddarach cynhaliwyd yr ymarfer cyntaf erioed gyda 60 o gantorion amatur, cerddorion a myfyrwyr mewn capel Methodistaidd. Daeth cantorion y Corws gwirfoddol ar draws de a gorllewin Cymru: glowyr, gweithwyr y pyllau glo, gweithwyr siop, meddygon, nyrsys, athrawon, cyfreithwyr ac ysgrifenyddion.

Yn 1944, cynhaliwyd y cyngerdd cyntaf o ddetholiadau opera gan y Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru amatur newydd yn Theatr Empire, Caerdydd ac yna yn 1946, perfformiwyd yr operâu cyntaf wedi'u llwyfannu'n llawn gan WNOC yn Theatr Tywysog Cymru, Caerdydd. Y perfformiad cyntaf oedd perfformiad dwbl o Cavalleria rusticana gan Mascagni a Pagliacci gan Leoncavallo, ac yna Faust gan Gounod y noson ganlynol. O'r perfformiad cyntaf hwn ar 15 Ebrill yr ydym ni'n dathlu 'penblwydd' WNO.

Roedd y Cwmni yn gwbl amatur bron ar yr adeg honno: ffurfiwyd ei gantorion a cherddorfa 'funud olaf' gan gerddorion lleol, gyda rhai yn dod o'r BBC Players. Roedd y perfformiadau cyntaf yn gofyn ymdrech gan y cwmni cyfan, ar y llwyfan ac oddi arno, gyda chymorth gan gyfeillion a theuluoedd. Aeth y corws gwirfoddol ati i wnïo eu gwisgoedd eu hunain. Cafodd y golygfeydd eu llogi o Lundain.

Daeth dyn busnes lleol o Gaerdydd, sef Bill Smith, yn Rheolwr Busnes y Cwmni, cafodd Norman Jones ei gyflogi fel cynhyrchydd, a Peggy Moreland fel Gweinyddwr.

Roedd natur amatur y blynyddoedd cyntaf yn hynod ddibynnol ar frwdfrydedd y cantorion gwirfoddol, uchelgais a sgiliau perswadio Idloes Owen a phawb yn y Cwmni yn gwneud mwy nag un peth ar unwaith.

Yn artistig, os nad yn ariannol, cafodd perfformiadau cyntaf Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru eu canmol yn frwd ac ymroddedig gan gynulleidfaoedd a beirniaid. Nid oedd amheuaeth y byddai'r Cwmni yn dychwelyd y flwyddyn ganlynol.

Erbyn 1948, cydnabu Bill Smith, a oedd bellach yn gadeirydd Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru, yr angen i'r Cwmni ddod yn sefydlog yn ariannol i gyflawni ei nodau. Ac felly daeth WNOC yn gwmni cyfyngedig. Mae rhesymeg Smith yn parhau i fod yn sylfaen gadarn a chenhadaeth WNO o'r 1940au hyd heddiw: 

ar gyfer hyrwyddo a chyflwyno opera yng Nghymru ac mewn mannau eraill, a chyfrannu at fywyd cerddorol, diwylliannol ac addysgol ein cymuned.