Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn tynnu pythefnos o’r Tymor 2024/2025 a gyhoeddwyd yn flaenorol.
O ganlyniad i heriau ariannol cynyddol, mae’r Cwmni wedi gorfod gwneud y penderfyniad anodd i gwtogi Tymor 2024/2025. Mae’r newidiadau hyn yn golygu na fydd y Cwmni bellach yn teithio i Bristol Hippodrome ym mis Chwefror 2025, ac ni fydd yn teithio i Venue Cymru, Llandudno ym mis Mai 2025. Nid yw hyn yn effeithio ar ein hymrwymiad i ymestyn ein cyrhaeddiad ledled Cymru, a bydd WNO yn dal i ymweld â Venue Cymru yn yr Hydref fel y bwriadwyd gyda chynhyrchiad newydd o Rigoletto ynghyd â Suor Angelica a Gianni Schicchi a pherfformiad o Ffefrynnau Opera.
Yn ogystal, ni fydd perfformiad o Rigoletto yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd ym mis Chwefror 2025 fel y bwriadwyd, ond ni fydd hynny’n effeithio ar berfformiadau o’r cynhyrchiad newydd hwn yn yr Hydref.
Gwnaed y penderfyniad o ganlyniad i’r heriau economaidd sy’n wynebu pob sector, yn ogystal â gostyngiad sylweddol yng nghyllid cyhoeddus WNO, sydd wedi golygu bod angen i’r Cwmni gyflwyno arbedion cyllidebol sylweddol.
Mae WNO yn derbyn cyllid Sefydliad Portffolio Cenedlaethol (NPO) gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac Arts Council England (ACE) i ddarparu opera graddfa fawr, cyngherddau a gwaith yn y gymuned ledled Cymru ac i ddinasoedd mawr a rhanbarthau yn Lloegr. Fel rhan o’u cyhoeddiadau diweddar ynghylch cyllido, mae WNO wedi derbyn gostyngiad o 35% (£2.2m) yn y cyllid a gaiff gan ACE, a gostyngiad o 11.8% yn y cyllid a gaiff gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer 2024/2025 yn erbyn y cais (£4.5m) ar gyfer cyllid digyfnewid.
Mae’r Cwmni wedi trafod y newidiadau i’r Tymor arfaethedig gyda’r Cynghorau Celfyddydau, yn ogystal â’r lleoliadau ym Mryste a Llandudno.
Meddai Christopher Barron, Cyfarwyddwr Cyffredinol Dros Dro WNO:
‘Rydym wedi gorfod gwneud y penderfyniad anodd o gyflwyno newidiadau i’n Tymor ar gyfer 2024/2025, a gwyddwn y bydd hynny’n siom fawr i’n cynulleidfaoedd ym Mryste a Llandudno. Bydd ein partneriaid yn y lleoliadau yn cysylltu gyda phawb sydd eisoes wedi archebu tocynnau i drefnu cyfnewid neu ad-dalu.
‘Mae ein sefyllfa ariannol newydd yn golygu ein bod yn wynebu’r her o gydbwyso cyllideb lai gan hefyd gynnal safonau artistig er mwyn darparu rhaglen gyffrous o berfformiadau a gweithgareddau ymgysylltu. Mae hyn yn golygu gwneud penderfyniadau anodd, ond nid oes modd osgoi hynny dan yr amgylchiadau. Mae’r penderfyniadau wedi cael eu hystyried yn ofalus ac wedi cael eu trafod gyda’n lleoliadau a’r Cynghorau Celfyddydol.
‘Er ein bod yn anffodus yn colli wythnos yn Llandudno ym mis Mai, rydym ni’n falch ein bod yn dal i ymweld â Venue Cymru yn yr Hydref gyda’n cynhyrchiad newydd o Rigoletto a gyda Suor Angelica a Gianni Schicchi, yn ogystal â’n cyngerdd newydd a phoblogaidd, Ffefrynnau Opera. Rydym ni hefyd yn parhau i weithio ledled Cymru gyda’n rhaglen o gyngherddau a’n gwaith ymgysylltu cymunedol a fydd yn cynnwys prosiect creadigol gydag ysgolion ar draws Conwy yn 2024/2025.
‘Mae WNO yn cynrychioli Cymru ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol yn ogystal â chreu a chyflawni prosiectau sy’n effeithio’n gadarnhaol ar gymunedau. Rydym ni wedi ymrwymo i barhau i gyflawni’r gwaith hwn a sicrhau ein dyfodol hirhoedlog fel cwmni opera cenedlaethol Cymru.’