Wrth i Opera Cenedlaethol Cymru gychwyn ar ei daith Tymor y Gwanwyn, mae cyfres newydd o Bodlediad WNO yn archwilio bywydau’r canwyr, cerddorion a’r staff cefn llwyfan wrth iddynt deithio ledled y DU ac yn rhyngwladol.
Mae’r digrifwr a’r cefnogwr opera brwd Lorna Pritchard yn dychwelyd i gyflwyno’r rhaglen The O Word a’r gyfres Gymraeg Cipolwg a bydd yn cael cwmni gwahanol westeion yn cynnwys y sopranos adnabyddus Alexia Voulgaridou ac Elin Pritchard, ynghyd ag amrywiaeth o arwyr tawel sy’n gweithio tu ôl i’r llen mewn adrannau goleuo, gwisgoedd a thechnegol.
Cawsom sgwrs â rhai o’r gwesteion i ddysgu mwy am sut beth yw bywyd ar daith gyda WNO.
Mae Julian Boyce yn aelod o Gorws WNO.
Julian, beth ydych chi'n ei fwynhau fwyaf am fod ar daith gyda WNO?
Rwy’n hynod lwcus fy mod yn cael dod â darn mawr o gartref gyda mi pan fyddaf yn cychwyn ar daith gyda’r Cwmni. Fe gwrddais â’m gŵr yn Opera Cenedlaethol Cymru - mae e hefyd yn aelod o Gorws WNO, felly rydym yn ffodus iawn ein bod yn cael mynd ar daith gyda’n gilydd. Mae ein bywyd teithio’n wahanol iawn i fel yr arferai bod ar ddechrau ein gyrfaoedd gan ein bod fel arfer yn aros yn rhywle lle gallwn ni gyd fod gyda’n gilydd fel un teulu, lle bynnag yr ydym yn y wlad, neu hyd yn oed y byd.
Mae Bethan Kelly a Stevie Haynes-Gould yn Gynorthwywyr Gwisgoedd Teithiol WNO.
Bethan a Stevie, pa heriau fyddwch chi’n eu hwynebu wrth deithio?
Stevie: Gall natur y swydd fod yn drwm iawn ar y corff. Mae’n bosib i ni fynd drwy dair gwahanol broses o osod a dadosod setiau mewn un wythnos, er mwyn cyflawni’r repertoire ym mhob lleoliad. Ar wahân i’r holl waith o baratoi’r gwisgoedd, mae gofyn i ni hefyd gynorthwyo yn ystod y perfformiadau eu hunain yn yr esgyll. Er enghraifft, yn Don Giovanni, mae gwisgoedd y cythreuliaid yn unigryw eu ffurf, felly mae’n rhaid eu cadw ar ochr y llwyfan, sy’n golygu bod gofyn cael gwisgwr unigol ar gyfer bob aelod o gorws y dynion.
Bethan: Ychydig flynyddoedd yn ôl, roedden ni’n gweithio ar Macbeth yn y New Theatre yn Rhydychen. Ar y pryd, roeddwn i’n gwisgo fy oriawr FitBit wrth gario gwisgoedd rhwng y llwyfan a’r ystafelloedd gwisgo ac mewn un perfformiad yn unig, fe gyfrifodd fy FitBit fy mod wedi cerdded deg milltir lan a lawr y grisiau. Felly, rydyn ni’n gweld ein hunain yn gorfod addasu i leoliadau newydd yn eithaf cyflym, ond mae’n her wych.
Mae Ian Douglas yn gwasanaethu fel Rheolwr Cwmni i WNO ers amser a bu’n gweithio i’r cwmni ers dros ddeugain mlynedd.
Ian, mae gennych lawer o gyfrifoldebau yn eich swydd yn WNO yn ystod taith. A allwch chi gofio unrhyw adegau yn arbennig a berodd gryn straen wrth deithio gyda’r cwmni?
Mae fy swydd yn bennaf yn delio gydag argyfyngau. Roedd perfformiad o Carmen yn Birmingham, gyda Jeffrey Lawton yn chwarae rhan Don Jose. Yn union cyn y Flower Song fe syrthiodd a thorri ei benelin. Felly, fe alwon ni ar y gynulleidfa i ofyn tybed a oedd meddyg yn eu plith - a daeth chwech ymlaen! Dywedais wrth un ohonyn nhw, oes posib i chi roi rhywbeth iddo i leddfu’r boen er mwyn ei gario drwy weddill y perfformiad? Ac fe ddywedodd, ‘os rown ni rywbeth i ladd y boen hon, fe fydd allan ohoni am wythnos’. Mae hyn ymhlith yr adegau lle bydd lefelau straen wirioneddol yn mynd drwy’r to.
Bydd WNO ar Daith ar gael yn wythnosol o ddydd Mawrth 22 Mawrth drwy Bodlediadau Spotify, Apple a Google, a thrwy wefan WNO.