Newyddion

Ymateb Opera Cenedlaethol Cymru i fygythiad i gau Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd

31 Ionawr 2025

Rydym wedi'n hysgwyd gan y cynlluniau i gau Ysgol Gerdd nodedig Prifysgol Caerdydd sydd wedi cynhyrchu rhai o gyfansoddwyr mwyaf dylanwadol a phoblogaidd Cymru, gan gynnwys Grace Williams a Karl Jenkins, lle mentrodd y ddau i ysgrifennu opera yn ystod eu gyrfaoedd anhygoel.

Dyma ergyd aruthrol arall i'r Celfyddydau yng Nghymru. Er gwaetha'r toriadau ar draws y sector mae'r diwydiant diwylliannol a chelfyddydol yng Nghymru wedi parhau i berfformio'n well na phob disgwyl. Mae artistiaid, cerddorion, actorion, cyfarwyddwyr a thechnegwyr o Gymru yn flaengar yn niwydiannau creadigol y DU a ledled y byd ac maent yn hanfodol o ran sicrhau safle Cymru ar lwyfan y byd.

Serch hynny, heb gyrsiau fel y rhai sy'n cael eu cynnig gan yr Ysgol Gerdd, mae dyfodol celf a chreadigedd Cymru yn dod i ben yn y fan a'r lle. Ac, yn hollbwysig, heb fuddsoddiad yn ein cenhedlaeth nesaf o ddoniau, mae enw da rhyngwladol Cymru am ragoriaeth yn y celfyddydau yn y fantol i genedlaethau o Gymry'r dyfodol.