Fel rhan o Eisteddfod Genedlaethol Cymru, sydd eleni yn cymryd lle ym Mae Caerdydd, cartref Opera Cenedlaethol Cymru - byddwn yn cynnal 3 ddigwyddiad fel rhan o weithgaredd theatr a cherddoriaeth glasurol y maes.
Fel rhan o bartneriaeth barhaol gyda ‘Caffi’r theatrau, bydd WNO yn ogystal â chwmnïau theatr Cymraeg eraill yn cymryd drosodd Caffi Sïo trwy gydol wythnos yr Eisteddfod, gyda phob cwmni yn cynnal gweithgareddau amrywiol gan gynnwys perfformiadau a gweithdai ar ddiwrnodau gwahanol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych allan am rai o gorws WNO ar ddydd Gwener 10 Awst - efallai byddwch yn dod ar draws perfformiad annisgwyl…
Mae’r Eisteddfod hefyd wedi lansio rhaglen newydd o’r enw ENCORE sydd â’r bwriad o ddarparu llwyfan ar gyfer cerddoriaeth glasurol. Fel rhan o gyfres o weithdai, perfformiadau a sgyrsiau yn yr Eglwys Norwyaidd, bydd mynychwyr Eisteddfod yn gallu dod i fwynhau datganiad o gerddoriaeth glasurol Gymreig gan aelodau o Gorws a Cherddorfa WNO. Yn ogystal â hwn, byddwn hefyd yn cynnal sesiwn Dewch i Ganu, lle bydd mynychwyr yr Eisteddfod yn gallu dysgu Can y Toreador o Carmen. Does dim angen profiad blaenorol - dewch i ymuno ac i fwynhau!
Mae’r digwyddiadau am ddim felly dewch draw i ddweud Shwmae/Su'mae!
Sadwrn 4 Awst – Datganiad WNO @ Eglwys Norwyaidd 3pm
Iau 9 Awst – Dewch i Ganu @ Eglwys Norwyaidd 3pm
Gwener 10 Awst - Aria agored @ Caffi Sïo 2pm, 2:30pm a 3:30pm
@WNOtweet @OperaCenCymru #WNOcomesing #WNODewchiganu