Dychmygwch mai heddiw cafoddPeter Grimesgan Benjamin Britten ei rhyddhau a bod operâu’n cael eu sgorio ochr yn ochr â ffilmiau a chyfresi teledu ar blatfformau fel Rotten Tomatoes. Britten yw un o gyfansoddwyr mwyaf adnabyddus y DU, ac yn ddadleuol, Peter Grimes yw un o’i operâu gorau, gan achosi newid amlwg i’r sefyllfa opera ym Mhrydain. Gyda themâu fel moesoldeb ac unigedd, sydd yr un mor berthnasol heddiw ag yr oeddent yn 1945, pan berfformiwyd yr opera am y tro cyntaf, rydym yn tybio y byddai’r sgôr ar Rotten Tomatoes yn uchel ymhlith adolygyddion a chynulleidfaoedd yn yr un modd.

Ond ym mha genre byddai Peter Grimes? Y genre cyffro seicolegol, efallai? Rydyn ni’n meddwl. Dewch i ni ddechrau gyda’r pethau sylfaenol. Mae’r genre cyffro seicolegol yn is-genre o gyffro sy’n canolbwyntio ar agweddau seicolegol tensiwn a phryder, gan fentro’n ddwfn i’r meddwl dynol ac archwilio ofn, paranoia, perswâd, a chymhlethdod seicoleg ddynol. Mae’r genre’n herio cynulleidfaoedd yn ddeallusol ac yn emosiynol, gan gynnwys troeon cymhleth a chymeriadau sy’n anodd pennu a ydynt yn dda neu ddrwg. Meddyliwch am Knife in the Water (1962), Black Swan (2010), a Stranger by the Lake (2014). Pam mae cymaint o ffilmiau cyffro wedi eu lleoli ger dŵr? Byddwn yn cofio Vigil am byth, y gyfres deledu yn 2021 lle fentrodd y Ditectif Prif Arolygydd, Amy Silva (Suranne Jones), ar y llong danfor HMS i archwilio marwolaeth ar y llong. Yn ysu i gelu’r gwir, mae rhaid i’r troseddwr gael gwared ar Amy, ac mewn tro annisgwyl a dramatig, mae hi’n deffro mewn lansiwr teflyn sy’n llenwi gyda dŵr. Rydym yn dal i deimlo’r clawstroffobia a brofwyd wrth wylio.
Nid oes amheuaeth bod gan Peter Grimesbob un o gynhwysion y dramâu anhygoel hyn. Mae’n stori am unigedd, rhagfarn a meddylfryd torf mewn tref fechan, conglfeini unrhyw sioe gyffro seicolegol, meddyliwch am Mare of Easttown (2021) a Broadchurch (2013-2017). Mae Peter Grimes yn gwahodd cynulleidfaoedd i archwilio dyfnder emosiynau dynol a deinameg cymdeithasol o’r dechrau un.
Caiff Grimes ei gyfleu fel rhywun nad yw’n cydweddu, sy’n cael trafferth dod o hyd i deimlad o berthyn o fewn cymuned glòs. Caiff Grimes ei gyhuddo o lofruddio ei brentis; mae'r crwner yn datgan y farwolaeth yn ddamweiniol, ond nid yw hynny’n ei wneud ef yn ddiniwed i gymuned sy’n chwilio am gyfiawnder.

Mae clirio ei enw ac ennill cydnabyddiaeth gadarnhaol gan gymuned sydd wedi ei wrthod yn dod yn obsesiwn i Grimes. Er ei fod yn ymddangos yn rhyfyg, mae’n dod yn glir ei fod â breugsrwydd mewnol. Mae diffyg rhyddid ariannol, effeithiau negyddol pysgota, diffyg cysylltiad dynol a’i obsesiwn gydag ennill parch gan ei gyfoedion, yn arwain at ddirywiad yn iechyd meddwl y cymeriad cymhleth hwn. Mae’r gerddoriaeth drwy gydol yr opera yn hollbwysig i ddeffro’r teimlad cynyddol o densiwn.
Mae amwysedd drwy gydol Peter Grimes, pwy sydd ar fai go iawn? Grimes ynteu’r pentrefwyr? A yw Grimes yn ddrwg neu ydyw’n cael ei arwain i fod yn ddrwg? A yw ei weithredoedd yn ganlyniad uniongyrchol o helfa’r pentrefwyr i ganfod troseddwr mewn chwiliad camarweiniol i geisio cyfiawnder? Fel unrhyw beth da sydd ag elfen o gyffro, mae Peter Grimes yn eich cadw ar bigau’r drain hyd nes y diwedd un.